Lle mae’r hwyl yn dechrau!
Yn dilyn llwyddiant ein rhaglen Cynllun Chwarae haf, rydym yn gyffrous i gyflwyno ein darpariaethau newydd ar gyfer yr hydref. Mae ein tîm ymroddedig, sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy’r haf a thu hwnt, yn barod i wneud y dyddiau a’r nosweithiau oer yn fwy pleserus a chwareus. Bydd Darpariaethau Chwarae Hydref Sir y Fflint a Chlybiau Pontio yn cael eu darparu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint a phartneriaid.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn cael eu trefnu mewn cydymffurfiaeth â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cynlluniau chwarae mynediad agored yn ddiogel.
Dydd Llun
Holway, Meadowbank Ardal Chwarae: 4pm - 5:30pm
Maes Glas, Canolfan Ieuenctid: 4pm - 5:30pm
Dydd Mawrth
Sealand, Canolfan Ieuenctid: 4pm - 5:30pm
Dydd Mercher
Penyffordd (Treffynnon), Ardal Chwarae: 4pm - 5:30pm
Dydd Iau
Coed-llai, Canolfan Ieuenctid: 4pm - 5:30pm
DIM COST
Bydd yr holl sesiynau am ddim.
OEDRANNAU
Darpariaethau Chwarae – 5 – 12 mlwydd oed
Clybiau Pontio – 9 – 13 mlwydd oed
CYSYLLTWCH Â
Cymraeg:
DatblyguChwarae@siryfflint.gov.uk /
01352 704154
Saesneg:
PlayDevelopment@flintshire.gov.uk /
01352 704154
Bydd y sesiynau chwarae’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint.
Ymgeisiwch Rŵan