Alert Section

Cynllun Ysgolion Iach


Lansiwyd Cynllun Ysgolion Iach Sir y Fflint ym mis Hydref 2000, ac mae’n aelod o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.  Mae Cynllun Ysgolion Iach Sir y Fflint yn brosiect cydweithredol rhwng Iechyd ac Addysg ac mae’n cydnabod y gall gweithio ar y cyd fel hyn fod yn fuddiol i iechyd a chyraeddiadau pobl ifanc.  Achredwyd y cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Mawrth 2003.

Mae’r cynllun yn ymroddedig i gefnogi ac annog twf a gweithrediad y Fframwaith ABCh mewn ysgolion yn ogystal â sicrhau fod blaenoriaethau iechyd cenedlaethol yn cael eu hystyried ym mywyd bob dydd yr ysgol ar gyfer disgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

Mae’r cynllun yn anelu at helpu ysgolion i wella trwy sefydlu hinsawdd ysgol iach lle caiff gwell iechyd a lles ei adlewyrchu mewn gwell safonau addysgol a lle caiff pob aelod o’r gymuned eu gwerthfawrogi a’u cynorthwyo i ddatblygu.  Mae Hybu Iechyd mewn ysgolion yn gyfuniad o addysg iechyd yn y cwricwlwm a phob cam gweithredu arall y mae ysgol yn eu cymryd i amddiffyn a gwella iechyd y rheiny sydd ynddi.  Mae’r gymuned yn gyffredinol yn gysylltiedig â chynllunio, gweithredu, gwerthuso a dathlu.

Manteision bod yn ysgol sy’n hybu iechyd

Pwrpas y cynllun yw sicrhau fod hybu iechyd yn dod yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, y sefydliad ac ethos yr ysgol a bod y gymuned ehangach yn rhan o’r gwaith cynllunio, gweithredu, gwerthuso a dathlu.  Y canlyniadau a fwriedir yw gwelliannau mesuradwy yn iechyd ac addysg yr ysgol a’r gymuned ehangach.  Ni ddylid edrych ar y Cynllun Ysgolion Iach fel baich ychwanegol gan fod llawer o’r hyn sy’n gwneud ysgolion yn ysgolion iach yn digwydd eisoes.  Gan hynny, ni fyddai’n anodd i ysgol gyflawni’r gwaith dan sylw a’r newidiadau posibl y byddai angen eu gwneud.  Trwy gymryd rhan yn y cynllun, bydd yr ysgol yn cael cymorth yr awdurdod i ymrwymo i ganolbwyntio ar feysydd i’w gwella a nodwyd.  Bydd y cynllun yn cynorthwyo ysgolion i gynllunio a darparu rhaglen addysg iechyd effeithiol.

Mae penaethiaid ac athrawon yn anelu at godi safonau mewn ysgolion ond mae rhai’n cwestiynu beth yw’r cysylltiad rhwng ysgol iach â chodi safonau addysg?  Mae ysgol iach yn ysgol hapus.  Mae ysgol effeithiol yn ysgol iach.  Mae’n hybu iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol, nid yn unig trwy ddarparu mynediad at wybodaeth am y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd, ond hefyd trwy arfogi disgyblion â sgiliau ac agweddau i wneud dewisiadau deallus.  Mae unigolyn iach a hapus yn gwybod sut i uniaethu ag eraill, yn hyderus, yn fwy egnïol ac felly’n methu llai o waith.  Hefyd, mae’r gwaith a wneir trwy’r cynllun yn galluogi ysgolion i wella ansawdd addysgu a dysgu a gwella cysylltiadau rhwng yr ysgol, ei disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol.

Mae ABCh yn ymgorffori ystod o brofiadau i hyrwyddo lles personol a chymdeithasol plant ac yn eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad o hunanwerth ac uniaethu’n effeithiol ag eraill.  Mae ysgol sy’n ymroddedig i ddarparu amgylchedd iach yn cyflawni nifer o nodau ABCh.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a:

Ymarferwr Ysgolion Iach: 01352704054