Alert Section

Gwyliau Ysgol a Dyddiau Hyfforddi


Dyddiau Hyfforddiant Athrawon

Llywodraeth Cymru - Dyddiadau tymhorau ysgol - Rheoliadau

Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio Deddf Addysg (Cymru) 2014 i wneud newidiadau deddfwriaethol i’r modd y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu er mwyn cysoni’r dyddiadau ar draws pob ysgol a gynhelir. Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gallu rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch dyddiadau eu tymhorau os nad yw'r dyddiadau hynny wedi'u cysoni, neu os oes angen eu newid.

Dyddiadau Tymor wedi’u Cysoni a Chyfeiriad y Gweinidog 

Dyddiadau hyfforddiant arferol 

Nodwch y cynhelir pum niwrnod hyfforddi i staff addysgu yn flynyddol. Ar ddiwrnodau hyfforddi, mae safle’r ysgol yn agored ond ni fydd mynediad i ddisgyblion.  Nid yw’r Awdurdod Lleol yn awgrymu diwrnodau hyfforddi penodedig bellach.  Mae ysgolion yn gyfrifol am osod eu diwrnodau hyfforddi eu hunain. Gweler gwefan ysgol eich plentyn am fanylion.

Dyddiadau Tymor Ysgol 2024 / 2025

 Tymor yr Hydref: 2 Medi 2024 - 20 Rhagfyr 2024

  • Hanner Tymor: 28 Hydref 2024 - 1 Tachwedd 2024

Tymor y Gwanwyn: 6 Ionawr 2025 - 11 Ebrill 2025

  • Hanner Tymor: 24 Chwefror 2025 - 28 Chwefror 2025

Tymor y Haf:  28 Ebrill 2025 - 21 Gorffenaf 2025

  • Hanner Tymor: 26 Mai 2025 - 30 Mai 2025

Dyddiadau Tymor Ysgol 2025 / 2026

 Tymor yr Hydref: 1 Medi 2025 - 19 Rhagfyr 2025

  • Hanner Tymor: 27 Hydref 2025 - 31 Hydref 2025

Tymor y Gwanwyn: 5 Ionawr 2026 - 11 Ebrill 2026

  • Hanner Tymor: 16 Chwefror 2026 - 27 Mawrth 2026

Tymor y Haf: 13 Ebrill 2026 - 20 Gorffenaf 2026

  • Hanner Tymor: 25 Mai 2026 - 29 Mai 2026

Gwyliau Yn ystod Amser Tymor Canllaw

Ni ddylech fynd â'ch plentyn ar wyliau yn ystod y tymor oherwydd fe allai hyndarfu ar addysg eich plentyn ac ar yr ysgol.

Dim ond y pennaeth neu rywun â'r awdurdod priodol gaiff gytuno i chi fynd âphlentyn ar wyliau yn ystod y tymor a hynny yn ôl eu doethineb:

  • Fel arfer y rhiant mae'r plentyn yn byw gyda'r gymwys i'r ysgol cyn ygwyliau
  • Mae yna resymau arbennig am y gwyliau

Dan amgylchiadau eithriadol yn unig, gallant gytuno i'r plentyn fod ynabsennol am 10 diwrnod ar y mwyaf mewn unrhyw flwyddyn ysgol. Dylechdrafod unrhyw gynlluniau gwyliau gyda'r ysgol cyn i chi eu trefnu.

Bydd pob cais am wyliau'n cael ei drin ar ei haeddiant ei hun ac ystyrir ycanlynol:

  • ar ba adeg o'r flwyddyn y bwriedir mynd
  • a yw'r adeg honno'n agos at amser arholiadau
  • patrwm presenoldeb eich plentyn yn gyffredinol
  • unrhyw wyliau a gymerwyd eisoes yn ystod y flwyddyn ysgol
  • oedran eich plentyn ac ar ba gyfnod y mae yn yr ysgol
  • eich dymuniadau chi
  • gallu'ch plentyn i gwblhau'r gwaith y mae wedi'i golli
  • y rheswm pam eich bod yn cymryd amser i ffwrdd yn ystod tymor yr ysgol.

Ni fydd ysgolion yn ystyried eich cais am wyliau os mai un o'r rhesymaucanlynol sydd wrth wraidd eich penderfyniad:

  • eich bod eisiau mynd ar wyliau gan ei fod yn rhad ar adeg benodol
  • eich bod yn dewis mynd ar wyliau ar sail y math o lety yr ydych ynchwilio amdano, a phryd y mae ar gael
  • y tywydd wedi bod yn wael yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol
  • bod y gwyliau'n gorgyffwrdd â dechrau neu ddiwedd tymor yr ysgol.