Alert Section

Canolfan Enfys


Mae’r Cyngor wedi gofyn am eich barn am gynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth yng Nghanolfan Enfys a symud y ddarpariaeth o reolaeth bresennol Plas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion) i reolaeth Ysgol Pen Coch.  Bydd y cynnig yn golygu bod y capasiti arferol yn Ysgol Pen Coch yn cynyddu o 98 i 128 erbyn 1 Ebrill 2025.

Byddai’r cynnydd mewn capasiti arferol yn cael ei gyflawni wrth i Ysgol Pen Coch gymryd rheolaeth o Ganolfan Enfys ar ei safle presennol sydd ar yr un safle ag Ysgol Bryn Gwalia yn Yr Wyddgrug.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ddydd Mercher, 5 Mehefin 2024, a daeth i ben ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2024.

Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y ddolen cyswllt isod.

Cyflwynwyd hysbysiad statudol o’r cynnig, cynhaliwyd y cyfnod hysbysiad statudol o 7 Tachwedd 2024 i 4 Rhagfyr 2024 lle'r oedd unrhyw berson yn gallu gwrthwynebu’r cynnig. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ar gyfer y cynnig hwn.

Hysbysiad o’r Penderfyniad

Ar ddydd Mawrth 18 Chwefror 2025, bu i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno i’r cynnig i ad-drefnu Canolfan Enfys o dan reolaeth Ysgol Pen Coch a chynyddu’r capasiti o 98 i 128 o 1 Ebrill 2025.

Ystyriodd y Cabinet y cynnig, yr adroddiad gwrthwynebiad statudol ac ymateb yr awdurdod lleol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.  Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo’r cynnig.

Mae llythyr y penderfyniad a’r adroddiad gwrthwynebiad ar gael drwy ddilyn y dolenni cyswllt isod.

Caiff y llythyr penderfyniad hwn a’r Adroddiad Gwrthwynebiad ei gyhoeddi mewn copi papur, os oes angen copi papur o’r ddogfen hon arnoch, neu gopi o’r ddogfen mewn fformat gwahanol e.e. Braille neu brint bras, neu gymorth gyda dehongli mewn iaith wahanol, cysylltwch â’r Tîm Moderneiddio Ysgolion ar 01352 702188 / 01352 704014, neu e-bostiwch 21stCenturySchools@flintshire.gov.uk