Alert Section

Ysgol Uwchradd Castell Alun, Yr Hob


Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud gwaith yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, Yr Hob, ar brosiect a fydd yn gwella darpariaeth addysg yn yr ardal.  Bydd y Cyngor yn buddsoddi dros £0.5 miliwn yn yr ysgol er mwyn darparu bloc addysgu Celf a Dylunio Technoleg newydd a llety mewnol wedi ei ailfodelu.  

Bydd amgylchedd dysgu gwell yn gymorth i ysbrydoli disgyblion i ddysgu ac yn cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.   Mae’r prosiect yn hyrwyddo Cymru sy’n fwy cyfartal drwy ddarparu cyfleusterau cyfoes a fydd yn dymchwel y rhwystrau sy’n atal dysgu a chynyddu’r tebygolrwydd y bydd plant a phobl ifanc yn cyflawni eu llawn botensial.  

Lansiwyd y prosiect yn swyddogol ym mis Hydref 2018, a bydd yn cael ei ddarparu gan Willmott Dixon. Disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2020 / dechrau 2021.

Y Prif Gerrig Milltir:

Datganiad i’r Wasg:  Cyhoeddi’r Prosiect Hydref 2018 

Llun Cyhoeddi'r Prosiect