Arddangos cynlluniau ysgolion
Roedd dyluniadau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac uwchradd newydd yn Nhreffynnon wedi eu harddangos i'r cyhoedd mewn digwyddiad galw heibio anffurfiol.
Bydd un ysgol gynradd newydd yn disodli Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau y Fron ar yr un safle â’r ysgol uwchradd newydd ar gyfer plant 11 i 16 oed.
Bydd y datblygiad blaenllaw gwerth £30 miliwn yn cael ei adeiladu ar safle Ysgol Uwchradd Treffynnon ar dir ar ben cae presennol yr ysgol.
Mae uwch staff ysgolion, swyddogion addysg a phenseiri wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i lunio’r cynllun gorau. Gofynnir i rieni a phobl leol leisio eu barn am y cynlluniau arfaethedig mewn digwyddiad galw-heibio yn Ysgol Uwchradd Treffynnon ar ddydd Mawrth 22 Hydref rhwng 5.30pm a 7.30pm.
Bydd gan yr ysgol uwchradd newydd arfaethedig 600 o leoedd, a bydd gan yr ysgol gynradd 315 o leoedd. Bydd plant cynradd a myfyrwyr uwchradd yn cael eu haddysgu mewn adeilad arloesol gyda phob cyfleuster TG modern i gynorthwyo dysgu.
Disgwylir y bydd yr ysgolion ar agor o fis Medi 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, sy’n Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddysgu Gydol Oes:
“Mae darpariaeth y campws dysgu newydd cyffrous hwn yn Nhreffynnon yn dod yn nes a nawr gallwn rannu’r cynlluniau a dyluniadau arfaethedig gyda rhieni a’r gymuned leol. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn achub ar y cyfle i ddod draw a rhoi eu barn i ni.”
Cynllun Llawr gwaelod fel Arfaethedig
Cynllun Llawr cyntaf fel Arfaethedig
Cynllun Ail Lawr fel Arfaethedig