Alert Section

Datblygiad Campws Mynydd Isa 3 -16


Mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen â chynlluniau i fuddsoddi mewn campws 3-16 newydd ym Mynydd Isa. Bydd y prosiect arfaethedig yn darparu Ysgol Gynradd newydd ar gyfer 600 o ddisgyblion llawn amser a 43 o Ddisgyblion Meithrin ac Ysgol Uwchradd ar gyfer 700 o ddisgyblion, ar drefniant campws ar safle presennol Ysgol Uwchradd Argoed. Y gobaith yw y bydd y campws newydd yn weithredol erbyn mis Medi 2023, yn amodol ar y caniatâd/gymeradwyaeth angenrheidiol.

Ble alla i fynegi fy marn?
Dechreuodd ymgynghoriad ffurfiol cyn ymgeisio ar gais cynllunio drafft Campws Mynydd Isa ar 22 Gorffennaf 2021 a daw i ben ar 23 Awst 2021.Mae copi llawn o’r ymgynghoriad hwn i’w weld yma:-
https://wepco.cymru/projects/mynydd-isa/

Mae byrddau arddangos hefyd wedi'u lleoli yn y Ganolfan Gymunedol, ar Mercia Drive, Mynydd Isa, ac mae blwch gollwng yno hefyd ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fynediad at negeseuon e-bost na'r rhyngrwyd.

 

Pam fod y Cyngor yn cynnig y buddsoddiad hwn?

Mae gan y Cyngor strategaeth i gyfuno'r holl gyfleusterau babanod ac iau sydd ar wahân, a'r broses statudol o gyfuno a gwblhawyd yn flaenorol yw adeiladu ysgol newydd i ddod â'r ddau safle presennol at ei gilydd. Ysgol Mynydd Isa yw'r ysgol gynradd olaf yn Sir y Fflint sydd ar fwy nag un safle. Yn ogystal â hyn, mae gan y ddau safle faterion yn ymwneud ag addasrwydd a chyflwr adeiladau.

Mae gan Ysgol Uwchradd Argoed nifer o ddiffygion o ran yr adeiladau a materion na ellir mynd i'r afael â nhw'n hawdd gan fod yr ysgol bresennol yn cael ei hadeiladu. 

Y dewis gorau yw darparu cyfleusterau newydd Ysgolion 21ain Ganrif ar gyfer yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.

Beth mae campws 3-16 yn ei olygu mewn gwirionedd?

Bydd yr ysgolion yn cadw eu hunaniaeth unigol fel ysgolion cynradd ac uwchradd fel y maen nhw ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, fe fyddan nhw’n rhannu safle/campws. Mae hyn yn debyg i'r campws 3-16 a adeiladwyd yn ddiweddar gan y Cyngor yn Nhreffynnon. 

Sut mae'r cynllun yn cael ei ariannu?

Mae’r Cyngor yn defnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) sef ffurf newydd Llywodraeth Cymru ar Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat.

Penodir cwmni sector preifat drwy fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru, Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) ac maen nhw’n ariannu, yn adeiladu ac yn darparu adeilad 'cylch bywyd' 25 mlynedd.  Mae hyn yn golygu bod y cyfrifoldeb am ariannu ac adeiladu'r adeilad, ac yna atgyweirio a chynnal a chadw'r adeilad am 25 mlynedd ar ôl ei adeiladu, yn aros gyda'r contractwr.  Mae hyn yn arwain at gynnal a chadw adeiladau a ariennir gan MBC ar lefel gyson uchel am 25 mlynedd.

Bydd y Cyngor yn derbyn 81% o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r prosiect hwn, gyda'r Cyngor yn ariannu'r 19% sy'n weddill.  Mae ymrwymiad ariannol y Cyngor wedi'i gynnwys yn strategaeth ariannol y Cyngor. 

Pwy yw WEPCo?

Menter ar y Cyd yw WEPCo - partneriaeth hirdymor rhwng Banc Datblygu Cymru (Llywodraeth Cymru) a Meridiam i ddatblygu cyfleusterau Addysg ar ran Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru.

Rôl WEPCo yw hwyluso'r gwaith o ddarparu tua 30 o gyfleusterau addysg newydd (ysgolion cynradd, ysgolion gydol oes, ysgolion uwchradd a cholegau) gan ddefnyddio'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) yng Nghymru, fel rhan o Raglen Fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. 

Enwebwyd y prosiect arfaethedig ym Mynydd Isa gan Lywodraeth Cymru fel ysgol fraenaru MBC, ac os bydd yn llwyddiannus, hon fydd y gyntaf yng Nghymru i'w chyflawni o dan y fenter newydd hon.

Mae gen i bryderon am ddisgyblion Cynradd yn cymysgu â disgyblion Uwchradd?

Mae'r ysgolion wedi'u cynllunio i fod yn annibynnol, yr unig gyfleusterau a rennir yw'r lle parcio ar gyfer staff ac ymwelwyr, derbynfa ymwelwyr a chegin yr ysgol. Mae cynllun mewnol yr ysgol yn cynnwys parthau ar gyfer y cynradd a’r uwchradd fel bod y ddwy ysgol ar wahân i'w gilydd. Bydd ardaloedd allanol yn cael eu gwahanu, gan ddefnyddio ffensys o faint priodol ac fe fyddan nhw’n unol â chanllawiau bwletinau adeiladu. Mae'r Cyngor wedi adeiladu campws 3-16 yn Nhreffynnon sydd wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd heb unrhyw broblemau.   

Fydd yr holl gyfleusterau angenrheidiol yn ffitio i un safle?

Byddan, mae'r campws wedi'i gynllunio'n benodol i fodloni'r holl reoliadau a chanllawiau adeiladu perthnasol ar gyfer adeiladau’r ysgol a'r ardaloedd allanol 

Fydd yr ystafell fwyta'n cael ei rhannu?

Na fydd, er y bydd yr ysgolion yn rhannu un gegin, maen nhw wedi’u cynllunio fel bod modd gweini'r disgyblion cynradd ac uwchradd ar wahân, felly bydd disgyblion yn bwyta yn eu hysgolion eu hunain.   

Fydd gwisgoedd yn aros yr un fath?

Mae hyn yn un o swyddogaethau cyrff llywodraethu’r ysgolion, bydd y ddwy ysgol yn parhau'n annibynnol. Nid oes unrhyw gynlluniau'n lleol i newid y gwisgoedd presennol. 

Fydd amseroedd gollwng plant yn digwydd am yn ail?

Unwaith eto, swyddogaeth cyrff llywodraethu’r ysgolion yw hon. Ar hyn o bryd, mae'n rhy gynnar yn y broses i ystyried hyn. Fodd bynnag, yn nes at yr amser bydd llywodraethwyr y ddwy ysgol yn ystyried hyn yn fanylach. 

Beth am Glybiau Ar Ôl Ysgol/ Brecwast

Bydd y rhain yn parhau i weithredu fel y maen nhw ar hyn o bryd.

Fydd gan yr ysgolion Ddodrefn a TGCh newydd fel rhan o'r adeilad newydd?

Bydd, bydd pecyn dodrefn sefydlog a symudol llawn ynghyd â TG (isadeiledd ac offer) yn rhan o'r prosiect buddsoddi arfaethedig.  

Beth fydd yn digwydd i'r hen Ddodrefn ac Offer?

Bydd unrhyw ddodrefn ac offer (gan gynnwys TG) y gellir eu defnyddio yn cael eu hail-gylchu'n ôl i ystâd Ysgolion Sir y Fflint. Byddwn hefyd yn gweithio gydag elusennau a chyrff eraill i sicrhau, lle y bo'n bosibl, bod dodrefn nad ydynt yn addas i'w hailgylchu yn ôl i ystâd yr ysgol yn cael eu huwchgylchu yn unol â hynny, gan gyfyngu ar wastraff.

Fydd y cyfleusterau a'r offer newydd yn fodd i gynnig cwricwlwm gwell?

Mae gan y ddwy ysgol raglenni gwella eisoes, fodd bynnag, mae cyfleusterau newydd ysgol yr 21ain Ganrif a'r gofod yn dileu'r cyfyngiadau presennol oherwydd diffygion yr adeiladau presennol ac yn rhoi cyfle i ysgolion wella eu cynnig addysg yn lleol.

Rwy'n pryderu y bydd mwy o draffig? 

Ni fyddai unrhyw newid i lefelau traffig yn yr ardal yn seiliedig ar y niferoedd presennol sydd wedi cofrestru ar gyfer Ysgol Argoed ac Ysgol Mynydd Isa. Byddai traffig yn cael ei ailddosbarthu wrth i leoliad yr ysgol gynradd newid. Unwaith y bydd y campws newydd yn llawn, efallai y bydd traffig yn cynyddu ychydig, ond mae gwaith modelu cyffyrdd wedi'i wneud yn seiliedig ar ddata a arsylwyd ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n dangos y byddai pob cyffordd yng nghyffiniau'r safle yn gweithredu o fewn eu capasiti yn seiliedig ar y senario waethaf lle nad oes unrhyw ostyngiadau o ran teithiau wedi'u cynnwys yn unol â’r gostyngiad mewn teithiau gyrwyr ceir o ran y Cynllun Teithio. Mae'r asesiad yn caniatáu ar gyfer y disgyblion ychwanegol yn ogystal ag ailddosbarthu teithiau presennol.

Fydd rhieni/gofalwyr/disgyblion yn cael eu hannog i gerdded neu feicio i'r ysgol?

Bydd gan y Cyngor gyfrifoldeb i annog rhieni, gofalwyr a disgyblion i ddewis dulliau eraill o deithio ar wahân i gerbydau.

Bydd yr ysgolion wedi datblygu "Cynlluniau Teithio" a fydd yn mynd ati i annog rhieni/gofalwyr i gerdded/beicio/defnyddio sgwteri i'r ysgol lle bo hynny'n bosibl. Bydd yr Ysgolion yn gweithio gyda thîm diogelwch y ffyrdd y Cyngor i annog mentrau lleol cynaliadwy, mae gan y gymuned ei hun rôl bwysig yma.  Darperir rheseli beiciau/siediau sgwteri ar y campws fel rhan o'r prosiect arfaethedig.B

ydd digon o le parcio ar y safle i staff ac ymwelwyr â'r ysgol. Hefyd caiff y man gollwng plant ar gyfer rhieni ei wella.

Dim ond er mwyn adeiladu tai newydd ar safleoedd ysgolion iau a babanod y mae'r Cyngor yn gwneud hyn?

Mae'r penderfyniad i fuddsoddi yn yr ysgolion yn yr ardal wedi'i wneud ar sail angen oherwydd diffygion a chyflwr yr adeiladau presennol, ysgolion ar wahanol safleoedd ac anawsterau wrth addasu adeiladau presennol.

Nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer y safleoedd cynradd Babanod ac Iau presennol gan eu bod yn dal i fod yn ysgolion gweithredol ac fe fyddan nhw’n parhau felly nes bod y campws newydd yn barod i'w ddefnyddio'n swyddogol. Mae gan y Cyngor broses o bennu safleoedd dros ben drwy ei Gabinet.

Nid yw'r safleoedd ysgolion cynradd presennol wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

Rwy'n pryderu am y tarfu yn sgil adeiladu yn Ysgol Uwchradd Argoed?

Mae Iechyd a Diogelwch Disgyblion, staff ac ymwelwyr ag ysgol uwchradd Argoed yn ystod y cam adeiladu yn hollbwysig. Mae gan WEPCo, eu partner adeiladu dewisol a thîm y Cyngor brofiad o ddarparu adeiladu ysgolion mewn amgylcheddau "byw". Mae'r ysgol newydd a sut y caiff ei hadeiladu mewn amgylchedd gweithredol wedi bod yn elfen annatod o gynllunio’r prosiect a bydd y gwaith datblygu’n parhau mewn cydweithrediad â'r ysgol er mwyn lleihau effaith gweithgareddau adeiladu ar weithrediad yr ysgol. Bydd cynllun rheoli adeiladu yn egluro sut y bydd yr ysgol a'r safle adeiladu yn cael eu cadw ar wahân yn ddiogel yn ogystal â sut y caiff y llwythi eu cydgysylltu rhag eu bod digwydd ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Yn ystod y cam adeiladu bydd perthynas waith agos gyda'r contractwr a'r Ysgol yn ogystal â chymdogion lleol ynghylch gweithgareddau parhaus.

Bydd manteision ychwanegol i'r ysgol gyda'r WEPco a'i phartner adeiladu yn cwblhau gweithgareddau cyfoethogi'r cwricwlwm drwy swyddogaethau adeiladu a thechnegol.

Beth sydd o'i le ar adeiladau presennol yr ysgol?

Mae nifer o broblemau’n ymwneud ag adeiladau Ysgol Argoed ac Ysgol Mynydd Isa gan gynnwys:-
• Adeiladau sy'n mynd yn hŷn ac mewn cyflwr gwael
• Adeiladau nad ydynt yn addas i ddiwallu anghenion disgyblion
• Ysgol gynradd ar wahanol safleoedd
• Adeiladau nad ydynt yn gallu mynd i'r afael yn llawn ag anghenion disgyblion ag anabledd
• Ystafelloedd dosbarth symudol ar gyfer prinder lle i ddisgyblion
• Diffyg trefniadau addas ar gyfer gollwng/nôl disgyblion
• Diffyg cyfleusterau parcio addas ar y safle
• Diffyg ym maint a nifer y cwricwlwm a mannau addysgu arbenigol
• Diffyg amgylcheddau addysgu o faint addas, neuadd a lle bwyta mewn lleoliad priodol
• Diffyg nifer digonol o ardaloedd adnoddau dysgu (ystafelloedd grwpiau bach)
• Diffyg ardaloedd gweinyddol/staff
• Diffyg darpariaeth briodol ar gyfer anghenion ADY
• Yr angen i gwrdd â'r diffygion yn Neddf Cydraddoldeb 2010 gan fod y rhwystrau ffisegol a grëwyd gan y dyluniad presennol a newidiadau mewn lefelau yn ei gwneud bron yn amhosibl eu datrys
• Rheoli tymheredd/ynni haul gwael

Beth fydd manteision yr adeilad newydd i bob ysgol?

Bydd y campws 3-16 oed newydd yn darparu cyfleusterau newydd sy'n addas ar gyfer addysg yr 21ain  ganrif sy'n mynd i'r afael â'r holl ddiffygion presennol. Bydd hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at leihau ôl troed carbon ac mae'n cael ei gynllunio fel y bydd y safonau gweithredu yn ddi-garbon net. Mae hyn yn golygu y bydd y swm cyfatebol o ynni gweithredol a ddefnyddir ar y safle yn cael ei gynhyrchu gan baneli solar wedi'u gosod ar y to. Bydd yr adeiladau hefyd yn isel mewn carbon ymgorfforedig drwy ddewis deunyddiau adeiladu sy'n llai carbonddwys yn ofalus ac felly'n llai niweidiol i'r amgylchedd. Yn ogystal â hyn, bydd yr ysgol wedi'i chynllunio’n unol â Safonau Rhagorol BREEAM sy'n golygu y bydd amrywiaeth o bethau fel lleihau gwastraff, gwaith plannu newydd sylweddol, cynigion tirlunio ecogyfeillgar a rheoli glawiad a dŵr ffo ymhlith eraill i gyd yn cael eu cynnwys yn yr adeiladau newydd.

Pam fod y cynigion yn cynnwys Cae Pob Tywydd?

Mae angen Cae Pob Tywydd newydd o ansawdd uchel i wneud iawn am golli caeau chwarae sy'n bodoli eisoes lle bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu. Bydd y cae pob tywydd yn 55.5m x 37m o ran maint ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer pêl-droed yn bennaf ochr yn ochr â chwaraeon anffurfiol eraill. Bydd y cae wedi'i leoli ar safle adeiladau presennol yr ysgol a'i osod yn ôl ymhellach na'r adeiladau presennol sydd agosaf at Snowdon Avenue. Bydd lefel yr arwyneb chwarae 3 metr yn is na lefel bresennol y ddaear ac er mwyn atal effaith sŵn bwriedir gosod rhwystr sŵn solet 3 metr o uchder o amgylch ffin ogleddol a gorllewinol y cae pob tywydd. Bydd ffensys rhwyll ychwanegol hefyd yn cael eu gosod o amgylch y cyfleuster rhwng y cae a'r rhwystr sŵn solet i atal sŵn peli rhag taro'r rhwystrau solet.