Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2012, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gylch arall o gyfarfodydd ymgynghori anffurfiol, ynghylch y dewis a ffefrir ar gyfer Queensferry, Shotton a Chei Connah.
Dyma’r dewis a ffefrir:
Datblygu cyfleusterau 3-16 ar safle Ysgol Uwchradd John Summers a chreu canolfan ôl-16 yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Mae gwrthwynebiad cryf i uno Ysgol Uwchradd John Summers ac Ysgol Uwchradd Cei Connah. Mae ymgynghoreion wedi cyflwyno nifer o broblemau ymarferol ac anawsterau sy’n ei gwneud yn anodd cefnogi’r dewis hwn. Mae diddordeb mawr yn y syniad o greu canolfan Chweched Dosbarth newydd yng Nghei Connah a fyddai o fudd i ddisgyblion Glannau Dyfrdwy, ac mae arian ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y dewis hwn. Cafwyd dewis creadigol hefyd gan Lywodraethwyr Ysgol Uwchradd John Summers, i weithio’n agosach gydag ysgolion cynradd lleol drwy drefniant ar gyfer cymuned 3-16 newydd. Dyma’r dewisiadau sy’n cael eu ffafrio ar gyfer yr ardal.
Ni fyddai adran uwchradd fechan mewn ysgol 3-16 yn bodloni meini prawf Strategaeth Moderneiddio Ysgolion Sir y Fflint. Fodd bynnag, mae’n cyd-fynd â’r modelau sy’n dod i’r amlwg yng Ngheredigion a Swydd Amwythig. Fel un ysgol, byddai’n creu màs critigol a fyddai’n helpu i gyfiawnhau penderfyniad i barhau i ddarparu addysg uwchradd mewn ardal lle mae nifer o anghenion cymdeithasol. Bydd angen i ni hefyd barhau i asesu’r goblygiadau sy’n codi o raglen Porth y Gogledd, sy’n tyfu. Mae angen ymgynghori ymhellach ynghylch hyn, felly, a chynllunio achos busnes.
Os cymeradwyir ymgynghori ynghylch y dewis hwn, bydd angen cynnwys Meithrinfa Croft, Ysgol Gynradd Queensferry ac Ysgol Gynradd St Ethelwold , mewn perthynas â chreu rhagor o ofal plant a dosbarthiadau meithrin yn yr ardal.
Ysgol Gynradd Queensferry ac Ysgol St Ethelwold yw’r unig ysgolion yn Sir y Fflint heb ddosbarth meithrin. Drwy greu dosbarth meithrin yn yr ysgolion hyn, gellid cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn fwy llwyddiannus. Byddai hyn hefyd yn creu rhagor o gyfleoedd i’r staff meithrin presennol.
Mae Dechrau’n Deg yn rhannu safle Meithrinfa Croft ar hyn o bryd ac mae’n rhaglen bwysig sy’n targedu teuluoedd â phlant dan bedair oed mewn ardaloedd lle mae anghenion cymdeithasol. Gan y bydd y rhaglen hon yn dyblu nifer y plant y mae’n eu cynorthwyo dros y pedair blynedd nesaf, bydd angen adeilad mwy. Byddai safle Croft ar gael pe bai dosbarth meithrin ar gael yn y ddwy ysgol.
Byddai’r dewis hwn yn gyfle da i wella’r ddarpariaeth gyffredinol i blant a theuluoedd yn yr ardal.
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma .