Alert Section

Datblygiad Campws Queensferry


Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud gwaith sylweddol yng Nghampws Dysgu Queensferry ar brosiect a fydd yn gwella darpariaeth addysg a chyfleusterau cymunedol yn yr ardal.  Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru bydd y Cyngor yn buddsoddi mwy na 11 miliwn yn y campws gyda’r nod o ddarparu’r cyfleusterau newydd a gwell canlynol ar y campws:

  • Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry – estyniad ac ailwampio
  • Plas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion) – adeilad newydd ar gyfer addysg arbenigol
  • Tŷ Calon (Hyb Cymunedol) – adeilad newydd

Rydym yn gweithredu cynlluniau i drawsnewid addysg ar gyfer rhai o bobl ifanc ac oedolion mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.
Rydym bellach wedi gorffen cynllunio’r datblygiad ac wedi cychwyn adeiladu’r adeiladau newydd ym mis Tachwedd 2020.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan nifer o fudd-ddeiliaid:

  • Llywodraeth Cymru
  • Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif
  • Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
  • Dechrau'n Deg
  • Undeb Rygbi Cymru
  • Cyngor Sir y Fflint

Mae’r Prosiect yn Cynnwys:

Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry – estyniad ac ailwampio

•    Adeiladau addas at ddibenion dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain – neuadd a chegin newydd, derbynfa groesawgar newydd a gwaith tir cysylltiol;
•    Dymchwel yr adeiladau gweigion sydd ar ôl
•    Newidiadau i ffiniau’r ysgol i wella diogelwch.

Llety dysgu pwrpasol ar gyfer Plas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion), fydd yn darparu:-

•    Adeiladau addas at ddibenion dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain a gwell cyfleusterau;
•    Cyfleusterau i gefnogi darparu cynnig cwricwlwm ehangach;
•    Cefnogaeth academaidd a chanlyniadau galwedigaethol i ddysgwyr.

Cyfleusterau dysgu hwb cymunedol, fydd yn darparu:-

•    Adeiladau addas at ddibenion dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain a gwell cyfleusterau;
•    Cefnogaeth dysgu amgen a dysgu galwedigaethol ar gyfer y gymuned;
•    Cyfleuster chwaraeon cymunedol.


Diweddariad ar Gynnydd – Rhagfyr 2020
•    Cwblhaodd Kier, Cyngor Sir Y Fflint a defnyddwyr gynllun y datblygiad.
•    Penodwyd Kier i gychwyn y gwaith adeiladu.
•    Cyfathrebwyd gyda thrigolion lleol gyda diweddariad ar gynnydd y prosiect;
•    Cychwynnwyd paratoi tir ym mis Tachwedd 2020;
•    Seremoni torri tir dros y we ym mis Rhagfyr 2020;

Gweld y lluniau diweddaraf

Edrych i’r dyfodol
•    Trosglwyddo adeilad Plas Derwen yn haf 2021;
•    Tŷ Calon, trosglwyddo’r Hwb Cymunedol yn hydref 2021;
•    Trosglwyddo estyniad Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry yn hydref 2021;
•    Gwaith tir i’w cwblhau’n llawn erbyn gwanwyn 2022.
 

Amserlenni Prosiect – Mae’n bosib y byddant yn newid

Mae crynodeb o gerrig milltir allweddol y prosiect fel a ganlyn:-

Cyn-adeiladu
Cychwyn ymgynghori ar gynllun y datblygiad - Medi 2019
Comisiynu dichonoldeb a chynllun - Tachwedd 2019
Caffael Adeiladwaith - Tachwedd 2019
Cymeradwyo’r Cais Cynllunio - Medi 2019
Cymeradwyo Achos Busnes Terfynol Llywodraeth Cymru - Hydref 2019


Adeiladu
Cychwyn gwaith adeiladu - Tachwedd 2020 – gwanwyn 2022
Cyfleusterau Plas Derwen yn agor - Hydref 2021
Cyfleusterau Tŷ Calon yn agor - Hydref 2021
Cyfleusterau Ysgol Gynradd Queensferry yn agor - Hydref 2021
Gweddill y gwaith tir - Gwanwyn 2022
Cwblhau’r gwaith adeiladu - Gwanwyn 2022

Tîm Prosiect
Cleient - Cyngor Sir y Fflint
Adeiladwyr - Kier
Pensaer - EWA
Buddiolwyr:
Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry
Plas Derwen
Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy

Manteision Cymunedol
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol a chreu swyddi i bobl leol.  Yn ystod y gwaith, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol lle bo’n bosib, ar gyfer deunyddiau a chynnyrch.  Bydd contractwyr yn cael eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl di-waith.

Ymgysylltu â Disgyblion
Bydd ymgysylltu â disgyblion STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn ffurfio rhan hanfodol o’r prosiect.  Y contractwr a’r Cyngor.

Prosiectau Cymunedol
Fel rhan o’r prosiect disgwylir i’r contractwr gefnogi mentrau lleol yn yr ardal.  Bydd manylion pellach ynglŷn â hyn yn cael eu cyhoeddi wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.