Adolygiad Ysgol Uwchradd Dewi Sant
Cynnig i newid ystod oedran Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney o 11-18 i 11-16
Bydd yr ymgynghoriad ar y newid arfaethedig i oedran o 11-18 i 11-16 yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney yn dechrau ar 5 Mehefin 2015 tan 17 Gorffennaf 2015. Bydd adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar gyfer ystyriaeth ym mis Gorffennaf 2015, a bydd yn ystyried, ar sail adborth yr ymgynghoriad a thystiolaeth, a ddylid bwrw ymlaen a gofyn i Weinidog Cymru benderfynu ar y cynnig, neu beidio â bwrw ymlaen â’r cynnig.
Y cynnig yw lleihau’r ystod oedran yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney (ysgol gymunedol, cyfrwng Saesneg) o 11-18 i 11-16, gan derfynu’r ddarpariaeth ôl-16 yn yr ysgol o 31 Awst 2016.
O fis Medi 2016 ymlaen, bydd darpariaeth dysgu ôl-16 ar gael i fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney yn y ganolfan ôl-16 bwrpasol yng Ngholeg Cambria, Cei Connah.
Mae’r Ganolfan Ôl-16 arfaethedig yn brosiect cydweithredol rhwng Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad at ystod ehangach o bynciau i fodloni ‘Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru)’.
Hysbysu Penderfyniadau
Adroddiad gwrthwynebu
Hysbysiad Statudol
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad
Dogfen Ymgynghori Ffurfiol
Dogfen Plant a Phobl Ifanc
Gwybodaeth atodol ar gyfer Ymgynghoriad Dewi Sant
Gallwch weld sut byddai’r newidiadau arfaethedig yn effeithio ar Gydraddoldeb a'r iaith Gymraeg yn yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ac Iaith.
Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad
Plant a Phobl Ifanc - Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad