Ysgol Glan Aber, Bagillt
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud gwaith yn Ysgol Glan Aber, Bagillt, ar brosiect a fydd yn gwella darpariaeth addysg yn yr ardal. Mae’r Cyngor, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros £2.3 miliwn yn yr ysgol gyda’r nod o ddarparu cyfleusterau bwyta a neuadd newydd, ystafell ddosbarth newydd a llety i drawsnewid y cyfleuster presennol i un sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif.
Bydd amgylchedd dysgu gwell yn gymorth i ysbrydoli disgyblion i ddysgu ac yn cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r prosiect yn hyrwyddo Cymru sy’n fwy cyfartal drwy ddarparu cyfleusterau cyfoes a fydd yn dymchwel y rhwystrau sy’n atal dysgu a chynyddu’r tebygolrwydd y bydd plant a phobl ifanc yn cyflawni eu llawn botensial.
Lansiwyd y prosiect yn swyddogol ym mis Hydref 2018 a bydd yn cael ei ddarparu gan Kier Construction, a disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn y gwanwyn 2020.
Y Prif Gerrig Millitr:
Datganiad i’r Wasg: Cyhoeddi’r Prosiect Hydref 2018
Llun Cyhoeddi’r Prosiect