Datblygiad Ysgol Penyffordd
Yn dilyn cwblhau Cynigion statudol i gynyddu maint yr ysgol o’r ddarpariaeth bresennol o 315 i 375 o lefydd ysgol llawn amser, mae gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo ar gyfer dau estyniad dosbarth yn Ysgol Penyffordd.
Mae Wynne Construction a adeiladodd yr ysgol bresennol bellach ar y trywydd iawn i gwblhau’r gwaith yn Ebrill 2024.
