Alert Section

Lleoliadau profiad gwaith


Gallwn gynnig amryw o leoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr am wythnos neu bythefnos mewn sawl adran yn yr Awdurdod.

Mae'r broses yn dechrau pan fydd y myfyriwr yn cael ffurflen gais am brofiad gwaith gan Gydlynydd Profiad Gwaith eu hysgol neu goleg, gan ddewis adran o'r rhestr yr hoffent wneud cais am brofiad gwaith ynddi.  Ni ddylai myfyrwyr wneud ymholiadau uniongyrchol ag unrhyw adrannau yn yr Awdurdod.

Ar ôl cwblhau'r ffurflen, rhaid ei dychwelyd at Gydlynydd Profiad Gwaith yr ysgol neu'r coleg.  Yna bydd y Cydlynydd yn anfon y ffurflen at yr Uned Hyfforddiant Corfforaethol a fydd yn cysylltu â'r adran berthnasol i ganfod a oes modd i'r myfyriwr gael profiad gwaith.  Ar ôl hynny, anfonir llythyr at y myfyriwr a'r Cydlynydd Profiad Gwaith i'w hysbysu a ydynt wedi bod yn llwyddiannus.

Learning.&.Development@flintshire.gov.uk
01352 702340