Mae llawer o bobl hŷn eisiau bod yn rhan o agweddau o fywyd y gymuned megis gwirfoddoli, bod yn wleidyddol weithgar neu gymryd rhan mewn grwpiau a chlybiau lleol. Mae helpu pobl hŷn i aros yn eu gwaith neu ddod o hyd i waith newydd yn gwella eu diogelwch economaidd a'u hannibyniaeth ac mae o fudd i'r economi ehangach drwy fanteisio ar eu sgiliau a'u profiad.
Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?
- Cefnogaeth ar gyfer gwirfoddoli a grwpiau cymunedol a grwpiau eraill sy’n cynrychioli pobl hŷn
- Hyfforddiant a chefnogaeth i helpu pobl hŷn i wirfoddoli a/neu gael gwaith
- Cyfleoedd cyllido i grwpiau a gweithgareddau cymunedol