Cyfarpar ac Addasiadau i Gynnal Annibyniaeth
Gellir defnyddio cyfarpar i gefnogi pobl yn eu bywydau bob dydd i barhau i wneud pethau sydd yn bwysig iddynt hwy. Yn aml iawn mae ar gael ar-lein, mewn siopau anabledd lleol a siopau cadwyn genedlaethol yn ogystal â sefydliadau arbenigol. Gellir gweld rhestr o leoliadau ar ddiwedd yr wybodaeth hon, er nid yw'n rhestr gyflawn.
Yn aml iawn gall bobl gael mynediad at y datrysiad cywir eu hunain drwy gysylltu â'n gwasanaethau i gael cyngor diduedd a gwybodaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl, eu teuluoedd a ffrindiau i ddod o hyd i ddatrysiadau lle bynnag bo'n bosibl gyda chyflwyniad o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
Mae hyn yn caniatáu i'n gwasanaethau ganolbwyntio ar y rheiny sydd ein hangen fwyaf. Os oes gan rywun anghenion parhaus a hyd yn oed gyda'r wybodaeth hon, a dal ddim yn teimlo'n hyderus i fynd ar ôl hyn, gallwn gynnig asesiad cymesur, ac mewn rhai achosion, treialu cyfarpar i sicrhau ei fod yn debygol o weithio i chi cyn i chi brynu unrhyw beth. Mae hwn yn cynnig cyfle i chi feddwl am beth sy'n bwysig i chi ac i drafod syniadau ar sut y gellir ei gyflawni.
Ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion mwy arbenigol, cyflawnir asesiad mwy manwl gan ganolbwyntio ar 'alwedigaeth' neu weithgareddau dyddiol yr ydych eisiau eu cyflawni a'r gefnogaeth yr ydych chi ei angen ac/ neu eich gofalwyr eu hangen. Mae cyfarpar arbenigol yn cael eu treialu ochr yn ochr â datrysiadau eraill, megis arferion archwilio a thechnegau sy'n gallu helpu ac mewn rhai achosion addasiadau. Mae cynllun yn cael ei lunio gyda chi a/ neu ofalwyr a theuluoedd i sefydlu pwy sy'n gyfrifol am ba elfennau o'r cynllun. Gall hyn gynnwys codi a symud arbenigol neu gyfarpar teleofal a all fod angen eu gwasanaethu'n rheolaidd.
I gael help a chyngor, cysylltwch â:
- E-bost: spoa@flintshire.gov.uk
- Ysgrifennwch at: Un Pwynt Mynediad, Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1PZ.
- Ffôn: 03000 858858
Addasiadau I Gefnogi Annibyniaeth
Nod addasiadau i gartrefi pobl yw eu cefnogi nhw i barhau i fod mor annibynnol â phosibl ac i gyflawni eu ‘galwedigaethau’ dyddiol, fel gofalu amdanyn nhw eu hunain, symud o gwmpas yn eu cartrefi a mynd allan i’r gymuned i wneud y pethau sy’n bwysig iddynt.
Mae cynllun ‘Hwyluso’ Llywodraeth Cymru yn ffordd i bobl gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ni waeth a ydyn nhw’n byw yn eu cartref eu hunain neu’n rhentu’n breifat neu drwy’r cyngor neu gymdeithas tai.
Maen nhw’n categoreiddio’r addasiadau yn rhai ‘bach’ sy’n cynnwys canllawiau gafael a chanllawiau grisiau; ‘canolig’, er enghraifft lifftiau grisiau ac ystafelloedd ymolchi ar lefel gwastad ac addasiadau ‘mwy’ a allai gynnwys rheoliadau cynllunio ac adeiladu i'w cyflawni.
Gellir cael rhai addasiadau bach, fel canllawiau gafael, yn uniongyrchol drwy gysylltu â’ch landlord drwy’r cynllun hwn (gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru)
Asesiad
Mae gan Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Anableddau sy’n cael eu cyflogi gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint y sgiliau i gyflawni asesiadau a gwneud argymhellion am y math o newidiadau a fyddai'n eich cefnogi chi, eich teulu neu'ch gofalwyr i fod yn rhan o'ch bywyd bob dydd.
Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd argymhellion yn cyfeirio at osod canllawiau gafael syml sy’n rhoi hyder a thawelwch meddwl i rywun, a gallai fod yn rhywbeth y byddai pobl yn fodlon ei ariannu eu hunain ar ôl cael cyngor a’r wybodaeth gywir.
Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhan o’r asesiad, bydd agweddau eraill yn cael eu trafod a allai arwain at gyflawni canlyniadau, gan gynnwys newidiadau posibl i ffordd o fyw, defnyddio gwahanol dechnegau a/neu gyfarpar, neu pan fyddai gwaith yn sylweddol, ystyried y manteision o symud i rywle mwy addas.
Adnoddau Cymunedol
Gallwch ddod o hyd i'ch fferyllydd agosaf drwy ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ar y wefan yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Hefyd mae siopau arbennig sy'n gwerthu cyfarpar - gweler y Llyfr Melyn dan "Mobility & Access" neu ar y wefan yn www.yell.com
Mae rhai darparwyr lleol yn cynnwys:
Canolfan Adnoddau Anabl, Ysbyty Glan Clwyd, Sarn Lane, Bodelwyddan, LL18 5UJ 01745 341967 www.disabilityresourcecentre.org.uk
DSL Mobility Ltd, 141 Holt Road, Wrecsam, LL13 9DY. 01978 253520 www.dslmobility.co.uk
Ableworld:
17 Georges Crescent, Wrecsam, LL13 8DA. 01978 358588
St David's Retail Park, High Street, Saltney, CH4 8SN. 01244 675608 www.ableworld.co.uk
Vision Support
Unit 1&2, The Ropeworks, Whipcord Lane, Caer, CH1 4DZ 01244 381515 www.visionsupport.org.uk
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru 77 Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7LN.
Rhif Ffôn: 01492 530013 Ffacs: 01492 532615 SMS: 07719 410355 www.deafassociation.co.uk
Mae'r Disabled Living Foundation yn elusen sy'n cynnig cyngor diduedd am ddim ynghylch pob math o offer ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl. Eu llinell gymorth yw
0300 999 0004 neu ewch ar-lein i www.dlf.org.uk
Sylwer: Mae'r holl wybodaeth yn gywir ar adeg yr argraffiad ond efallai bydd angen ei wirio.
Nid yw Cyngor Sir Y Fflint yn cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd cwmnïau unigol.