Alert Section

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd


FIS Logo

Os hoffech chi fwy o wybodaeth i’ch helpu chi i ddewis gofal plant; cymorth a all fod ar gael i gwrdd â chostau gofal plant; cymorth i ddod o hyd i leoliad gofal plant neu unrhyw wybodaeth arall i ddiwallu anghenion cefnogi, iechyd neu hamdden eich teulu, yna rydych chi wedi dod i’r lle cywir. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac yn wasanaeth statudol sy’n rhan o Gyngor Sir y Fflint.

Dyma ein manylion cyswllt: 

  • E-bost: fisf@siryfflint.gov.uk – Nodwch eich anghenion ac fe wnawn ni gysylltu’n ôl efo chi. Os ydi’ch e-bost wedi ein cyrraedd yn saff, yna byddwch yn derbyn neges awtomatig yn cadarnhau hynny
  • Rhif ffôn: 01352 703500 yn ystod oriau agor arferol y swyddfa (mae cyfleuster peiriant ateb ar gael yn ystod cyfnodau prysur ac ar nosweithiau a phenwythnosau felly cofiwch adael neges)
  • Cyfryngau cymdeithasol: Chwiliwch am ‘Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint’ neu dilynwch y ddolen isod: 
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol: Gallwch gysylltu â ni ar Facebook Messenger. 
  • Ar-lein: Mae gennym ni ddwy wefan i chi gael gwybodaeth ar unrhyw adeg: 

System Ddigidol Cynnig Gofal Plant Cymru

Os hoffech chi siarad am eich cais efo’r Tîm Cynnig Gofal Plant neu os oes gennych chi unrhyw ymholiad:

  • Ffoniwch y llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628 neu
  • E-bostiwch childcareofferapplications@siryfflint.gov.uk