Alert Section

Iechyd Meddwl


Mae ystyried mynd at y gwasanaethau iechyd meddwl yn gallu bod yn brofiad arswydus i ddechrau.  At bwy ddylech chi fynd gyntaf?  Beth fyddant yn ei wneud?  Faint o reolaeth fydd gennych?  A fydd y driniaeth yn gweithio?

Rydych yn gwybod eich bod eisiau cyrraedd sefyllfa lle'r ydych yn teimlo'n well - ond nid ydych yn gwybod yn union sut i gyrraedd yno.  Felly, mae angen map arnoch ac mae'r dudalen hon yn eich harwain ar hyd priffyrdd a chilffyrdd y gwasanaethau iechyd meddwl... 

Lle i ddechrau

Os ydych yn teimlo ar chwal yn emosiynol neu os ydych yn poeni bod gennych broblem, mae llawer o leoedd y gallwch fynd iddynt yn gyntaf.  Gall eich meddyg:  

  • Drafod eich problemau
  • Gwirio a oes rheswm corfforol y tu ôl i'ch problemau
  • Rhoi meddyginiaeth ar gyfer iselder, ofn neu anhwylderau eraill
  • Eich atgyfeirio at y gwasanaeth priodol
  • Gofyn i chi fynd i weld cwnsler
  • Eich anfon i'r ysbyty

I nifer o bobl, mae'r daith yn dod i ben yma. Maent yn cael triniaeth gan eu meddyg ac yn fodlon â'r canlyniad.

Cofiwch: Os ydych yn meddwl bod eich meddyg yn rhy brysur i drafod eich problemau, gallwch drefnu apwyntiad hir wrth gysylltu â'r dderbynfa, neu gallech ysgrifennu popeth mewn llythyr a'i anfon at eich meddyg.Am fwy o wybodaeth am fynd at eich meddyg, cysylltwch â: Eiriolaeth Gwasanaethau Gogledd-ddwyrain Cymru ar: 01352 759332

Llinellau Cymorth
Mae nifer o linellau cymorth ar gael ar gyfer pob math o broblemau iechyd meddwl.

Gall llinellau cymorth: 

  • Roi cyngor arbenigol iawn i chi - mae rhai llinellau cymorth yn canolbwyntio ar anhwylderau penodol fel iselder, sgitsoffrenia ac ati
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol a all helpu - mae'n bosibl y bydd gan linellau cymorth cenedlaethol restrau o asiantaethau lleol a llinellau cymorth lleol
  • Amddiffyn eich hunaniaeth - nid oes raid i chi ddweud wrth yr unigolyn ar y pen arall pwy ydych chi
  • Darparu gwasanaeth gwrando

Ffoniwch y Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar Gyfer Cymru ar: 0800 132 737  

Mynediad Cyntaf
Mae Mynediad Cyntaf yn dîm sy'n darparu triniaeth a gwasanaethau gofal i oedolion â phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Gallwch ofyn wrth eich Meddyg Teulu i’ch atgyfeirio. Trefnir apwyntiad ar eich cyfer i drafod eich anghenion.  Yna:

  • Efallai y teimlir nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach
  • Efallai y cewch eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol a grwpiau cymunedol perthnasol
  • Efallai y cewch gynnig sesiynau unigol gydag aelod o staff neu le gyda grŵp o bobl sydd â phroblemau tebyg megis iselder, ofn neu straen

I ddarganfod mwy am Mynediad Cyntaf, ffoniwch: Tîm Mynediad Cyntaf Sir y Fflint ar 03000 858 999

Parabl
Cynigir therapi siarad i bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.   0300 777 2257 http://www.parabl.org.uk/

Lle nesaf?
I lawer o bobl, nid yw'r siwrnai yn mynd ymhellach na'r feddygfa, grŵp hunan-gymorth neu Mynediad Cyntaf. Ond i eraill, nid yw'r gwasanaethau hyn yn ddigon. Efallai y cewch eich atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.  Os cewch eich atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, nid yw hyn yn golygu bod eich problemau'n waeth na phroblemau pobl eraill. Mae'n golygu bod angen help mwy arbenigol arnoch, ac nid yw'r ffaith eich bod yn cael eich atgyfeirio yn golygu y byddwch yn cymryd mwy o amser i wella.


Felly, beth mae'r gwasanaethau hyn yn ei gynnig?

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
Caiff Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) eu rhedeg ar y cyd gan Wasanaeth Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a'r Bwrdd Iechyd Gall y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gynnig ystod o wasanaethau o dan yr un to ac mae aelodau'r tîm yn cynnwys: 

  • Nyrsys
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Seicolegwyr
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Seiciatryddion

Er bod gan bob gweithiwr proffesiynol ei sgiliau a'i ddiddordebau ei hun, maent i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gofal gorau i chi. Gan fod amser ac adnoddau yn brin, dim ond y bobl fwyaf anghenus fydd yn cael triniaeth.

Os ydych wedi cael eich atgyfeirio at dîm gan eich meddyg, caiff Cydlynydd Gofal ei ddyrannu i chi. Dylai'r ddau ohonoch drafod a chytuno ar y driniaeth orau i chi. Caiff y cytundeb hwn ei ysgrifennu ac fe'i gelwir yn Gynllun Gofal o dan yr Ymagwedd Cynllun Gofal.

Yn achlysurol iawn, efallai y bydd eich cydlynydd gofal yn awgrymu eich bod yn treulio rhywfaint o amser mewn ysbyty fel rhan o'ch gofal. Nid yw hyn yn golygu y cewch eich cadw yno yn erbyn eich ewyllys a'ch gorfodi i aros. Mae mwyafrif y bobl sy'n mynd i ysbyty gyda phroblemau iechyd meddwl yn mynd yno'n wirfoddol ac maent yn rhydd i adael ar unrhyw adeg. Gelwir y cleifion hyn yn "gleifion anffurfiol".

I ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd mewn ysbytai, gweler yr adran nesaf. Os ydych yn sâl iawn, mae'n bosibl y cewch eich hanfon i'r ysbyty heb eich caniatâd. Byddech yn dod o dan un o adrannau'r Ddeddf Iechyd Meddwl wedyn.

I ddarganfod mwy am y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, ffoniwch:

  • Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Glannau Dyfrdwy ar 03000 858 999
  • Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Yr Wyddgrug ac Y Fflint ar 03000 85 0007

Ysbyty
Gallwch ddilyn sawl trywydd i gyrraedd yr ysbyty. Efallai y cewch eich anfon gan eich meddyg neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu efallai y byddwch yn mynd yno o dan adran o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Rydych yn llawer llai tebygol o orfod mynd i'r ysbyty nawr nag y byddech ugain mlynedd yn ôl, a hyd yn oed os ydych yn mynd i'r ysbyty, ni fydd hynny am gyfnod hir.

Mae'n bosibl y bydd raid i chi fynd i'r ysbyty oherwydd: 

  • Mae'ch Cydlynydd Gofal am fod yn gwbl sicr eich bod wedi cael feddyginiaeth neu'r driniaeth gywir
  • Rydych yn rhy sâl i allu ymdopi yn eich cartref

Os byddwch yn mynd i'r ysbyty o'ch gwirfodd, cewch eich galw'n "glaf gwirfoddol". Mae mwyafrif y bobl sy'n mynd i ysbyty yn gleifion gwirfoddol. Os nad ydych yn hapus â'ch triniaeth, gallwch adael ar unrhyw adeg ond mae'n syniad da trafod hyn gyda'r staff yn gyntaf. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau yn yr ysbyty, cysylltwch â'r Gwasanaeth Eiriolaeth. Bydd gan y rhan fwyaf o ysbytai daflen wybodaeth yn nodi amseroedd ymweld, yr holl gyfleusterau megis toiledau, beth sy'n digwydd i'ch eiddo ac ati. Mae banciau, caffis, addoldai a chanolfannau cyngor ar gael mewn ysbytai, neu heb fod ymhell, fel arfer.

I ddarganfod mwy am yr ysbytai, ffoniwch: 

Triniaeth Orfodol
Os yw'r bobl o'ch cwmpas yn poeni y byddwch yn niweidio'ch hunan neu bobl eraill, gallwch gael eich hanfon i'r ysbyty heb roi caniatâd. Mae hyn yn golygu y cewch eich trin o dan adrannau amrywiol Deddf Iechyd Meddwl 1983. Gall nifer o'r sefydliadau yn yr adran "cysylltiadau defnyddiol eraill" isod roi gwybodaeth i chi am y Ddeddf Iechyd Meddwl.  

Cysylltiadau defnyddiol eraill

  • Canolfan Cyngor ar Bopeth Darparu cyngor a gwybodaeth gyfrinachol am ddim am les a chyfraith gymdeithasol ac ati
  • Cymorth Teuluoedd Sir y Fflint Nod Hafal yw ategu at wasanaethau iechyd meddwl statudol trwy ddarparu cymorth sensitif o safbwynt annibynnol i deuluoedd / gofalwyr y rheiny sy'n ymdopi ag effeithiau salwch meddwl difrifol.  Ffôn: 01352 718001 neu e-bost: flintsire@hafal.org 
  • Eiriolaeth Gwasanaethau Gogledd-ddwyrain Cymru Darparu gwasanaeth eiriolaeth cyfrinachol am ddim i bobl sy'n cael anawsterau iechyd meddwl ac sy'n byw yn Sir y Fflint.  Ffôn: 01352 759 332 neu e-bost: Advocacy@ASNEW.org.uk  
  • Galw Iechyd Cymru Cyngor a gwybodaeth gyfrinachol am ddim gan nyrsys a chynghorwyr iechyd cymwys bob awr o'r dydd, bob dydd o'r wythnos.  Ffôn: 0845 4647
  • Gwasanaeth Gwybodaeth Gogledd Ddwyrain Cymru Ffôn: 01352 752525
  • Mind Sir y Fflint Gwybodaeth a chymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl mewn Canolfan Les yn yr Wyddgrug gan gynnwys gwasanaeth cwnsela, ymwybyddiaeth ofalgar, rheoli straen, ymlacio a therapi tylino.  Ffôn: 01352 757637 neu e-bost enquiries@flintshiremind.org.uk
  • Llinell wybodaeth genedlaethol Mind – rhif ffôn 0300 123 3393
  • Papyrus HOPElinkUK yw llinell gymorth genedlaethol, gyfrinachol PAPYRUS – Atal Hunanladdiad yr Ifanc. Mae HOPElineUK yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor ymarferol cyfrinachol i bobl ifanc a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain, ac mae hefyd ar gyfer teuluoedd, cyfeillion a gweithwyr proffesiynol.  Ffôn: 0800 068 41 41
  • KIM Inspire Ffôn 01352 872189
  • Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol - Ffôn: 0800 0858 119
  • Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Cymdeithasol - Ffôn: 03000 858858

Deunydd darllen defnyddiol

  • Llyfrynnau gwybodaeth Mind UK Mae Mind, elusen iechyd meddwl, yn cynhyrchu ystod eang o daflenni darllenadwy iawn am bopeth o ffobiâu ac iselder i'ch hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.  Ffoniwch Llinell Gymorth Mind ar 0345 660163 i ddarganfod mwy.  Ffôn: 0300 123 3393

Cwynion

Nid yw pobl bob amser yn fodlon â'r driniaeth y maent yn ei derbyn ar gyfer problemau iechyd meddwl. Gallwch gwyno am fwyafrif y gwasanaethau a restrir - ond cofiwch bod gan wahanol wasanaethau ffyrdd gwahanol iawn o ymdrin â chwynion.

I ddarganfod mwy am sut i gwyno, ffoniwch: