Alert Section

Meicro-Ofal yn Sir y Fflint

Mae'r Prosiect Meicro-Ofal yng Nghyngor Sir y Fflint yn ffordd wahanol o feddwl am Ofal Cymdeithasol, ac yn ychwanegiad gwerthfawr at sector sydd eisoes ag enw da.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl weithio mewn gofal cymdeithasol ond i fod yn bennaeth arnynt eu hunain. Rydych yn cael cyfle i weithio gyda phobl, gan ddarparu gofal a chymorth i rai sydd ei angen. Ond mae gennych reolaeth ac ymreolaeth i adeiladu eich busnes, a’ch bywyd gwaith, o’ch cwmpas chi eich hun. Mae hyn hefyd yn golygu mwy o gyfrifoldeb ac atebolrwydd sy’n golygu na fydd bod yn Feicro-Ofalwr yn addas i bawb. Ond os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch ddarllen mwy am ddod yn Feicro-Ofalwr isod. 

Efallai eich bod hefyd yn rhywun sy’n chwilio am ofal a chymorth yn Sir y Fflint, un ai i chi eich hun neu aelod o’r teulu. Bydd y dolenni isod yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae Meicro-Ofal yn gweithio, sut y gall weithio i chi a sut y gallwch ddod o hyd i Feicro-Ofalwr i’ch cefnogi. 


Eisiau dod o hyd i Feicro-Ofalwr?

Eisiau siarad â ni am Feicro-Ofal?

Adnoddau presennol i Feicro-Ofalwr