Bathodyn Glas - Rhestr wirio: meini prawf dewisol
Gallwch wneud cais drwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01352 701304 neu drwy ymweld â'ch swyddfa canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu. Dylech ddod â'r dogfennau a ganlyn hefo chi:
Prawf o bwy ydych chi
Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:
- Tystysgrif geni / mabwysiadu
- Tystysgrif priodas / ysgariad
- Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneraeth sifil
- Trwydded yrru ddilys
- Pasbort dilys
Prawf o ble rydych yn byw
Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:
- Bil Treth Gyngor
- Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan
Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas
Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar. Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Proof of Impairment
Mae'r dystiolaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar y nam sydd arnoch. Isod, mae rhestr sy'n dangos pa dystiolaeth sydd ei hangen:
Meini prawf cymhwysedd
Anabledd parhaol neu sylweddol sy'n ei gwneud yn amhosibl, neu'n anodd iawn, i chi gerdded
Tystiolaeth
Mae angen tystiolaeth ar ffurf adroddiadau meddygol, llythyrau gan ymgynghorydd, apwyntiadau i weld ymgynghorydd mewn ysbyty, presgripsiwn, derbynneb am waith addasu neu gymhorthion cerdded fel prawf o'r problemau a ganlyn:
- Poen eithafol wrth i chi gerdded neu ar ôl i chi gerdded
- Yn fyr eich gwynt
- Methu cerdded yn bell
- Methu cerdded yn hir
- Problemau o ran eich osogo, rythm, gallu i gydsymud, cydbwysedd a hyd eich cam
- Gorfod defnyddio cymhorthion cerdded ac ocsigen
- Methu cerdded yn yr awyr agored, os yw hynny'n effeithio'n wahanol arnoch
Tystiolaeth arall
- Derbynneb am waith addasu (lifft grisiau, rheiliau llaw, cawod hygyrch, lifft i'r bath a rampiau)
- Adddasu cerbydau (mae angen cynnwys polisi yswiriant)
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i chi yrru cerbyd yn rheolaidd, rhaid i chi fod ag anabledd yn y ddwy fraich, a rhaid i chi fod yn methu defnyddio, neu'n cael cryn drafferth defnyddio, offer parcio neu rai mathau o offer parcio.
Tystiolaeth
Adroddiadau ymgynghorydd / llythyr a thrwydded yrru - rhaid defnyddio'r codau a ganlyn:
- 40 - Llywio wedi'i addasu
- 79 - Cyfyngedig i rai cerbydau arbennig
Meini prawf cymhwysedd
Mae gennych salwch terfynol sy'n achos arbennig a nam sy'n ei gwneud yn anodd i chi symud
Tystiolaeth
Bydd angen i chi ddangos y ffurflen DS1500 wreiddiol a llythyr ategol gan nyrs McMillan neu arbenigwr iechyd perthnasol.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i chi fod â phlentyn, neu'n gofalu am blentyn sydd, oherwydd ei gyflwr, yn ddibynnol ar offer meddygol swmpus, ac ni ellir cludo'r offer hwnnw gyda'r plentyn heb gryn anhawster.
Tystiolaeth
Llythyr gan bediatregydd yn amlinellu'r cyflwr meddygol. Tystiolaeth hefyd yn cadarnhau'ch bod yn defnyddio un o'r canlynol:
- Peiriant anadlu
- Peiriant sugno
- Pwmp bwydo
- Offer gwythiennol
- Gyrrwr chwistrell
- Offer rhoi ocsigen
- Offer monitro lefelau ocsigen yn barhaus
- Castiau ac offer meddygol cysylltiedig i gywiro dysplasia'r clun
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i chi fod â phlentyn, neu'n gofalu am blentyn sydd, oherwydd ei gyflwr, yn gorfod bod yn agos at gerbyd bob amser rhag ofn y bydd angen trin y cyflwr hwnnw yn y cerbyd neu rhag ofn y bydd angen cludo'r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i rywle lle gellir ei drin.
Tystiolaeth
Cofnodion meddygol yn ymwneud â'r cyflwr. Er enghraifft:
- Tracheostomi
- Epilepsi/ffitiau difrifol
- Diabetes hynod ansefydlog
- Salwch terfynol sy'n atal plant rhag treulio dim mwy nag eiliaid prin yn yr awyr agored ac y mae angen medru eu cludo adref yn gyflym