Alert Section

Carelink

Os ydych chi angen sicrwydd i'ch helpu i fyw'n annibynnol, efallai y dylech chi ystyried cael cymorth gan dîm Carelink. Rydym yn gosod systemau larwm neu'n darparu larymau gwddf er tawelwch meddwl i chi rhag ofn y byddwch chi angen cymorth ar frys. Pan fyddwch chi'n pwyso eich larwm, bydd y ganolfan alw yn cael ei hysbysu a bydd aelodau staff yno yn gallu eich helpu i gael pa gymorth bynnag y byddwch chi ei angen.

Hysbysiad i gwsmeriaid presennol

Mae angen uwchraddio rhai offer larwm Carelink fel rhan o ofynion Ofcom i BT ac Openreach ddiweddaru eu system ffôn i un ddigidol. Mae twyllwyr yn defnyddio hyn i geisio cael trigolion i dalu arian am wasanaethau nad oes angen iddynt dalu amdanynt. 

Y cwmnïau telecom sy’n gyfrifol am yr uwchraddiad, a byddant yn hysbysu pobl am y newidiadau ar sail cod post, erbyn mis Rhagfyr 2025. Bydd angen i staff Sir y Fflint osod larwm Carelink newydd, cyn newid i’r system ddigidol. 

Bydd tîm Carelink yn cysylltu â’r holl breswylwyr sydd â larwm yn eu heiddo dros y misoedd nesaf i gadarnhau amser a dyddiad cyfleus i ymweld â nhw i uwchraddio eu system larwm cyn newid i’r system ddigidol.

Ni fydd y Cyngor fyth yn ffonio cwsmeriaid i ofyn am arian. Os ydych yn cael galwad o’r fath, rhowch y ffôn i lawr. Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc na gwybodaeth bersonol. 

Os ydych yn gwybod fod gan aelod o’r teulu neu ffrind larwm Carelink, gadewch iddynt wybod am hyn a gofynnwch iddynt fod yn wyliadwrus. 

Mae angen uwchraddio holl larymau Carelink erbyn 2025 yn barod ar gyfer y trawsnewid digidol.

Mae ein tîm eisoes wedi dechrau ar y broses uwchraddio a byddwn yn cysylltu â holl gwsmeriaid i drefnu ymweliad i uwchraddio eich larwm yn ystod y misoedd nesaf.

Os bydd eich darparwr llinell ffôn yn cwblhau uwchraddiad digidol cyn i chi glywed gennym, yna cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn eich helpu chi.

Rôl Galw Gofal

Atebir eich galwad unrhyw adeg, ddydd neu nos, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Os oes angen cymorth arnoch mewn argyfwng, sicrwydd neu gyngor, rydym yma i gynnig cymorth.

Sut mae’r larwm yn gweithio?

Os oes angen cymorth arnoch mewn argyfwng, gallwch bwyso’r mwclis/ larwm a wisgir o gwmpas y gwddf neu’r arddwrn neu’r botwm mawr coch ar yr uned larwm.

Unwaith y byddwch wedi canu’r larwm, sydd wedi’i raglennu i ddeialu’r Ganolfan Reoli yn awtomatig, arhoswch am gymorth a bydd gweithredwr yn ateb eich galwad. 

Pan fydd y Gweithredwr wedi gorffen siarad, gallwch egluro beth yw’r broblem, a bydd y Gweithredwr yn trefnu’r cymorth yn ôl yr angen.  Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu clywed y Gweithredwr, neu os nad ydyn nhw’n gallu eich clywed chi, byddant yn gwybod am eich galwad ac mae eich holl fanylion ar sgrîn. Byddant yn ffonio un o’ch ymatebwyr (deiliaid allweddi) i ymweld â chi a sicrhau bod popeth yn iawn.  

Os na fydd y Gweithredwr yn gallu cysylltu ag unrhyw un o’ch ymatebwyr brys (deiliaid allweddi) byddant yn cysylltu â’r Gwasanaethau Brys i ymweld â’ch cartref a sicrhau eich bod chi’n iawn.

Pan ddaw’r alwad i ben, bydd y Gweithredwr yn diweddu’r alwad, felly does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth arall.

Lleoliad eich larwm

Gofynnwn hefyd bod y larwm wedi’i blygio i mewn ac wedi’i droi ymlaen trwy’r amser, ac nad yw’n cael ei symud o’r safle y caiff ei osod gennym, heb i chi gysylltu â ni yn gyntaf - gallwch gysylltu â ni ar 01352 702280. Mae hyn yn bwysig oherwydd os yw’r larwm yn cael ei symud a’i ail-gysylltu’n anghywir, efallai na fydd y larwm yn gweithio wrth i chi bwyso’r botwm am gymorth mewn argyfwng.

Y broses o’i osod

Sylwch fod ein staff yn gweithio’n unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir y Fflint wrth osod eich offer larwm. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch y broses o’i osod, cysylltwch â’r Gweinyddwyr Cymorth i Fusnesau gan ddefnyddio’r manylion isod. 

Talu am y Gwasanaeth

Ffi gosod o £25 a ffi monitro blynyddol o £166.90.

Bydd anfonebau yn cael eu hanfon i’ch cartref gan yr Adran Gyllid AR ÔL y gwaith gosod. 

Sylwch – ni fydd ein swyddogion yn derbyn arian parod ar y diwrnod. 

Gallwch dalu yn defnyddio eich rhif cwsmer WD------ a rhif eich anfoneb: 

  • Ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk/taliadau
  • Gyda cherdyn dros y ffôn ar 01352 703607
  • Drwy drosglwyddiad banc i Gyngor Sir y Fflint
    Cod Didoli: 54-10-10
    Rhif Cyfrif: 72521775

Fe allwch chi hefyd drefnu archeb sefydlog gyda’ch banc yn defnyddio’r manylion uchod. 

Gwybodaeth Bwysig

Profi’r offer

Dylech brofi eich mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn o leiaf unwaith y mis er mwyn sicrhau bod y mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn yn gweithio’n iawn. Mae hyn yn bwysig, oherwydd os nad yw’n cael ei brofi, efallai na fydd yn gweithio pan fyddwch angen ei ddefnyddio i ffonio am gymorth mewn argyfwng.

Dylech brofi’r larwm mwclis trwy bwyso’r botwm ar y mwclis neu’r larwm a wisgir am yr arddwrn, a fydd yn caniatáu i chi fesur cryfder barti’r mwclis. Ar ôl i chi bwyso’r botwm, arhoswch nes y bydd Gweithredwr yn ateb, a dywedwch wrthynt eich bod chi’n cynnal galwad brawf.

Os yw cryfder y batri’n isel, byddwn yn trefnu i un o’n Swyddogion Gosod ymweld â chi i ailosod y botwm. Anelwn i drefnu’r ymweliad o fewn 2 ddiwrnod gwaith oni bai bod amser arall dan sylw gennych ar gyfer apwyntiad.

Beth fydd yn digwydd os ydw i’n pwyso’r larwm mewn camgymeriad?

Peidiwch â phoeni, bydd ond angen i chi esbonio wrth y Gweithredwr eich bod chi’n iawn. Byddwn yn falch o glywed gennych a bydd eich galwad yn cael ei chofnodi fel prawf i ddangos bod eich offer yn gweithio’n iawn. Os ydych chi’n pwyso’r botwm mewn camgymeriad, arhoswch i’r alwad gysylltu ac atebwch ni. Os na fyddwch yn ateb, byddwn yn tybio ei fod yn argyfwng a bod angen cymorth arnoch chi. 

Cyfrinachedd gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer darparu gwasanaeth yn unig, fel y nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw a’i phrosesu yn unol â Deddf GDPR 2019. 

Newid mewn amgylchiadau personol 

Os bydd newid mewn unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch e.e. ymatebwyr brys (deiliaid allweddi), manylion meddyg teulu, cod newydd ar gyfer blwch cadw allweddi, newid mewn gwybodaeth feddygol ac ati, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.

Gofynnwn i chi wneud hyn trwy bwyso ar y mwclis/botwm ar yr arddwrn, a bydd modd i’r Gweithredwr newid eich manylion yn syth ar y sgrîn, er mwyn sicrhau ymateb cyflym pe baech angen cymorth. Cysylltwch â ni hefyd ar y manylion isod.

Os bydd newid o ran defnyddiwr gwasanaeth e.e. y cwsmer ddim ei angen mwyach, ond hoffai eu partner ddefnyddio’r gwasanaeth, mae angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl gyda’r enw newydd, dyddiad geni, cyflyrau meddygol a chadarnhau bod y rhestr o ymatebwyr (deiliaid allweddi) yr un fath.

Symud tŷ 

Os ydych chi’n symud tŷ ac yn dymuno cadw’r mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn yn eich tŷ nesaf, mae’n rhaid i chi ffonio neu e-bostio ein Gweinyddwyr Cymorth i Fusnesau gyda’ch manylion newydd. Os oes gennych system Galw Gofal, gallwch dynnu’r offer o blygiau eich llinell ffôn a’u hailgysylltu yn eich eiddo newydd. Pwyswch y botwm i’w brofi. Os nad yw’n gweithio neu os oes gennych system fwy cymhleth, cysylltwch â ni ac fe drefnwn fod Swyddog Gosod yn ymweld â chi i osod y larwm yn eich cyfeiriad newydd. 

Absenoldeb o’r cartref

Os ydych yn mynd i ffwrdd e.e. ar wyliau, ffoniwch y Ganolfan Reoli trwy bwyso eich mwclis/ larwm ar yr arddwrn neu’r botwm ar yr uned larwm er mwyn rhoi gwybod i’n Gweithredwr. Sylwch ei bod hi’n bwysig iawn rhoi gwybod i ni eich bod yn ôl gartref wedi i chi ddychwelyd. 

Terfynu eich contract

Os ydych chi’n dymuno canslo eich contract, dylech chi neu’ch cynrychiolydd roi gwybod i’r Gweinyddwyr Cymorth i Fusnesau cyn gynted â phosibl gyda’r rheswm dros ganslo. Dylai’r holl offer gael ei ddatgysylltu a’i ddychwelyd i’ch swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu leol. Bydd unrhyw ad-daliad sy’n daladwy i chi yn cael ei brosesu unwaith y bydd yr offer wedi’u dychwelyd. 

Ni ddylid mynd â’r mwclis o’r eiddo.

Gwybodaeth Ddiogelwch

Rhoi Gwybod am Ddiffygion

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw ddiffyg â’r offer, rhowch wybod am y broblem i’r tîm gosod larymau trwy e-bost neu dros y ffôn. Fe wnaiff y Gweithredwr geisio datrys y broblem dros y ffôn. Os nad oes modd ei datrys, bydd Swyddog Gosod yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i ymweld. Os ydych chi’n colli eich mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn, bydd ffi o £45.00 yn daladwy am un newydd.

Gwisgo’r mwclis/ larwm a wisgir am yr arddwrn

Gwisgwch eich mwclis/larwm a wisgir am yr arddwrn trwy’r amser yn y tŷ, heblaw pan fyddwch yn y gwely; cadwch ef o fewn cyrraedd a’i wisgo cyn i chi godi. Dylid gwisgo’r mwclis/ larwm o amgylch y gwddf yn y gawod, gan ei fod yn wrth-ddŵr. 

Cysylltu

Ffurflen Gais Carelink

Os oes gennych chi gwestiwn, ymholiad neu gŵyn, cysylltwch â ni, neu os ydych chi eisiau’r wybodaeth hon mewn fformat gwahanol e.e. print mwy, cysylltwch â ni. 

Gweinyddwyr Cymorth i Fusnesau

Rhif ffôn: 01352 702280

Ar gael 9am i 5pm

Ddydd Llun i Ddydd Iau. 

E-bost: alarminstallationteam@flintshire.gov.uk

Pan na fydd angen y gwasanaeth mwyach, ewch â’r offer i’ch swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf.

Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion cyflawni ein cytundeb â chi, i drafod eich cais ac i gynnig darpariaeth barhaus o System Larwm Carelink. Mae’r wybodaeth bersonol sensitif yr ydych yn ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio er mwyn darparu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol i chi o fewn eich cartref.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei basio i’n prosesydd data (Llesiant Delta Wellbeing, Uned 2 Ystâd Ddiwydiannol Dafen, Heol Aur Dafen, Llanelli, De Cymru SA14 8QN) a fydd yn darparu’r gwasanaeth monitro galwadau ar ein rhan.

Efallai bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu gyda’r GIG, yr Heddlu, neu drydydd parti perthnasol os yw hynny’n angenrheidiol fel rhan o’ch cytundeb i ddarparu gwybodaeth berthnasol, neu mewn argyfwng.

Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw bartïon eraill neu’n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gadw am gyfnod o 12 mis ar ôl terfynu/darfod y gwasanaeth.

Am fwy o wybodaeth ar sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu gwybodaeth ewch i yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx