Rhoi gwybod am gerbyd wedi ei adael
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am y cerbyd, gan gynnwys:
- rhif cofrestru / gwneuthuriad / model
- am ba hyd mae wedi ei adael yno
- lleoliad
- unrhyw luniau/fideos
Rhoi gwybod am gerbyd wedi ei adael
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os yw’r swyddog yn ystyried fod y cerbyd o bosibl wedi ei adael, yna bydd y manylion cofrestru yn cael eu gwirio a bydd manylion y ceidwad cofrestredig hysbys olaf yn cael ei roi i ni.
Byddwn yn ceisio cysylltu â’r ceidwad hysbys olaf trwy lythyr a byddwn yn gosod rhybudd ar y cerbyd yn dweud y byddwn yn ei symud wedi i gyfnod o amser fynd heibio.
Os nad yw’r sawl sy’n berchen ar y cerbyd yn cysylltu â ni yna fe allwn ei symud wedi i gyfnod y rhybudd ddod i ben. Os caiff y cerbyd ei symud neu os yw’r ceidwad cofrestredig yn ei hawlio yn ystod y cyfnod hwn yna ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.
Mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau ein bod yn gwneud pob ymdrech i geisio cysylltu â cheidwad cyfreithlon posibl y cerbyd.
Os yw cerbyd mewn cyflwr lle gallai gael ei ystyried yn beryglus ar briffordd neu os nad yw’n ddiogel ac y gallai olygu perygl i iechyd a diogelwch yna fe allai gael ei symud heb rybudd.
Os yw’r cerbyd ar dir preifat yna bydd angen i’r swyddog siarad gyda pherchennog y tir.