Alert Section

Llifogydd a draeniad


Llifogydd ar briffyrdd

(Gan gynnwys y palmant, ffyrdd cyhoeddus, cafnau, gratiau, draeniau priffyrdd neu ffosydd wedi’u blocio)

Rydym ni’n archwilio a chynnal y systemau draeniau priffyrdd uchod yn rheolaidd, gan gynnwys dyfrffosydd cwlfer (dyfais sy’n cael ei ddefnyddio i sianelu dŵr) a gorsafoedd pwmpio cysylltiedig i sicrhau eu bod nhw’n gwaredu dŵr yn effeithlon. Rydym yn clirio ac yn glanhau pob cafn yn Sir y Fflint yn flynyddol. Byddwn yn ymweld ag ardaloedd penodol yn fwy rheolaidd oherwydd galw lleol neu yn ystod cyfnodau lle mae nifer fawr o ddail yn cwympo.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn ddibynnol ar ddifrifoldeb y sefyllfa, byddwn yn ymateb i adroddiadau llifogydd o fewn 2-24 awr. Os yw llifogydd yn digwydd yn aml, byddwn yn adolygu’r sefyllfa ac yn newid y system ddraenio neu arwyneb y ffordd os oes angen.

Llifogydd a achosir gan brif bibell ddŵr wedi byrstio

Y cwmni dŵr (Dŵr Cymru, 0800 085 3968) sy’n gyfrifol am y cyflenwad dŵr a’r pibellau dŵr hyd at y stopfalf ar ffin eich eiddo. Falf yw stopfalf sy’n cael ei ddefnyddio i atal y llif dŵr i’ch eiddo chi. Chi sy’n gyfrifol am y pibellau yn eich tŷ a’r pibellau dŵr sy’n rhedeg o’ch tŷ i’r stopfalf ar y ffin.

Cyfrifoldeb am ddraeniau a charthffosydd

Mae draeniau preifat yn cludo carthffosiaeth afiach (gwastraff o dai bach, ystafelloedd ymolchi a cheginau) a dŵr ffo (dŵr glaw) o eiddo preifat unigol. Fel arfer, perchennog yr eiddo sy’n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw.

Mae carthffosydd preifat yn cludo carthffosiaeth afiach a/neu ddŵr ffo o fwy nag un eiddo. Dŵr Cymru (0800 085 3968) sy’n gyfrifol am garthffosydd preifat os ydynt wedi’u cysylltu â’r brif ffos gyhoeddus. Mae rhai grwpiau o eiddo wedi’u cysylltu â gorsaf bwmpio breifat / canolfan trin dŵr / ffos gerrig, sydd o dan berchnogaeth, ac felly sydd angen cael eu cynnal a’u cadw gan berchnogion neu feddianwyr yr eiddo sydd wedi’u cysylltu â nhw.

Carthffosydd cyhoeddus (draeniau ochrol) yw’r rhan o ddraen eich eiddo sy’n gorwedd tu hwnt i ffin yr eiddo. Maen nhw’n casglu carthffosiaeth afiach a/neu ddŵr ffo o ddraeniau preifat ac maen nhw’n cysylltu â charthffos gyhoeddus, neu’n uniongyrchol â charthffos gyhoeddus. Eich cwmni dŵr a charthffosiaeth leol (Dŵr Cymru) sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r pibellau hyn. Dylech adrodd unrhyw rwystrau neu lifogydd yn uniongyrchol i Ddŵr Cymru ar 0800 085 3968.

Dyfrffosydd a draeniad tir

Perchnogion glannau afon sy’n gyfrifol am ddyfrffosydd (e.e. nentydd neu ffosydd). Rydych yn berchennog glannau afon os yw eich eiddo neu’ch tir yn cyffwrdd neu’n agos at ddyfrffos. Mae gan berchnogion glannau afon ddyletswydd i gadw’r dyfrffosydd yn rhydd o unrhyw rwystrau i lif y dŵr ac fe allwn ni gyflwyno rhybuddion cyfreithiol i orfodi perchnogion glannau afon i ddelio â rhwystrau. Mae ein contractwr yn gwirio a chynnal dyfrffosydd penodol sydd â hanes o orlifo yn rheolaidd.

Nid oes unrhyw ddyletswydd ar yr Awdurdod Priffyrdd i ddelio â dŵr ffo o dir wrth ochr y ffordd. Fodd bynnag, mae gennym y pŵer i orfodi tirfeddianwyr sy’n berchen ar dir wrth ochr priffyrdd i wneud gwaith draenio rhesymol yn unol â Deddf Draeniad Tir 1991.

Cyfeiriwch at ddogfennau defnyddiol 'Perchnogion eiddo ar lan afon - gwybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau'.

Afonydd

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am lifogydd ar brif afonydd a llifogydd arfordirol. Cysylltwch â Floodline, sef gwasanaeth cyngor a gwybodaeth 24 awr ynghylch llifogydd a rhybuddion llifogydd, ar 03000 65 3000.