Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, rydym yn graeanu ac yn clirio eira o 560 cilomedr o ffyrdd a gaiff eu blaenoriaethu ar hyd a lled Sir y Fflint. Dylech geisio defnyddio’r ffyrdd hyn gan y byddwn yn ceisio eu clirio a’u graeanu.
Gweler map o lwybrau Blaenoriaeth 1 Sir y Fflint
Llwybrau blaenoriaeth yw’r ffyrdd pwysicaf i ddefnyddwyr ffyrdd. Maent yn cael eu dewis er mwyn cynnal cysylltiadau cludiant ar gyfer cynifer o gymunedau â phosibl. Maent yn cyfrif am tua 45% o briffyrdd y Sir ac yn cynnwys o leiaf un ffordd fynediad i bob cymuned.
Sut mae llwybrau blaenoriaeth yn cael eu dewis
Mae llwybrau blaenoriaeth yn cael eu pennu yn ôl dosbarthiad a lefelau defnydd y ffyrdd. Unwaith y bydd llwybrau Blaenoriaeth 1 wedi’u clirio, byddwn yn canolbwyntio ar ffyrdd Blaenoriaeth 2. Unwaith y bydd y llwybrau blaenoriaeth yn glir, byddwn yn edrych ar lwybrau llai. Fodd bynnag, os yw’r amodau’n gwaethygu, byddwn yn dychwelyd i ganolbwyntio ein hymdrechion ar ffyrdd blaenoriaeth uchel.
Nid ydym yn clirio nac yn graeanu ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu neu rodfeydd preifat. Rydym hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau i ffyrdd / cynlluniau newydd yn sgil datblygiadau newydd ac ati.
Mae’r holl ffyrdd yn Sir y Fflint wedi’u rhannu’n gategorïau blaenoriaeth 1, 2 neu 3.
Mae canran yr holl rwydwaith ffyrdd sy’n cael ei drin fel Blaenoriaeth 1 gan Gyngor Sir y Fflint yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru.
Nid yw troedffyrdd a llwybrau beicio’n cael eu cynnwys yn y llwybrau graeanu blaenoriaeth. Fodd bynnag, pan fydd eira trwm / rhew yn eu gorchuddio, bydd troedffyrdd sy’n cael llawer o ddefnydd megis canol trefi yn cael eu clirio a’u trin unwaith y bydd adnoddau’n caniatáu.
Newidiadau sydyn yn y tywydd
Pan fydd y tywydd yn newid yn sydyn, efallai yr ymddengys nad ydym wedi trin y ffyrdd. Noder:
- mae’n cymryd amser cyn i’r halen ddechrau gweithio;
- gall glaw wanhau’r halen neu ei olchi oddi ar y ffyrdd, sy’n golygu y byddant yn debygol o rewi
- os yw’r tywydd yn eithriadol o oer, ni fydd halen yn atal ffyrdd rhag rhewi;
- pan fydd glaw yn troi’n eira yn ystod yr awr frys, bydd tagfeydd traffig yn rhwystro’r cerbydau graeanu rhag gwneud eu gwaith;
- os yw’r tywydd yn eithriadol o ddrwg, ni fydd y cerbydau graeanu a chlirio hyd yn oed yn gallu teithio ar y rhwydwaith ffyrdd.
O dan rai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu ymateb mor gyflym ag arfer:
- ar nosweithiau pan mae’n bwrw glaw ac yna’r awyr yn clirio’n gyflym, bydd gwaith graeanu’n dechrau unwaith y bydd y glaw wedi peidio. Yn yr amodau hyn, gall y tymheredd ddisgyn yn gyflym a gallai ffyrdd gwlyb rewi cyn i ni allu eu graeanu.
- pan fydd ffyrdd sych yn cael eu heffeithio gan rew ar doriad gwawr. Mae hyn yn digwydd pan fo gwlith y bore’n ffurfio, gan lanio ar ffordd wlyb a rhewi wrth ei chyffwrdd. Mae’n amhosibl rhagweld pryd na ble y bydd rhew yn ffurfio ar doriad gwawr.