Alert Section

Clirio ysbwriel a gwasanaeth ysgubo


Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn datgan os yw unigolyn yn gollwng, taflu neu adael unrhyw beth sy’n achosi anharddiad mewn man cyhoeddus; maen nhw’n torri’r gyfraith.  Mae gwm cnoi a stympiau sigarennau yn ysbwriel. Mae’n drosedd i daflu gwastraff tai neu fusnes ym miniau ysbwriel y Cyngor.

Mae hi hefyd yn drosedd i adael ysbwriel neu fagiau o ysbwriel wrth ochr bin ysbwriel gan fod hynny’n cael ei gyfrif fel tipio anghyfreithlon. Rhowch wybod amdano. 

Y tâl am Hysbysiad Cosb Benodedig a gyflwynir yn Sir y Fflint yw £75 ac fe’u cyflwynir yn lle erlyn. Ni cheir gostyngiad yn y tâl am ei ad-dalu’n gynt.

Biniau ysbwriel

Caiff lleoliadau biniau ysbwriel eu hystyried yn ofalus er mwyn sicrhau na fyddant yn achosi perygl i ddefnyddwyr priffyrdd neu fod yn agored i fandaliaeth.  Lleolir y mwyafrif o finiau ysbwriel mewn mannau manwerthu neu hamdden ac wrth ysgolion.  Adolygir safleoedd biniau ysbwriel yn rheolaidd - os ydych chi o’r farn bod angen bin ysbwriel / mwy o finiau ysbwriel ar ardal benodol, cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Caiff pob bin ei wagio yn unol â faint o ddefnydd a wneir ohono.

  • Canol tref – caiff biniau ysbwriel eu gwagio rhwng 2 a 3 gwaith y dydd.
  • Strydoedd preswyl, tu blaen i siopau, parciau – yn unol ag amserlen reolaidd.  

Gwasanaeth ysgubo

Caiff y mwyafrif o strydoedd wedi'u mabwysiadu yn Sir y Fflint eu hysgubo’n rheolaidd (gan ddilyn amserlen benodol). Rydym yn defnyddio cyfuniad o ysgubo â llaw a cherbydau ysgubo.  Caiff ysbwriel ei waredu er mwyn gwella golwg ardal, tra bod dail yn cael eu gwaredu er mwyn atal llifogydd a damweiniau.

Mae pa mor aml maen nhw’n cael eu hysgubo yn dibynnu ar ba mor brysur ydynt.  Er enghraifft, mae angen ysgubo canol trefi prysur yn fwy aml nag ardaloedd preswyl tawel.  Mae cwymp dail ychwanegol yr hydref yn galw arnom i gynyddu ein gwasanaeth ysgubo dail mewn ardaloedd penodol er mwyn atal llifogydd a damweiniau sy’n digwydd oherwydd y cwymp dail.  Amlder:

  • Palmentydd mewn trefi a chanolfannau siopa – yn ddyddiol
  • Pob lleoliad arall – unwaith y flwyddyn
  • Ffyrdd dosbarth A a ffyrdd trefol dosbarth B – 4 gwaith y flwyddyn (ysgubo mecanyddol)
  • Pob ffordd arall - unwaith y flwyddyn (ysgubo mecanyddol)

Yr hyn nad ydym yn ei wneud

  • Nid ydym yn ysgubo ffyrdd lle nad oes cwrb gan fod yr ysgubo yn erydu’r ochrau a’r glannau (gan arwain at ddifrod a llifogydd).
  • Mae gan ysgolion, colegau, ysbytai, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r awdurdodau rheilffordd gyfrifoldeb dros glirio ysbwriel oddi ar eu tir.
  • Os oes ysbwriel ar dir preifat, y perchennog sy’n gyfrifol.  Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn rhoi’r hawl i gynghorau a’r cyhoedd erlyn troseddwyr er mwyn gorfodi iddynt glirio ardaloedd.