Alert Section

Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Gogledd Cymru 2015-2020


Yn unol â Deddf Trafnidiaeth 2000 a Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 sydd wedi’i haddasu mae Cyngor Sir y Fflint, fel awdurdod trafnidiaeth lleol, wedi paratoi Cyd-gynllun Trafnidiaeth Leol (CTL) gydag awdurdodau trafnidiaeth lleol Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.  Mae’r CTL yn ddogfen statudol a fydd yn eistedd ochr yn ochr â Chynlluniau Datblygu Lleol a pholisïau a chynlluniau eraill pob un o’r Awdurdodau Lleol, ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu.  Mae’r cynllun yn gosod allan gweledigaeth pob un o chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru i ‘gael gwared ar rwystrau i dwf economaidd, ffyniant a lles drwy ddarparu rhwydweithiau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac effeithiol’ ac mae’n nodi manylion ymyraethau a phrosiectau penodol y Cyngor hwn er mwyn cyflawni’r nod hwn.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld Cyd-gynllun Trafnidiaeth Leol Gogledd Cymru a dogfennau eraill sy’n cyd-fynd ag ef: