CYNGOR SIR Y FFLINT
POLISI AR GYFER CYNLLUNIAU PARCIO PRESWYLWYR
1.0 Cefndir
1.1 Prif bwrpas y briffordd yw i draffig symud, ac nid oes gan unrhyw gerbyd yr hawl cynhenid i barcio ar briffordd gyhoeddus. Mae parcio’n cael ei dderbyn os nad yw'n effeithio ar symudiad traffig, yn creu perygl diogelwch, yn rhwystro mynediad i gerbydau argyfwng neu fynediad i eiddo.
1.2 Mewn ardaloedd eraill, mae parcio ar y briffordd yn cael ei reoli gan gyfyngiadau a gyflwynwyd gan Orchmynion Rheoleiddio Traffig ar ôl cwblhau gweithdrefnau statudol ffurfiol a datrys gwrthwynebiadau cyhoeddus mewn ymgynghoriad ac yn destun cymeradwyaeth Aelodau.
Gall y cyfyngiadau hyn fod ar sawl ffurf:-
- llinellau melyn dwbl yn gwahardd pob parcio, a gyflwynwyd yn benodol ar gyfer anghenion diogelwch priffyrdd ac sy’n cynnwys eithriadau yn gyffredinol ar gyfer llwytho/dadlwytho a deiliaid bathodynnau anabl (ar yr amod nad yw'r cerbydau hyn yn creu rhwystr).
- llinellau melyn sengl yn cyfyngu parcio i gyfnodau penodol (fel arfer yn gysylltiedig ag anghenion gweithredol priffyrdd) ac yn cynnwys yr un gwrthwynebiadau.
- mannau parcio dynodedig, sy’n nodi lle gall y cerbydau barcio ac o dan ba amodau (e.e. cyfyngiadau amser a/neu dalu am barcio ar y stryd). Mae'r rhain yn dogni parcio ar y stryd mewn achosion lle mae'r galw yn fwy na'r cyflenwad. Gall hefyd gwmpasu parcio trwydded preswyl, lle rhoddir blaenoriaeth parcio i breswylwyr dros ddefnyddwyr eraill y briffordd.
1.3 Mae Cynlluniau Parcio Preswylwyr, a gyflwynir hefyd drwy gyfrwng Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, yn darparu dull amgen ar gyfer rheoli gofynion parcio, mewn sefyllfaoedd lle nad yw'n rhesymol i reoli problemau parcio drwy gyfyngiadau parcio confensiynol, ac i wneud canol trefi ac ardaloedd ymylol yn fwy deniadol.
1.4 Mae'r polisi hwn yn nodi'r egwyddorion ar gyfer sefydlu Cynlluniau Parcio Preswylwyr. Fodd bynnag, gall y mater yn ei gyfanrwydd fod yn gymhleth iawn, gyda llawer o amgylchiadau unigol a all fod yn anodd mynd i'r afael â nhw o fewn polisi rhagnodol, ac felly mae rhywfaint o ddehongli cynlluniau penodol yn ddymunol ac yn anochel.
2.0 Manteision ac Anfanteision Cynlluniau Parcio Preswylwyr
2.1 Er bod rhinweddau di-oed ac amlwg ynghlwm wrth weithredu cynlluniau parcio preswylwyr, ceir manteision ac anfanteision:-
Manteision
- Annog pobl i beidio â pharcio fel cymudwyr / siopwyr / busnes mewn strydoedd preswyl.
- Gwell amgylchedd mewn ardaloedd preswyl.
- Gall preswylwyr weld bod parcio ar y stryd yn haws ac yn fwy cyfleus.
- Gall ddarparu gwell rheolaeth parcio a thraffig.
- Gall gynhyrchu manteision diogelwch ar y ffyrdd.
Anfanteision
- Sgil-effeithiau posibl adleoli parcio cymudwyr / siopwyr / busnes.
- Costau cyflwyno a rheoli a thalu am drwyddedau. Am y rhesymau hyn, argymhellir y dylai unrhyw gynllun unigol ariannu ei hun.
- Nid yw trwyddedau yn gwarantu lle parcio bob tro.
- Efallai y bydd ond yn helpu i reoli diffyg mannau ac nid yn datrys problemau.
- Gall arwain at ddefnydd aneffeithlon o fannau parcio ar y stryd.
- Mae risgiau y gallai cynllun leihau lefelau parcio ar y stryd, gyda phroblemau i ymwelwyr a busnesau.
3.0 Mathau o Gynlluniau Trwydded Parcio
3.1 Fe ystyrir bod tri math o leoliad yn fras lle gallai cynlluniau parcio preswylwyr fod yn briodol:-
3.2 Y galw am barcio yn fwy na'r cyflenwad - Cynlluniau Trwydded Arbennig.
Dyma’r ffurf fwyaf traddodiadol a chyffredin o gynllun, lle mae stryd neu ardal yn cael ei rhannu'n ardaloedd parcio gwaharddedig a rhai a ganiateir. I barcio mewn ardal a ganiateir, byddai angen i gerbyd ddangos trwydded ddilys. Gall y categorïau trwydded amrywio ond fel arfer maent yn darparu ar gyfer preswylwyr, ymwelwyr, gweithwyr gofal iechyd sy'n gwasanaethu preswylwyr a defnyddwyr eraill y gall y Cyngor ystyried yn briodol. Mae'r system hon yn rhoi’r budd gorau posibl i breswylwyr, ond gall lefelau isel o barcio preswylwyr arwain at ddefnydd aneffeithlon o ddarpariaeth parcio ar y stryd, mewn ardaloedd lle mae'r cyflenwad parcio cyffredinol yn gyfyngedig. Mewn ardaloedd lle mae'r galw am fannau ar y stryd gan breswylwyr yn unig yn fwy na'r cyflenwad, gall rheoli a dyrannu trwyddedau fod yn broblem. Mae hyn yn arbennig o wir lle mae cynllun yn arwain at ostyngiad yn y gofod ymyl y palmant drwy ffurfioli darpariaeth parcio, e.e. clirio parcio o gyffyrdd ac ati.
3.3 Rheoli parcio ar y stryd gan lacio’r rheolau i breswylwyr - Rhannu Mannau Parcio.
Mae'r math hwn o gynllun yn cael ei gyfeirio ato fel ‘rhannu mannau parcio’, lle mae defnydd deuol o’r man parcio ar y stryd, gan oresgyn y tanddefnydd, o ganlyniad i’r problemau tanddefnyddio yn y cynlluniau trwydded arbennig a fanylir uchod. Mae'r cynllun hwn yn galluogi'r defnydd am amser penodol o fannau ar y stryd (y bydd neu na fydd yn rhaid talu amdanynt) er mwyn gweithredu ochr yn ochr â thrwyddedau cerbydau preswylwyr a fyddai'n cael eu heithrio rhag cyfyngiadau amser neu dâl. Ar ben eu hunain, fe all y cynlluniau hyn ddileu'r angen i weinyddu trwyddedau ar gyfer ymwelwyr, gofalwyr ac ati. Gallai amrywiadau posibl i'r math hwn o gynllun ddarparu ar gyfer rhoi mannau parcio arbennig i breswylwyr.
3.4 Ardaloedd lle mae parcio â rheolaeth Amgylcheddol/Diogelwch/Traffig
Mewn rhai achosion efallai y bydd rheoli parcio yn ddymunol ar gyfer rheoli priffyrdd am resymau llif / diogelwch traffig. Er y gall y categori hwn gynnwys parcio i breswylwyr fel nodwedd rheoli, dylid nodi y gall cyfyngiadau parcio mwy confensiynol fod yr un mor effeithiol, ond lle gallai'r rhain amharu ar drigolion, gall cynlluniau i ddarparu ar gyfer eu hanghenion fod yn briodol.
4.0 Meini prawf ar gyfer Ystyried Cynlluniau Parcio i Breswylwyr
4.1 Y prif feini prawf ar gyfer cyfiawnhau cynllun parcio preswylwyr yw nad oes digon o fannau priffyrdd i drigolion ardal barcio, o ganlyniad i bresenoldeb cerbydau ymwelwyr, busnes neu gymudwyr a/neu o ganlyniad i gyfyngiadau parcio presennol. Byddai egwyddorion cychwynnol yn cynnwys:-
- Dylid bod tystiolaeth glir o gefnogaeth preswylwyr ar gyfer cynllun cyn y paratoir manylion unrhyw gynllun.
- Y camau gorfodi sy'n gysylltiedig â'r holl gynlluniau sydd i'w gwneud gan Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil y Cyngor.
- Ni fyddai cynlluniau parcio preswylwyr yn cael eu cyflwyno lle mae mwyafrif y preswylwyr yn cael parcio oddi ar y stryd neu lle nad oes digon o le ar y stryd i ddarparu ar gyfer parcio preswyl a dibreswyl.
- Yn gyffredinol ni ddylai cynlluniau gael eu cyflwyno i reoli parcio mewn sefyllfaoedd lle mae’r broblem yn gysylltiedig â gormod o alw gan breswylwyr am fannau ar y stryd.
- Mae rhagdybiaeth yn erbyn ardaloedd bach anghysbell ymhell oddi wrth y prif feysydd gorfodaeth parcio.
4.2 Argymhellir y dylid mabwysiadu’r egwyddorion cyffredinol canlynol i helpu i ddiffinio cynllun hylaw pellach neu i ddatblygu cynllun cychwynnol:-
- O leiaf 50% o eiddo mewn unrhyw ardal arfaethedig i beidio â chael unrhyw barcio oddi ar y stryd.
- Ar adegau pan fydd problemau parcio yn cael eu hachosi gan bobl nad ydynt yn breswylwyr, dylai'r gofod ar y palmant sy’n cael ei feddiannu gan breswylwyr fod yn fwy na 40% o'r cyfanswm sydd ar gael.
- Bod digon o le palmant i alluogi 85% o'r holl gartrefi i barcio o leiaf un cerbyd ar y stryd.
- Ni ddylai cynlluniau greu problemau annerbyniol ar ffyrdd cyfagos.
- Ni fydd cyflwyno mannau parcio wedi’u cadw mewn ardaloedd lle mae mannau parcio’n gyfyngedig iawn yn effeithio ar hyfywedd masnachol yr ardal.
4.3 Ni ddylai unrhyw geisiadau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hyn gael eu hystyried ymhellach oni bai: -
- Bod y cynllun yn ffurfio rhan o gynllun rheoli traffig/ parcio integredig ehangach.
- Bod problemau diogelwch ar y ffyrdd.
- Byddai effaith parcio o ddatblygiadau mewn ardaloedd preswyl yn andwyol.
- Bod cynlluniau yn cael eu hyrwyddo i ddefnyddio cyfleusterau eraill megis parcio oddi ar y stryd.
5.0 Fframwaith Cyfreithiol a Rheoli
5.1 Ni fydd Trwydded Parcio ar unrhyw adeg yn esgusodi deiliad y drwydded o barcio’n gyfreithiol, heb ofal a heb greu rhwystr. Ni fydd y Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrod, lladrad neu golled o unrhyw gerbyd neu ei gynnwys tra bydd wedi parcio ym Mharth Parcio’r Breswylwyr. Pan weithredir o dan y gweithdrefnau gorfodi Parcio Sifil, bydd cerbydau sy’n parcio mewn Parthau Parcio i Breswylwyr heb arddangos trwydded ddilys yn destun Rhybudd Talu Cosb, a orfodir drwy brosesau a phwerau Parcio Sifil, a dilynir gweithdrefnau cymeradwy arferol.
5.2 Bydd unrhyw gynlluniau a weithredir o dan y prosesau Gorfodaeth Parcio Sifil yn cael eu rheoli gan Wasanaethau parcio’r Cyngor a byddai proses rheoli briodol ac apeliadau’n berthnasol.
5.3 Bydd pob cynllun yn cael eu gweithredu’n unol â pholisïau cyfle cyfartal a hil y Cyngor ac ym mhob penderfyniad cyn gweithredu unrhyw gynllun, bydd sylwadau gan grwpiau anghenion arbennig yn cael eu hasesu
6.0 Diffiniadau a Manylion Trwydded
6.1 Er mwyn i gynlluniau weithredu'n foddhaol a heb amwysedd, mae angen manylu cerbydau a fyddai'n gymwys ar gyfer trwyddedau a'r mathau o drwyddedau a gyhoeddwyd.
6.2 Cerbydau a ganiateir
- Bydd trwyddedau ond yn cael eu rhoi i geir a cherbydau nwyddau ysgafn gyda chyfyngiadau pwysau o 3.5 tunnell neu is. Bydd cerbydau sy'n fwy na 6 metr o hyd, 2.44 metr o uchder, neu yn gallu cludo mwy na 13 o bobl, gan gynnwys y gyrrwr, oll yn cael eu heithrio rhag gwneud cais am drwyddedau.
- Ni fydd trwyddedau yn cael eu rhoi i feiciau modur oherwydd ymarferoldeb arddangos, ond, lle bynnag y bo modd, bydd beiciau modur yn cael ardal parcio ddynodedig lle bo galw am hynny. Pe na bai hyn yn bosibl neu os nad oes digon o alw, gall beiciau modur barcio mewn mannau trwydded heb drwydded, yn amodol ar gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cyngor.
- Ni fydd trwyddedau unigol yn cael eu rhoi i garafannau neu ôl-gerbydau, er gellir parcio’r rhain o fewn cynllun ar sail tymor byr wrth lwytho / dadlwytho ar yr amod eu bod yn sownd i gerbyd â thrwydded ddilys.
6.3 Rhoi Trwyddedau a Diffiniadau Cysylltiedig.
Ni fydd dal trwydded yn gwarantu lle parcio o fewn parth, a lle bydd parthau ar wahân mewn ardal, bydd trwyddedau'n benodol i barth. Ni fydd unrhyw gynllun fodd bynnag yn cael ei gynllunio, oni bai bod y tebygolrwydd o leoedd nad ydynt ar gael i ddeiliaid trwydded yn isel. Er bod rhyw syniad o ddiffiniadau a gofynion o ran cymhwystra trwydded yn y ddogfen hon, efallai y bydd angen ystyriaethau pellach ar gyfer cynlluniau penodol.
6.4 Trwyddedau a Defnydd
- Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi ar sail flynyddol adnewyddadwy ac yn effeithiol am gyfnod o 12 mis. Bydd rhoi trwydded a’i hadnewyddu drwy gais unigol a thrwy ffurflenni cais priodol.
- Bydd trwyddedau'n dangos enw a theitl yr Awdurdod sy’n cyhoeddi, y parth parcio perthnasol, rhif cofrestru’r cerbyd a rhif cyfeirnod. Bydd unrhyw drwyddedau arbenigol yn darparu manylion unigol.
- Rhaid dangos bob trwydded ar y tu mewn i'r ffenestr flaen fel bod manylion wedi’u cofnodi i'w gweld yn glir.
- Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i atal trwyddedau mewn achos o ddefnydd twyllodrus neu amhriodol, heb ad-dalu costau.
- Lle bydd car wedi’i logi neu gar cwrteisi yn disodli cerbyd presennol, gellir rhoi Trwydded Ymwelydd / dros dro am gyfnod cyfyngedig.
- Ni fydd angen trwydded ar gyfer cerbydau sy'n cyflawni dyletswyddau hanfodol a phwerau statudol, gan gynnwys cerbydau gwasanaeth brys wrth fynd at argyfwng, ymgymerwyr statudol, casglu / danfon post, busnes cyngor / llywodraeth a cheir ffurfiol priodas a hersiau. Yn ogystal, ni fydd angen trwyddedau ar gyfer cerbydau sy’n llwytho / dadlwytho nwyddau neu lle mae teithwyr yn cael eu casglu neu ollwng.
6.5 Trwyddedau Preswylwyr
Dylai’r diffiniadau a'r canllawiau canlynol gael eu hystyried fel rhan o gynllun parcio preswylwyr:-
- Bydd preswylydd yn cael ei ystyried fel unrhyw berson sy'n preswylio mewn cartref o fewn y cynllun diffiniedig, am o leiaf bedair noson yr wythnos ac a ddylai fod wedi cofrestru yn y cofnodion Treth y Cyngor.
- Bydd annedd yn cael ei diffinio fel eiddo domestig a restrir o dan ddiffiniadau Treth y Cyngor.
- Dylai nodiadau penodol gael eu gwneud am Dai Amlfeddiannaeth, lle mae tŷ wedi’i addasu i nifer o fflatiau ar wahân neu randai, ar adeg cyflwyno’r cynllun, gyda phob un yn diwallu dosbarthiad ffurfiol yr annedd, yna byddai bob un yn gymwys i ymgeisio am drwyddedau preswylwyr ac ymwelwyr (fel y bo'n berthnasol) ac fel y caniateir o dan y polisi, neu sy'n berthnasol i'r cynllun unigol. Fodd bynnag pan fo un tŷ wedi cael ei addasu i gynnwys nifer o ystafelloedd cyfanheddol, gan aros fel un eiddo, bydd yn cael ei drin fel annedd unigol.
- Bydd nifer y Trwyddedau Preswylwyr sydd ar gael i un eiddo yn benodol i'r cynllun, er mwyn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran dehongli.
- Bydd y canllawiau canlynol yn cael eu mabwysiadu i ategu at ddarpariaeth trwydded:-
- I ddechrau, bydd un drwydded ac un drwydded i ymwelwyr yn cael eu cyhoeddi i annedd unigol ond yn amodol ar asesiad o alw am barcio / cyflenwad parcio o fewn parth, efallai y bydd trwyddedau ychwanegol ar gael.
- Os oes gan annedd o leiaf un man parcio oddi ar y stryd, ni fyddai'n gymwys ar gyfer y dyraniad llawn o drwyddedau preswyl fesul annedd. Fe fyddai fodd bynnag yn gymwys i gael unrhyw ddyraniad o drwyddedau ymwelwyr a gallant fod yn gymwys i gael unrhyw ddyraniad dilynol o ail rownd trwyddedau preswylwyr.
- Fel arfer, bydd trwyddedau preswylwyr yn benodol i un cerbyd cofrestredig, a rhaid rhoi prawf o berchnogaeth / cyfrifoldeb er boddhad y Cyngor.
- Gall preswylwyr sydd ond â hawl gwneud cais am un drwydded yn unig, neu’n dewis hynny, bennu dau rif cofrestru ar y drwydded, er mwyn eu galluogi i benderfynu pa gerbyd sydd wedi ei barcio yn y bae ac i osgoi cyfnewid ceir ar ac oddi ar dramwyfa. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio bod yn rhaid dangos trwydded bob amser ar gerbydau wedi parcio mewn baeau parcio i breswylwyr. Bydd Hysbysiadau Cosb yn cael eu rhoi ar gyfer unrhyw gerbyd sy'n methu dangos trwydded ddilys ac nid am fethu bod yn berchen ar drwydded.
6.6. Deiliaid Bathodyn Glas
Bydd angen trwydded Parcio i Breswylwyr perthnasol ar gyfer bob deiliaid bathodyn glas i barcio mewn unrhyw Barth Parcio Preswylwyr. Bydd unrhyw fae parcio anabl presennol ar y stryd o fewn parth yn cael eu cadw, ond er mwyn parcio o fewn y rhain, bydd angen dangos Bathodyn Glas a Thrwydded parcio Preswylwyr dilys.
6.7 Trwyddedau Ymwelwyr Gofal a Meddygol
Bydd ymwelwyr sy’n darparu anghenion iechyd a gofal i breswylwyr yn cael mynediad o dan y cynlluniau. Gall y preswylwyr hynny sy'n byw o fewn y parth wneud cais am drwydded parcio ar gyfer teulu neu weithwyr proffesiynol sy'n ymweld â'r eiddo i ddarparu anghenion meddygol neu ofal. Lle mae llawer o alw am barcio, efallai y cyfyngir ar y trwyddedau hyn i'r preswylwyr hynny nad oes ganddynt drwydded Parcio i Breswylwyr. Bydd ceisiadau am drwyddedau yn yr achosion hyn angen cael eu cefnogi gan ymarferwyr meddygol y preswylydd.
6.8 Trwyddedau Ymwelwyr
Bydd trwyddedau ymwelwyr ar gael i bob preswylydd o fewn cynllun ar ôl cyflwyno prawf preswyliad ar gyfradd ratach. Pe bai amodau’n caniatáu, gellir cael trwyddedau ychwanegol am gost heb ddisgownt.
6.9 Trwyddedau Busnes
Bydd unrhyw fusnes sy'n gweithredu o fewn Parth Parcio i Breswylwyr yn gymwys am drwydded busnes; ond os bydd unrhyw fath o barcio oddi ar y stryd ar gael, byddai’r rhain yn cael eu cyfyngu’n arw. Gellir darparu mannau parcio i gwsmeriaid drwy ddarparu rheolaethau parcio amgen e.e. arhosiad cyfyngedig byr yng nghyffiniau siop fach.
6.10 Trwyddedau Arbennig.
Bydd y prif ddefnyddwyr parcio yn dod o dan y trwyddedau a restrir uchod, mae ambell i ddefnydd unigol y tu allan i’r rhai hynny a ddiffinnir. Yn ôl disgresiwn y Cyngor, efallai yr awdurdodir trwyddedau arbennig am gyfnodau cyfyngedig ar gais unigol. Bydd y rhain yn cwmpasu gweithwyr iechyd, contractwyr cynnal a chadw, ymweld â masnachwyr ac ati. O fewn y dyluniad cynlluniau, bydd trefniadau penodol yn cael eu hystyried ar gyfer eglwysi a busnesau unigol wedi’u lleoli o fewn parthau diffiniedig ond bydd angen i unrhyw daliadau adlewyrchu costau gweinyddol.
7.0 Egwyddorion Ariannol
7.1 Gellir rhannu costau Cynlluniau Parcio i Breswylwyr yn ddau gategori
- Costau sefydlu h.y. costau cyfalaf sy'n cynnwys ymchwilio i gynlluniau, ymgynghori, dylunio, gorchymyn traffig, a newidiadau i arwyddion a llinellau.
- Costau gweithredol parhaus ar gyfer gorfodaeth a rheolaeth
7.2 Argymhellir y dylai pob cynllun ariannu ei hun yn llwyr, gan gynnwys ad-dalu’r holl gostau sefydlu cychwynnol. Dylid neilltuo unrhyw beth dros ben i’w ddefnyddio ar gyfer gwella cyfleusterau parcio ledled y Sir.
8.0 Gweithredu’r Cynllun
8.1 O’r hyn a welwyd yn y gorffennol, gellir disgwyl y bydd nifer y cynlluniau y gofynnir amdanynt yn sylweddol, unwaith y bydd parcio sifil yn weithredol ac mae'n debyg y bydd yn fwy na chapasiti adnoddau’r Awdurdod mewn unrhyw flwyddyn ariannol unigol. Argymhellir bod pob cais yn cael ei werthuso gan staff yr Adain Draffig ar y cyd â Gwasanaethau Parcio, a bod rhestr fer o'r rhai yr ystyrir eu bod yn ddymunol ac yn ymarferol yn cael eu cyflwyno i'r Aelodau Lleol perthnasol i'w chymeradwyo, cyn ei chyflwyno i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol er cymeradwyaeth. Efallai y bydd cynlluniau mwy, sy'n cynnwys mwy nag un ward unigol, angen cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol.
Caiff y rhai hyn a gymeradwyir eu hargymell oherwydd yr angen i newid Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, i raddio cynlluniau yn nhrefn blaenoriaeth ac i wirio bod achos a gwerthusiad rhesymol wedi cael eu gwneud.
Dylai’r Ffactorau ar gyfer pennu blaenoriaethau cynllun cymharol gynnwys:-
- Y cysylltiad â gwaith arall sy'n cael ei wneud, e.e. adolygiadau canol y dref.
- Mynediad i gerbydau argyfwng.
- Argaeledd parcio oddi ar y stryd ar gyfer pobl nad ydynt yn breswylwyr sy'n defnyddio'r ardal.
- Effaith disodli ceir y bobl nad ydynt yn breswylwyr.
- Maint y cynllun arfaethedig.
- Dibenion parcio'r bobl nad ydynt yn breswylwyr
8.2 Ymgynghori a Gweithredu.
Bydd pob cynllun parcio bwriedig i breswylwyr yn destun ymgynghoriad a bydd yn cynnwys:-
- Holiadur cychwynnol yn cael ei anfon at yr holl breswylwyr a busnesau o fewn yr ardal arfaethedig, ac yn agos ati, er mwyn nodi lefel y pryder ynghylch anawsterau parcio ac i sefydlu lefel y gefnogaeth ar gyfer unrhyw gynllun arfaethedig. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i sefydlu gofynion cymuned leol ar gyfer unrhyw gynllun yn unig. Yna, bydd y canlyniadau o'r ymarfer hwn yn cael eu defnyddio i bennu'r angen am gynigion, ac i'w datblygu, ar sail y farn a fynegwyd gan y mwyafrif.Bydd manylion llawn yn deillio o'r ymgynghoriad ar gael i'w harchwilio gan unrhyw ymgynghorai.
- Unwaith y penderfynir ar gynllun, dylid cynnal rhagor o ymgynghoriadau drwy arddangosfa gyhoeddus leol, cyfarfod cyhoeddus neu gyfarfodydd grŵp preswylwyr, a chanolbwyntio ar faint a graddfa unrhyw gynllun posibl i ganiatáu swyddogion i ateb unrhyw gwestiynau,wedi’i ddilyn gyda holiadur arall i bob preswylydd a busnes yn gofyn i ymatebwyr ddangos os ydynt yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynllun.
- Bydd y cam ffurfiol o’r broses yn cynnwys cyhoeddi Hysbysiadau o Fwriad yn y wasg ac ar y safle. Ar y cam hwn, bydd angen delio ag unrhyw wrthwynebiadau a ddaw i law yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Dylid ond ystyried gweithredu cynllun os oes cefnogaeth glir ar gyfer y cynigion gan gartrefi yn y parth a chytundeb i dalu costau’r drwydded flynyddol. Er mwyn i unrhyw gynllun symud ymlaen, argymhellir y bydd yn ofynnol cael isafswm ymateb o 50% i'r holiadur cychwynnol gyda’r 51% sy'n weddill o blaid y cynigion yn ystod pob cam o'r broses ymgynghori.
9.0 Dyluniad
9.1 Wrth ystyried unrhyw gynlluniau, mae angen dealltwriaeth glir o'r problemau parcio yn yr ardal a goblygiadau cyflwyno unrhyw reolaethau Parcio i Breswylwyr newydd, yn enwedig o ran yr adleoliad posibl o barcio wedi'i ddadleoli. Bydd pob cynllun yn cael ei gyflwyno ar sail parth a thrwy hynny darperir mwy o hyblygrwydd drwy ddefnyddio capasiti dros ben mewn un stryd i ategu at un arall. Dylai ffiniau'r parth aros yn rhesymegol ac wedi’u diffinio’n hawdd ac nid yn ddigon mawr i ddarparu buddion i gerbydau sy’n 'cymudo' wrth aros yn eu parth.
9.2 Mewn egwyddor, bydd cyfyngiadau parcio yn ystod y dydd sy’n adlewyrchu amseriadau cynllun safonol (er enghraifft dydd Llun i ddydd Sadwrn 8am tan 6pm), yn cael eu mabwysiadau ac yn sail ar gyfer dechrau proses dylunio cynlluniau lleol. Fodd bynnag, gall y cyfyngiadau parcio hyn fod yn anghyfleus ar adegau pan fydd y galw preswyl ar ei uchaf. Felly mae angen bod yn hyblyg wrth benderfynu ar y cyfnod amser gwirioneddol o gyfyngiadau o fewn pob cynllun, er mwyn cyflawni anghenion parcio preswylwyr lleol yn ymarferol.
9.3 Wrth ystyried anghenion preswylwyr a phenderfynu ar fanylion cynllun, bydd angen ystyried y materion canlynol:-
- Cynnal llif traffig a gwelededd ar gyffyrdd.
- Mynediad i gerbydau.
- Gofynion llwytho / dadlwytho.
- Arosfannau bysiau.
- Anghenion deiliaid Bathodyn Glas.
- Mannau aros cyfyngedig ar gyfer busnesau lleol.
- Ymwelwyr a chategorïau eraill o yrwyr sydd angen parcio yn y parth.
- Defnyddio’r ardal h.y. preswyl neu fasnachol.
- Diogelwch y cyhoedd o fewn y parth
Yr amcan yw gwneud y gorau o nifer lleoedd preswylwyr, lleihau faint o barcio cymudwyr / busnes a geir mewn ardaloedd preswyl a hefyd rhoi ystyriaeth briodol i faterion arbennig megis ysgolion / eglwysi a busnesau i leihau aflonyddwch.
9.4 Mae’n rhaid i bob arwydd a marc fod yn unol â'r Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol, ac adrannau perthnasol o Lawlyfr Arwyddion Traffig yr Adran Drafnidiaeth/Llywodraeth Cynulliad Cymru.
9.5 Ni fydd mannau parcio unigol fel arfer yn cael eu darparu. Bydd mannau parcio wedi'u marcio’n barhaus ar y pryd fel arfer yn cael eu darparu yn unol â'r Rheoliadau. Rhaid i gerbydau gael eu parcio yn gyfan gwbl o fewn man wedi'i farcio heb unrhyw ran yn mynd drosodd i fan arall neu’n ymestyn dros linellau melyn neu ryw gyfyngiad arall. Bydd methu cydymffurfio â'r gofyniad hwn yn gwneud y deiliad Trwydded yn destun Rhybudd Talu Cosb.
9.6 Gellir defnyddio Parthau Cyfyngedig gydag awdurdodiad arbennig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er y gall y broses gymeradwyo fod yn hir. O fewn y rhain, gellir cael gwared ar y llinellau melyn a dileu’r mannau wedi’u marcio. Fodd bynnag, mae angen arwyddion o hyd i gynghori modurwyr am y cyfyngiadau ac yn ymarferol, caiff y rhain eu hargymell ar gyfer ardaloedd bach a cul-de-sac yn unig, er mwyn bod yn glir wrth orfodi, gan fod y modurwyr ond yn cael gwybod am y cyfyngiadau yn y mannau mynediad parth yn unig.
9.7 Ar ôl cwblhau'r cynllun ac o fewn y flwyddyn gyntaf, bydd trefniadau’n cael eu gwneud i gynnal adolygiad gweithredol, ac os oes angen, cychwyn gwelliannau yn unol â gweithdrefnau cymeradwy.
10 Taliadau Cynllun ac Adolygu
10.1 Penderfynir ar Daliadau am Drwyddedau gan yr Awdurdod, a dylid eu gosod ar lefel sy'n cwmpasu camau gorfodi a chostau gweithredol y cynllun. Dylid nodi pob taliad yn glir a'u cyhoeddi mewn unrhyw lenyddiaeth ymgynghori, ynghyd â holl Delerau ac Amodau eraill o gynllun Parcio’r Preswylwyr.
10.2 Adolygir holl daliadau’r Drwydded yn flynyddol.
10.3 Mae'r lefel bresennol a argymhellir o daliadau Trwydded fel a ganlyn:-
- Trwyddedau Preswylwyr - £25 y flwyddyn, gan gynnwys deiliaid ‘Bathodyn Glas’
- Trwyddedau Ymwelwyr - Gofal a Meddygol Wedi’u darparu heb gostau.
- Trwyddedau Ymwelwyr - £5 am 10 tocyn
- Trwyddedau Busnes - £200 fesul trwydded
- Ail Drwydded - yr un taliadau â’r uchod
- Trwyddedau Arbennig - wedi’u cynnwys y tu allan i'r polisi hwn gan oddefebau a hepgoriadau
10.4 Cyfrifoldeb deiliaid trwydded yw adnewyddu Trwyddedau. Bydd deiliaid trwydded presennol yn cael eu gwahodd i adnewyddu eu trwyddedau yn flynyddol gan y Cyngor. Os bydd preswylydd yn methu adnewyddu eu trwydded cyn y dyddiad dod i ben, bydd y drwydded yn dod yn annilys.
10.5 Bydd cyfnod y Drwydded yn ymestyn o 1 Ebrill at 31 Mawrth.
10.6 Bydd ad-daliadau yn cael eu darparu lle nad oes angen Trwyddedau mwyach. Mae'n rhaid i drwyddedau gael eu dychwelyd i'r Adain Gwasanaethau Parcio, Adran yr Amgylchedd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF a bydd pob ad-daliad yn cael ei gyfrifo ar sail y misoedd llawn sy’n weddill, wedi tynnu 10% o gostau trwydded flynyddol ar gyfer gweinyddu.
10.7 Rhaid rhoi gwybod am Drwyddedau coll neu sydd wedi’u dwyn ar unwaith i'r Adain Gwasanaethau Parcio ar y cyfeiriad yn 10.6 uchod. Bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi yn amodol ar weinyddiaeth o 10% o gost y drwydded flynyddol, ar yr amod bod yr holl delerau ac amodau yn cael eu bodloni.