Alert Section

Cludiant Cymunedol

Ar y dudalen hon: 

Mae Cludiant Cymunedol yn ffurf ddiogel, hygyrch, cost effeithiol a hyblyg o deithio. Mae Cludiant Cymunedol yn bwysig i bobl nad oes ganddynt fynediad i gar na chludiant cyhoeddus. Hefyd mae’n hynod bwysig mewn ardaloedd gwledig a threfol, ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion a sefyllfaoedd.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaeth Fflecsi

Mae Fflecsi yn wasanaeth newydd sy’n cael ei ddarparu gan Drafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau lleol.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae arnoch chi angen archebu o flaen llaw. Gallwch archebu drwy ap (sydd hefyd yn caniatáu i chi weld ble mae’ch bws), ar y wefan neu drwy ffonio 0300 234 0300.

Mae’r gwasanaeth ar gael i ardaloedd Treffynnon a Bwcle.

Cewch fwy o wybodaeth yn trc.cymru

Gwasanaethau i Apwyntiadau Meddygol

Gwasanaethau i Apwyntiadau Meddygol Gall trigolion Sir y Fflint fanteisio ar ddau wasanaeth sy’n darparu cludiant i apwyntiadau meddygol fel

  • Deintyddion
  • Meddyg
  • Apwyntiadau yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Iarlles Caer 

Trafnidiaeth Gymunedol y Gororau

Mae’r gwasanaethau hyn ar gael am bris gostyngol.

Ewch i wefan Cludiant Cymunedol y Gororau i ddysgu mwy

Gwasanaeth Ffonio a Theithio Sir y Fflint

Mae hwn yn wasanaeth o ddrws i ddrws ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus.

Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth i deithio i:

  • Apwyntiadau meddyg teulu
  • Apwyntiadau ysbyty
  • Apwyntiadau iechyd eraill.

Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd wrth archebu taith. Ond rydym ni’n gwneud ein gorau i ddarparu gwasanaeth i deithiau ar fyr rybudd. 

Wrth gofrestru bydd gofyn i aelodau ateb y cwestiynau canlynol er mwyn sicrhau eu bod bodloni’r meini prawf i ddefnyddio’r gwasanaeth:

  • Ble ydych chi’n byw?
  • Lle ydych chi eisiau teithio iddo?
  • Beth yw pwrpas y daith?
  • Ai hwn yw’r tro cyntaf yr ydych chi wedi gorfod gwneud y daith hon?
  • Oes yna gar y gallwch chi ei ddefnyddio?
  • Fedrwch chi ddefnyddio gwasanaeth bws?
  • Os ydych chi’n mynd i apwyntiad yn yr ysbyty, a ydych chi’n gymwys i ddefnyddio Gwasanaeth Cludiant Claf Gwasanaeth Ambiwlans Cymru?

Gallwch wneud cais i fod yn aelod o’r Gwasanaeth Ffonio a Theithio Cymunedol drwy ffonio’r Gwasanaethau Trafnidiaeth ar 01352 701234 rhwng 9am a 5 pm dydd Llun i ddydd Gwener. 

Ffioedd

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer aelodau yn unig, gyda ffi danysgrifio flynyddol o £10.

Gallwch dalu dros y ffôn neu drwy siec yn daladwy i ‘Cyngor Sir y Fflint’.

Mae pob taith wedyn yn costio 45c y filltir.