Alert Section

Stryd Fawr Shotton - Ymgynghori


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynigion ar hyd Stryd Fawr Shotton.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Sul 11 Medi 2022 yn awr. 

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth arall ar: 

Ddydd Mawrth, 6 Medi 2022 rhwng 4pm-8pm yn Eglwys Rivertown, Chester Road West, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 1BX. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn ceisio eich barn am gynigion i weithredu isadeiledd Teithio Llesol (cerdded a beicio), gwelliannau i’r amgylchedd naturiol a mesurau i wella llif y traffig ar y B5129 Stryd Fawr Shotton a Brook Road i Shotton Lane.

Mae Stryd Fawr Shotton yn goridor teithio pwysig, sy’n darparu cysylltiadau strategol allweddol i ardaloedd cyflogaeth, addysg a gwasanaethau.  Fodd bynnag, i’r rhai sy’n byw, gweithio neu’n teithio’n rheolaidd trwy Shotton, ac sy’n cael mynediad i amwynderau lleol mewn car, ar feic neu wrth gerdded, mae tagfeydd traffig ac achosion o wrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr ar y llwybrau troed wedi effeithio ar hyn yn y gorffennol.  

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hanesyddol ar hyd y coridor, mae cynigion wedi’u datblygu ar gyfer cyflwyno lonydd beicio hybrid, gwelliannau i isadeiledd gwyrdd sy’n cynnwys pyllau coed, gerddi glaw a safleoedd bws gwyrdd, yn ogystal â mesurau sy’n ceisio gwella llif y traffig fel y lonydd troi i’r dde dynodedig a newidiadau i gyfyngiadau Dim Mynediad/Traffig Unffordd presennol.

Rhagwelir y bydd y cynigion ar gyfer gwelliannau yn gwella ansawdd bywyd preswylwyr yn fawr yn ogystal â chynnig dewisiadau teithio gwyrdd amgen ar gyfer teithiau lleol gyda manteision amlwg ar gyfer iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Pe bai’r cynllun yn datblygu i’r cam adeiladu, byddai cyfnod anochel o amhariad, a rhagwelir y byddai’r cyfnod hwn yn para am gyfnod o 11 mis pan fyddai angen defnyddio goleuadau traffig dros dro 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. 

Mapiau

Stryd Fawr Shotton - Dweud Eich Dweud 

Gallwch hefyd weld y cynigion yn bersonol: 

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth arall ar: 

Ddydd Mawrth, 6 Medi 2022 rhwng 4pm-8pm yn Eglwys Rivertown, Chester Road West, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 1BX


 

21/7/22 - Eglwys Rivertown, Ffordd Gorllewin Caer, CH5 1BX 

22/7/22 - Neuadd Eglwys Sant Ethelwold, CH5 1QD

Ar agor i:

cyhoedd o 1pm - 6pm

busnesau o 6pm - 8pm 

Shotton High Street - image