Alert Section

Gwanwyn Glân Cymru

Ewch i'r afael â sbwriel ar ein strydoedd, mannau gwyrdd a'n traethau yn ystod Gwanwyn Glân Cymru rhwng 17 Mawrth – 31 Mawrth!

Spring Clean Cymru

Hoffech chi gymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp i lanhau’r gwanwyn yma? Codwch fag heddiw a gwneud addewid i Gwanwyn Glân Cymru!

Rydym yn galw ar bawb i fynd allan a gweithredu yn eich cymuned rhwng 17 Mawrth – 31 Mawrth.

P’un ai eich bod yn codi un bag neu gymaint ag y gallwch gario – gall pawb wneud gwahaniaeth mawr i’n hamgylchedd.

Ymunwch â ni yn un o’r digwyddiadau isod:

25 Mawrth: Ysgol Gynradd Westwood ym Mwcle 1PM - 4PM

27 Mawrth: Byddin yr Iachawdwriaeth, Dee Road, Cei Connah 12PM - 3PM

28 Mawrth: Llwybr Troed Nant Mawr, Becketts Lane, Bwcle 1PM- 4PM