Alert Section

Goleuadau Stryd

Tîm Goleuadau Stryd Cyngor Sir y Fflint sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o oleuadau stryd y Sir.  Mae rhai goleuadau stryd yn eiddo i Gynghorau Cymuned neu Dref yn Sir y Fflint.  Rydym yn cynnal goleuadau ar ran nifer o'r Cynghorau Cymuned.  Rydym hefyd yn gyfrifol am bolion wedi'u goleuo a goleuadau arwyddion ffordd.  Nid ydym yn cynnal goleuadau ar ffyrdd heb eu mabwysiadu.

Goleuadau stryd y Cyngor

Mae tri math o namau a allai effeithio ar olau stryd:

Namau argyfyngol

Amser ymateb o 2 awr

  • Difrod i gebl tanddaearol/cebl ar bolyn (sy'n eiddo i Gyngor Sir y Fflint)
  • Cebl/gwaith metel byw
  • Drws ar goll ar bolyn golau stryd
  • Llusern neu’r bowlen golau yn hongian
  • Golau stryd yn siglo yn y gwynt
  • Golau stryd sydd ddim yn strwythurol ddiogel
  • Goleuadau traffig ddim yn goleuo

Namau brys

Amser ymateb o 24 awr

  • Llusernau neu fracedi wedi troi neu eu cam-alinio, sy’n creu perygl i'r cyhoedd
  • Polion wedi troi neu eu cam-alinio, sy’n creu perygl i'r cyhoedd

Namau eraill

Amser ymateb yn amrywio

  • Diffygion yn y system gyflenwi yn effeithio ar gyfarpar - Hysbysu'r Cwmni Trydan Rhanbarthol o fewn 24 awr
  • Adrodd am nam i'r Adain Goleuadau Stryd - 10 diwrnod gwaith
  • Namau wedi’u canfod ar archwiliadau gyda'r nos - 7 diwrnod gwaith
  • Cynnal a chadw arferol - 90 diwrnod

Namau’n gysylltiedig â’r prif gyflenwad

Mae'r rhan fwyaf o oleuadau stryd yn cael trydan o'r prif gyflenwad, felly ni fyddant yn gweithio os bydd unrhyw bŵer yn cael ei golli neu os bydd problem gyda'r cebl. Byddwn yn adrodd am y namau hyn i’r cwmni trydan.

Mae atgyweirio nam blaenoriaeth uchel yn nam yr ystyrir yn un brys, er enghraifft ar safle sy’n agored i ddamwain, cyffordd fawr neu ardal sy'n peri pryder o ran trefn gyhoeddus.

Mae’r targedau perfformiad ar gyfer ymatebion cwmnïau trydan wedi’u diffinio gan OFGEM ac maent fel a ganlyn:

  • Ymateb i atgyweirio namau brys - Cyrraedd y safle mewn 2 awr
  • Atgyweirio namau â blaenoriaeth uchel, dan reolaeth goleuadau traffig - 2 ddiwrnod calendr
  • Atgyweirio namau â blaenoriaeth uchel, nad ydynt dan reolaeth goleuadau traffig - o fewn 10 diwrnod gwaith
  • Atgyweirio namau i unedau lluosog - O fewn 20 diwrnod gwaith
  • Atgyweirio namau i un uned - O fewn 25 diwrnod gwaith

Mae'r amserlenni hyn yn berthnasol ar ôl i'r Cyngor roi gwybod i Scottish Power am y nam.

1. A ellir symud golau stryd?

O bryd i'w gilydd, gall golau stryd fod mewn lleoliad sy'n rhwystro gwaith adeiladu, megis lledu dreif neu ddatblygiad newydd. Os oes angen ail-leoli colofn neu uned, cysylltwch â ni am ganllawiau pellach. Byddwn yn rhoi dyfynbris ar gyfer y gwaith a bydd angen i chi dderbyn y dyfynbris yn ysgrifenedig cyn dechrau ar y gwaith. Anfonwch e-bost at streetscene@flintshire.gov.uk / neu ffoniwch 01352 701234.

2. A gaf i gysylltu unrhyw beth i golofn golau?

Ni chewch ddefnyddio colofnau goleuadau ffordd i ddal arwyddion hysbysebu o unrhyw fath, oni bai eich bod wedi cael caniatâd gennym ni i godi arwyddion cyfeirio neu wybodaeth dros dro byrdymor. Fel arfer dim ond sefydliadau cymeradwy fel yr AA neu’r RAC sy’n cael gosod y rhain. Ni allwch osod baneri, fflagiau na gwifrau rhwng dwy neu fwy o golofnau goleuadau ffordd.

Ni chewch ddefnyddio colofnau goleuadau ffordd fel cynhaliaeth neu ffynhonnell cyflenwad trydan ar gyfer addurniadau heb ein caniatâd.

Nid yw darparu basgedi blodau neu addurniadau Nadolig yn swyddogaeth i’r adran priffyrdd, ond bydd Sir y Fflint yn gweithio gyda Chynghorau Plwyf neu Gymuned i sicrhau ychwanegiadau o'r fath i'r amgylchedd. Bydd angen profi strwythur goleuadau stryd i sicrhau eu bod yn ddigon cryf i gynnal y llwythi ychwanegol, a bydd angen i'r ymgeisydd dalu am gost y gwaith.

3. Ydych chi’n archwilio goleuadau?

Cynhelir archwiliadau gyda’r nos bob 14 diwrnod. Mae’r eitemau sy’n cael eu gwirio yn cynnwys:

  • Llusernau sy’n dywyll neu sydd ddim yn gweithio
  • Lampau sydd ddim yn hollol lachar neu sy’n fflachio
  • Llusernau sydd wedi troi neu sy’n gam
  • Llusernau wedi'u cuddio gan ddail
  • Llusernau sy’n hongian, sydd ar goll neu sydd wedi eu difrodi’n ofnadwy
  • Drysau colofnau ar goll
  • Bracedi cam
  • Colofnau ar ogwydd

Caiff gwaith cynnal a chadw ei wneud yn flynyddol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Glanhau’r holl lampau, adlewyrchyddion a chydrannau eraill sy'n effeithio ar berfformiad optegol
  • Archwilio difrod arwynebol, cyrydiad, darnau’n dod yn rhydd neu’n cracio (colofnau concrit), dirywiad i geblau, ac adrodd am y cyflwr.
  • Archwilio’r holl eitemau trydanol, gan eu cywiro lle bo angen.
  • Gwirio bod celloedd ffotodrydanol neu ddyfeisiau swîts cysylltiedig yn gweithio’n gywir.
  • Addasu’r clociau i’r amser cywir lle nad oes celloedd ffotodrydanol wedi'u gosod.
  • Gwneir gwaith cynnal a chadw nad yw'n arferol yn ôl yr angen.

Mae gwaith i newid llawer o lampau gyda’i gilydd yn digwydd ar y prif lwybrau ac yng nghanol y dref bob tair a phedair blynedd.

Cynhelir profion strwythurol ac archwilio colofnau bob un, tair a chwe blynedd.

Cynhelir profion trydanol bob chwe blynedd.

4. Ble galla i ddod o hyd i wybodaeth am oleuadau stryd newydd neu oleuadau stryd wedi’u hadnewyddu?

Os ydych yn teimlo bod angen adnewyddu neu osod goleuadau stryd ar eich ffordd, dylech ysgrifennu at y Rheolwr Goleuo Strydoedd, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint CH7 6LG. Bydd eich cais yn cael ei asesu i benderfynu a yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer goleuadau newydd neu well.

Rhaglen adnewyddu colofnau

Mae rhaglen dreigl flynyddol wedi'i chynllunio i nodi ac adnewyddu colofnau neu asedau goleuo (o fewn cylch gwaith Cyngor Sir y Fflint) y dengys eu bod yn simsan ac yn anniogel.

Y meini prawf ar gyfer adnewyddu yw:

  • Colofnau hen, wedi dirywio ac yn cracio sy’n dod i ddiwedd eu hoes
  • Colofnau metel wedi cyrydu
  • Bylchau anghywir rhwng colofnau presennol
  • Systemau trydanol nad ydynt yn cyrraedd y safon
  • Dyluniadau ar gynllun hen ffasiwn
  • Lefelau goleuo anghywir ac aneffeithiol
  • Math neu uchder colofnau
  • Arbedion ynni

Byddwn yn cyflawni’r gwaith uwchraddio ac adnewyddu (o fewn cyfyngiadau cyllidebol) drwy:

  • Ymgymryd ag unrhyw waith adnewyddu systemau i’r safonau cyfredol
  • Defnyddio'r ffynonellau goleuo cywir ar gyfer y lleoliadau cywir
  • Ystyried mannau tywyll lleol i’w gwella
  • Ystyried cynlluniau diogelwch y Gymuned a'r Heddlu

Gosod goleuadau newydd

Gellir gosod goleuadau stryd fel mesur diogelwch ar ffyrdd lle mae angen lleihau damweiniau yn ystod y nos, ac yn unol â gofynion diogelwch traffig eraill.

Gellir gosod goleuadau stryd newydd neu well yn yr ardaloedd problemus hynny a flaenoriaethwyd gan y partneriaethau trosedd ac anhrefn.

Caiff goleuadau stryd eu gosod ar stadau tai newydd lle mae'r strydoedd (neu'r llwybrau troed) i'w mabwysiadu gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd yn rhaid i ddatblygwyr osod goleuadau yn unol â'n gofynion, a nhw sy’n gyfrifol am yr holl waith cynnal a chadw hyd nes y bydd yr awdurdod yn mabwysiadu'n ffurfiol. Dim ond ar ôl archwiliad trylwyr gan un o'n cydlynwyr goleuadau stryd y bydd hyn yn digwydd.

5. Beth ydych chi'n ei wneud i leihau llygredd golau a'r defnydd o ynni?

Mae gan lawer o lampau synwyryddion awtomatig sy'n eu goleuo yn y cyfnos a’u diffodd yn y bore pan fydd digon o olau naturiol. Mae goleuadau eraill yn cael eu gosod i oleuo a diffodd ar adegau penodol yn dibynnu ar leoliad e.e. os yw'r ffordd wedi'i gysgodi gan goed trwchus neu'n ardal broblemus

Mae lampau a llusernau modern wedi'u dylunio gyda gwell rheolaeth optegol i grynhoi'r golau i lawr ar y stryd yn hytrach na goleuo ar i fyny i awyr y nos. Mae unrhyw oleuadau newydd yr ydym yn eu gosod wedi'u cynllunio i leihau llygredd golau yn y modd hwn, a bydd goleuadau hŷn yn cael eu disodli'n raddol wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes.

Mae'r adran goleuadau stryd yn ymchwilio i wahanol ffyrdd o leihau ôl troed carbon Cyngor Sir y Fflint. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Prynu ynni gwyrdd ac adnewyddadwy
  • Technolegau newydd sy’n lleihau’r defnydd o ynni / yr angen am waith cynnal a chadw (e.e. LEDs, lampau hybrid a dyfeisiau pŵer solar/gwynt)
  • Systemau monitro o bell, sy'n lleihau gwastraff ynni ac amlder archwiliadau.
  • Ymchwiliad i bylu goleuadau ar adegau tawel mewn lleoliadau addas. (Mae rhai strydoedd eisoes wedi’u pylu rhwng 22:00 a 06:00, gan arwain at arbedion ynni o hyd at 70%)

Adrodd am broblem gyda golau stryd

Rhowch cymaint o wybodaeth â phosib am y broblem, yn cynnwys:

  • lleoliad gan gynnwys rhif y golau stryd (os oes un yn bresennol);
  • disgrifiad o’r broblem (e.e. difrod i gebl, cebl yn y golwg, llusern neu ddrws ar goll); ac
  • unrhyw luniau/ fideos. 

Adrodd am broblem gyda golau stryd

Beth fydd yn digwydd nesaf? 

Caiff eich gwybodaeth ei hanfon i’r tîm Gwasanaethau Stryd.

Caiff ei ddyrannu a'i flaenoriaethu yn seiliedig ar safonau polisi Goleuadau Stryd.