Alert Section

Croesfan Cerbydau


Beth yw croesfan cerbydau?
Mae croesfan cerbydau’n caniatáu i chi greu mynedfa hwylus a diogel i’ch car neu unrhyw gerbyd domestig arall y tu allan i’ch eiddo.  Caiff y cyrbau eu gostwng yn is nag arfer a chaiff y pafin neu ymyl y ffordd ei gryfhau i gymryd pwysau’r cerbyd sy’n ei groesi. 

Pam mae eu hangen?
Mae’n drosedd o dan adran184 o Ddeddf Priffyrdd 1980 gyrru dros bafin nad yw wedi’i ostwng oni bai bod croesfan cerbydau wedi’i hawdurdodi a’i gosod. Mae gan y Cyngor Sir bwerau i gyflwyno hysbysiad i droseddwyr neu i adeiladu croesfan ac adennill unrhyw gostau rhesymol.

A oes angen caniatâd cynllunio?
Mae angen caniatâd cynllunio fel arfer i adeiladu mynedfa newydd neu i newid y fynedfa bresennol os yw’r eiddo :-

  • ar ffordd ddosbarthedig
  • mewn ardal gadwraeth
  • yn adeilad rhestredig
  • yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes, neu
  • os bydd y gwaith yn debygol o effeithio ar goeden sydd wedi’i diogelu gan  Orchymyn Cadw Coed

Dylai unrhyw lawr caled newydd fod naill ai’n fandyllog, yn athraidd neu’n caniatáu i ddŵr redeg oddi arno i wyneb mandyllog neu athraidd o fewn cwrtil y tŷ, ee rhan o’r ardd.  Os ydych yn bwriadu adeiladu llawr caled â deunydd anathraidd, rhaid cael caniatâd cynllunio.

I holi a oes angen i chi gael caniatâd cynllunio ar gyfer eich mynedfa neu’ch llawr caled, ffoniwch 01352 703331 neu anfonwch e-bost at planningadmin@flintshire.gov.uk.

A chi yw perchennog yr eiddo, neu ydych chi wedi cael eu caniatâd?
Os nad chi yw perchennog rhydd-ddaliadol yr eiddo, bydd angen i chi gael caniatâd y perchennog i ymgymryd â’r gwaith cyn y bydd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried eich cais.

Os tŷ Cyngor yw’ch eiddo, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig Adran Dai Cyngor Sir y Fflint cyn ymgymryd â’r gwaith. Ffoniwch HAMpropertyinspections@flintshire.gov.uk cyn gwneud cais i adeiladu croesfan cerbydau.

Sut i wneud cais

Dylid anfon y ffurflen gais a lenwyd, ynghyd â’r ffi o £200 (gwel 'beth fydd y gost'), ar e-bost neu:  highwaysdevelopmentcontrol@flintshire.gov.uk 

Trwy'r post i:-
Rheoli Datblygu
Priffyrdd Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Sir y Fflint.
CH7 6NF

Am gymorth pellach, ffoniwch:  01352 704611

Sylwch: Mae’r cais hwn yn ychwanegol at unrhyw ganiatâd cynllunio cymwys. 

Pwy gaiff wneud y gwaith?

Gall yr ymgeisydd ddewis i Gyngor Sir y Fflint wneud y gwaith neu ddewis un o’r contractwyr preifat mae’r Cyngor wedi’u cymeradwyo. 

Os Cyngor Sir y Fflint fydd yn ymgymryd â’r gwaith, bydd yn cwblhau’r holl waith gweinyddol ac adeiladu ac yn rhoi pris penodol i chi a fydd yn cynnwys cost archwiliadau gwasanaethau cyhoeddus (ond nid eich tâl am y cais gwreiddiol). Bydd y pris yn ddilys am chwe mis ond, does dim rheidrwydd i chi ei dderbyn.

Dim ond contractiwr preifat cymwys gaiff ymgymryd â gwaith ar briffordd. 
Bydd yn rhaid i’r contractiwr:-

  • Fod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus hyd at £5m a fyddai’n digolledu’r ymgeisydd a Chyngor Sir y Fflint ac yn ddilys tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo ac wedyn
  • Fod â gweithwyr a goruchwylwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac sydd wedi ennill y cymwysterau priodol yn unol â gofynion codau ymarfer Deddf  Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991
  • Darparu dogfennau i ddangos ei fod yn gymwys gan gynnwys gwarant dwy flynedd ar gyfer y gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, y contractiwr fydd yn gyfrifol am unrhyw hawliadau’n ymwneud â’r gwaith. Pan ddaw cyfnod y warant i ben, bydd y Cyngor Sir yn archwilio unrhyw waith i adfer y briffordd ac, os bydd yn foddhaol, bydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y briffordd o hynny ymlaen.

Beth fydd y gost?

Y tâl am wneud cais yw £200.  Mae hyn yn cynnwys y gost o weinyddu’r cais ac ymweld â’r safle i gymeradwyo’r cais ac i archwilio’r gwaith o adeiladu’r groesfan.

Nid oes modd ei ad-dalu. I wneud taliad gyda cherdyn debyd neu gredyd, cysylltwch â’r swyddfa daliadau 01352 703440

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir y Fflint.

Yr un yw’r tâl os ydych am i Gyngor Sir y Fflint gwblhau’r gwaith.

Bydd y gost o gwblhau’r gwaith yn amrywio’n ôl yr amgylchiadau e.e. lled y pafin neu’r groesfan. Bydd unrhyw dâl ychwanegol yn daladwy i’r contractiwr neu Gyngor Sir y Fflint (os gofynnwch iddo wneud y gwaith).

Ni all y Cyngor gynnig gostyngiad na chynllun talu’n hawdd i ostwng y pafin.
Os ydych wedi eich cofrestru’n anabl efallai y byddwch yn gymwys igael grant cyfleusterau i'r anabl.

Gofynion

A oes digon o le yn eich gardd?
Mae lle parcio, fel arfer, ym mesur 2.4 x 4.8 metr, ac ni chaiff unrhyw ran o gerbyd sydd wedi’i barcio yng nghwrtil eich eiddo ymwthio ar neu dros y briffordd. Rhaid i le parcio fesur:-

  • o leiaf 4.8m o hyd rhwng ymyl cefn y llwybr troed a llinell adeiladu’r eiddo
  • o leiaf 5.5m o hyd os byddwch yn parcio o flaen drws garej 

Image showing a parking space with standard dimensions

Parcio cyfochrog
Os nad oes digon o le o flaen eich eiddo i barcio’n sgwâr â’r briffordd, gall yr Awdurdod dderbyn cais i barcio’n gyfochrog â hi. Rhaid i le pario cyfochrog fesur:-

  • o leiaf 6.0 metr o hyd er mwyn cael digon o le i symud.

A yw’r fynedfa’n ddigon llydan?
I greu mynedfa un lled safonol sy’n gwasanaethu dim mwy nag un annedd:-

  • rhaid cael bwlch o 2.4m o leiaf rhwng pyst y giât
  • i greu un fynedfa safonol, rhaid gostwng tri chwrbyn a gosod cwrbyn pontio’r naill ochr.

Image showing width access

I greu mynedfa ddwbl safonol sy’n gwasanaethu dim mwy na dau annedd:-

  • rhaid gostwng chwe chwrbyn a gosod cwrbyn pontio’r naill ochr 

Os ydych yn symud croesfan cerbydau, rhaid codi cyrbau’r hen groesfan i’w huchder blaenorol.

Os na ellir cadw dau gwrbyn uchder llawn rhwng dwy groesfan, dylid ymestyn y groesfan newydd i gyfarfod â’r cwrbyn is cyfagos. Yr ymgeisydd fydd yn talu’r costau cysylltiedig.

Os ydych  yn bwriadu codi giatiau ar draws y fynedfa, rhaid iddynt agor at i mewn yn unig. 

Colofnau lampau a dodrefn stryd
Mae’n bosibl y bydd angen symud colofnau lampau stryd, dodrefn stryd neu offer cyfleustodau i hwyluso’r gwaith. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig yr awdurdod/corff perthnasol ymlaen llaw a’r ymgeisydd fydd yn talu unrhyw gostau.

Gwrthod cais

Anaml iawn y caiff cais ei wrthod ond, os yw’r groesfan arfaethedig yn peryglu pobl eraill a fydd yn defnyddio’r ffordd, neu’n amharu’n ddifrifol ar lif y traffig ar ffordd brysur, mae’n bosibl y caiff ei wrthod. Er y gofynion uchod, dan rai amgylchiadau, bydd angen i’r Cyngor, fel yr Awdurdod Priffyrdd, wrthod caniatáu i chi adeiladu croesfan troed i’ch eiddo. Os felly, cewch lythyr yn rhoi’r rhesymau dros wrthod caniatâd.

Gellir gwrthod cais am resymau’n ymwneud â:

  • Chynllunio
  • Perchnogaeth y tir
  • Parcio lleol
  • Diogelwch ee os yw’n anodd gweld yn glir ger y fynedfa arfaethedig
  • Rhy agos at dwmpath arafu neu nodwedd diogelwch ffyrdd tebyg e etc.

Bydd penderfyniad y Cyngor ynghylch caniatáu neu wrthod y cais yn derfynol. Ni fydd y ffaith bod mynedfa o safon annerbyniol yn y lleoliad yn y gorffennol yn cael ei hystyried yn rheswm dros ganiatáu’r cais.

Os yw’r Cyngor yn gwrthod y cais, ni chaiff y tâl o £200 ei ad-dalu.

TRWYDDED ADRAN 184 - DEDDF PRIFFYRDD 1980 AMODAU A THELERAU

 

  1. Chi fydd yn talu’r gost o adeiladu’r groesfan a chi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau i safon sy’n bodloni’r Awdurdod Priffyrdd, a rhaid i chi gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol a chydymffurfio â’r gofynion.  Os oes gennych unrhyw amheuaeth, rydym yn awgrymu’ch bod yn cysylltu â’r Adran Gynllunio i holi a oes angen caniatâd cynllunio arnoch.

  2. Ni chaniateir i ddŵr o unrhyw fath, a gynhyrchir gan y datblygiad arfaethedig, lifo ar y briffordd neu i system ddraenio’r briffordd, oddi ar unrhyw ran o’r safle, fel dreif neu lwybrau wedi’u palmentu, ac ni chaniateir i ddŵr gronni mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar wyneb  neu strwythur y briffordd.

  3. Nid yw’r ddogfen hon yn rhoi caniatâd clir nac ymhlyg, i ymgymryd â gwaith ar dir preifat rhwng yr eiddo dan sylw a ffin y briffordd, ac a allai fod yn eiddo i drydydd parti.

  4. Os bydd angen symud dodrefn stryd i adeiladu’r fynedfa, rhaid i chi ofyn am ganiatâd yr awdurdod perthnasol (e.e. yr Awdurdod Priffyrdd i holi am golofnau goleuadau stryd a/neu arwyddion ffyrdd; British Telecom i holi am giosg ffôn; y Post Brenhinol i holi am flychau post etc).

  5. Wrth gwblhau’r gwaith, rhaid glynu’n dynn wrth y cynlluniau sydd  ynghlwm wrth y caniatâd hwn, fel y’u cymeradwyir gan yr awdurdod lleol. 

  6. Rhaid i’r holl waith y mae’r caniatâd hwn yn cyfeirio ato gael ei gwblhau i lefel cwrs sylfaenol y llwybrau troed ar y stryd, ac i safon sy’n bodloni’r Awdurdod Priffyrdd, cyn dechrau unrhyw waith ar y safle.

  7. At ddibenion Adran 86 o Ddeddf  Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, ystyrir unrhyw waith a gwblheir wrth arfer pwerau Adran 184 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn ‘waith priffordd mawr”.  Felly, rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i’r Ymgymerwyr Statudol yn unol ag Adrannau 84 ac 85 o  o Ddeddf  Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991a chydymffurfio ag unrhyw amodau neu ofynion sydd ynghlwm wrthynt.  Mae’r gweithdrefnau wedi’u rhagnodi yng Nghod Ymarfer Gwaith Dargyfeiriol y Pwyllgor Awdurdod Priffyrdd a Chyfleustodau (HAUC) sydd ar gael yn siopau llyfrau HMSO. Dylech nodi y gall y gweithdrefnau hyn gymryd hyd at 12 wythnos i’w cwblhau, gan ddibynnu ar gymhlethdod y gwaith arfaethedig. 

  8. Rhaid hysbysu’r o’r dyddiad dechrau arfaethedig drwy ddefnyddio FFURFLEN N a fydd ynghlwm wrth y caniatâd.  Os bydd y gwaith yn digwydd ar stryd, sy’n ddarostyngedig i ‘amodau arbennig’, rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau’r Awdurdod Priffyrdd (Sylwch y bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn rhoi cyngor ynghylch unrhyw amodau arbennig a allai gynnwys strydoedd lle mae angen rhoi sylw arbennig i draffig).

  9. Bydd y Trwyddedai’n rheoli’r gwaith i sicrhau nad oes dim yn rhwystro cerbydau na cherddwyr sy’n teithio ar y ffordd, a bydd yn diogelu’ch gwaith yn unol â Phennod 8 o Lawlyfr Arwyddion Traffig 2009 a gyhoeddwyd gan TSO a Chod Ymarfer Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd 2001 sy’n rhoi canllawiau penodol ar arwyddion diogel, goleuadau a diogelu gwaith dros dro ar y Briffordd, yn unol ag Adran 65 o o Ddeddf  Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.  Bydd y safle’n cael ei gadw’n lân ac yn daclus tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.

    Ni fydd y Trwyddedai’n ymyrryd ag unrhyw ddraen, cylfat, gyli, pont, wal neu strwythur arall, hen ganiatâd penodol yr Awdurdod Priffyrdd.

    Cysylltwch ag Rheolwr Gweithrediadau Canol ac Arwynebedd Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint os bydd angen goleuadau traffig neu os bydd angen cau ffordd: 01352 704810.

  10. Tystiolaeth o Achrediaeth Gwaith Stryd (copi o ddwy ochr o gardiau Goruchwyliwr a Gweithwyr SWQR).  Rhaid i oruchwyliwr cymwys oruchwylio’r gwaith a rhaid i o leiaf un gweithiwr cymwys fod ar y safle bob amser tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.  DS Rhaid i’r rhain fod yn ddau berson gwahanol. 

  11. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.  Rhaid i’r holl waith cloddio a wneir o dan y caniatâd hwn gydymffurfioâ’r arferion cloddio diogel  a nodir yn Nodyn Canllaw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, "HS(G)47 Avoiding danger from underground services".  Rhaid cyflwyno copi o bolisi a datganiad diogelwch ysgrifenedig eich contractiwr arfaethedig os gofynnir amdanynt. 

  12. Yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr offer ar gael i gloddio ar y safle.  Canllawiau cyffredinol yn unig a gewch gan yr Awdurdod Priffyrdd,  a chânt eu seilio ar y wybodaeth orau sydd ar gael, ond ni ddylech ddibynnu’n llwyr ar y wybodaeth hon os ydych am gloddio neu ymgymryd ag unrhyw waith gerllaw offer ar y Stryd.   

  13. Yr ymgeisydd fydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am osod y gwaith allan ac am sicrhau bod y gwaith  yn cael ei gwblhau’n  gywir ac yn ddiogel a bod y safle’n sefydlog. 

  14. Bydd yr ymgeisydd wedi’i yswirio i ddigolledu’r Cyngor os bydd y gwaith a gaiff ei gwblhau o dan y caniatâd hwn yn arwain at unrhyw achos cyfreithiol neu hawliadau yn ei erbyn, neu unrhyw ofynion, costau, difrod a threuliau a fydd yn codi.  Bydd yr yswiriant hwn yn werth o leiaf £5 miliwn ar gyfer unrhyw achos unigol.  Bydd yr ymgeisydd yn gallu dangos Tystysgrif Yswiriant gyda’r cais hwn ac yn ei gadw rhag ofn y bydd yr Awdurdod Priffyrdd am ei gweld unrhyw adeg.

  15. Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau dros ben ar y safle dan sylw’n cael ei gludo i safle sydd wedi’i drwyddedu o dan y ddeddfwriaeth gwaredu gwastraff bresennol a rhaid cadw at amodau a thelerau’r drwydded honno.  Rhaid i’r ymgeisydd fod yn barod i  ddangos rhestr o’r safleoedd y mae’n bwriadu eu defnyddio i waredu gwastraff a chopïau o’r tocynnau trosglwyddo i’r Awdurdod Priffyrdd.

  16. Ni ddylid gadael i laid neu ddeunydd arall ledu oddi ar y safle ac i’r ffordd neu’r llwybr troed a rhaid clirio unrhyw halogiad ar unwaith.  Os na chedwir at unrhyw hysbysiad a gyflwynir gan yr Awdurdod Priffyrdd,  mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r Awdurdod gwblhau gwaith adferol a’r ymgeisydd fydd yn gorfod talu’r costau cysylltiedig. 

  17. Ni chaiff deunyddiau eu gosod mewn lle sy’n atal dŵr rhag llifo i gyli neu ddraen neu rwystro neb rhag defnyddio twll archwilio neu offer Ymgymerydd Statudol.  Rhaid clirio unrhyw ddeunyddiau sy’n mynd i system ddraenio’r briffordd cyn pen 24 awr.  Fel arall, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r Awdurdod gwblhau gwaith adferol a’r ymgeisydd fydd yn  gorfod talu’r costau cysylltiedig.

  18. Rhaid i’r ymgeisydd roi cyfle i’r Awdurdod Priffyrdd archwilio’r gwaith unrhyw adeg, a rhaid iddo newid y dulliau gweithio os penderfynir bod y dull gwreiddiol yn effeithio ar y briffordd.

  19. Nid yw’r caniatâd hwn yn golygu, o reidrwydd, nad oes angen i’r ymgeisydd gael caniatâd neu drwyddedau eraill. 

  20. Rhaid i’r ymgeisydd lenwi FFURFLEN R1 a’i hanfon at yr Rheolwr Gweithrediadau Canol ac Arwynebedd Ffyrdd cyn pen deg diwrnod ar ôl cwblhau’r gwaith.

  21. Rhaid i’r ymgeisydd gynnal a chadw holl wyneb y safle ar ôl cwblhau’r gwaith, ac i safon sy’n bodloni’r Awdurdod Priffyrdd, am gyfnod o ddwy flynedd  o leiaf, a’r ymgeisydd fydd yn talu am wneud hynny.  Nodir ar y FFURFLEN R1 pryd y bydd y cyfnod yn dechrau ond ni fydd yn dechrau cyn i’r Awdurdod Priffyrdd gadarnhau ei fod yn fodlon ar safon y gwaith.