Twyll – sut i osgoi cael eich twyllo a sut i roi gwybod am dwyll
Mae rhai pobl yn cynllwynio i’ch twyllo ac i gymryd arian oddi arnoch. Gallant wneud hynny drwy’r post, dros y ffôn neu drwy e-bost. Dyma rai o’r triciau a ddefnyddir i geisio’ch twyllo: loterïau a rafflau ffug, proffwydoliaethau seicig ffug, buddsoddiadau i’ch gwneud yn gyfoethog yn gyflym a meddyginiaethau gwyrthiol i’ch gwella. Mae’r cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio’r e-bost a’r rhyngrwyd hefyd wedi creu mwy o gyfleoedd i ddrwgweithredwyr dwyllo eraill.
Sut i osgoi sgamiau a lladrad hunaniaeth
Gallwch helpu i atal achosion o dwyll drwy ddweud wrth eich ffrindiau a’ch teulu, a drwy ddweud wrthym ni, am unrhyw enghreifftiau o dwyll rydych yn ymwybodol ohonynt. Cewch syniadau i’ch helpu i’ch diogelu’ch hun rhag cael eich twyllo, gwybodaeth am wahanol fathau o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn cael eich twyllo gan y cyrff a ganlyn:
- Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi gwybodaeth am ddim am ddarganfod ac osgoi twyll, gan gynnwys gwybodaeth am y dulliau diweddaraf o dwyllo pobl.
- Swyddfa Masnachu Teg (OFT
Mae’r Swyddfa Masnachu Teg yn cynnig rhestr gynhwysfawr o wahanol fathau o dwyll (ar ffurf buddsoddiadau ac yn gyffredinol) ac awgrymiadau ar sut i sylweddoli bod rhywun yn ceisio’ch twyllo.
- Money Helper
Ar wefan Moneymadeclear yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, cewch wybodaeth am yr ymdrechion cyfredol sydd ar waith i dwyllo pobl yn ariannol a’r hyn y dylech fod yn chwilio amdano.
- Take Five
Corff sy’n gweithio gyda’r heddlu, manwerthwyr a sefydliadau yw Take Five, i geisio brwydro yn erbyn twyll yn ymwneud â chardiau. Mae gwybodaeth ar eu gwefan yn sôn am dwyllwyr sy’n targedu pobl sy’n defnyddio cardiau.
- Get Safe
Cyngor arbenigol am ddim ar sut i osgoi cael eich twyllo pan fyddwch yn siopa / bancio ar-lein, sut i atal pobl rhag dwyn ein manylion personol ac atal negeseuon e-bost sbam.
Os ydych wedi bod yn destun sgam neu dwyll, mae yna rywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn. Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar adrodd troseddau rhyngwyd a thwyll. Ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu adrodd ar-lein ar eu gwefan.
Rhoi gwybod am dwyll
Gallwch gysylltu â’n Gwasanaeth Safonau Masnach hefyd ar 01352 70319.
Llythyrau sgrwtsh a galwadau ffôn digymell
Gallwch ei gwneud yn anoddach i dwyllwyr gyrraedd eich teulu yn y lle cyntaf drwy leihau nifer y cynigion a gewch;
Drwy lythyr:
ysgrifennwch at Mailing Preference Service, Freepost 22, London. W1E 7EZ.
Neu ewch i gwefan MPS i gofrestru ar-lein.
Dros y ffôn/SMS/neges destun:
Telephone Preference Service, 70 Margaret Street, London. SW1Y 4EE. 0845 070 0707.
Neu ewch i gwefan TPS i gofrestru ar-lein.
Cysylltwch â ni
Ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: 08454 04 05 06
Ffôn Ymholiadau busnes a materion eraill: 01352 703181
E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk
Ysgrifennu at neu ymweld:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Ty Dewi Sant,
Parc Dewi Sant,
Ewlo,
Sir y Fflint
CH5 3FF
Oriau agor ein swyddfa yw 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.