Alert Section

Bwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 'Beth sy'n fy Nghadw i'n lach'


 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu llawer o wahanol wasanaethau iechyd ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Hefyd mae gan y Bwrdd Iechyd rôl bwysig i’w chwarae wrth wella iechyd a lles y bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru. 

Rydym wrthi’n ysgrifennu ein hadroddiad blynyddol, ac eleni mae’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Rydym eisiau gwybod am y pethau yn eich bywyd sy’n helpu i gadw eich corff a’ch meddwl yn iach. ‘Asedau Iechyd’ yw enw’r rhain.

Trwy ddod o hyd i’r wybodaeth hon, gallwn ni weld beth ydych chi’n gwybod am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal, sut allwn ni wneud gwasanaethau yn well i chi a gallwn weld a oes unrhyw fylchau. Bydd y wybodaeth byddwch chi’n ei rhoi i ni yn rhan o’n hadroddiad blynyddol, a fydd ar gael yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2014. Ar ôl i ni gynhyrchu ein hadroddiad, byddwn yn rhoi gwybod i bawb beth ddylai ddigwydd yn ein barn ni.

Bydd yr holl atebion yn ddienw. Rydym yn gofyn am ychydig o fanylion cyffredinol amdanoch chi yn unig, ond ni fyddwn yn gallu dweud pwy ddywedodd beth ar gyfer pob cwestiwn.