Alert Section

Gwasanaeth Mentoriaid Gwirfoddol

Hoffech chi dderbyn her werth chweil?

Llun o fentor gwirfoddol gyda pherson ifanc yn cael coffi

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn recriwtio gwirfoddolwyr i fod yn fentoriaid i blant a phobl ifanc. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd ag agwedd gadarnhaol, sgiliau cyfathrebu da ac ymroddiad i gefnogi pobl ifanc. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym ni fod arnyn nhw eisiau mentor sy’n gyfeillgar, yn ddibynadwy ac sy’n dda am wrando a magu hyder. 

Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr a datblygwch eich sgiliau wrth i chi helpu eraill yn y gymuned. Gall ychydig oriau bob wythnos wneud gwahaniaeth mawr i blentyn neu berson ifanc. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Andrea Wade, Cydlynydd Mentoriaid Gwirfoddol, ar 07818511162 neu Mentoring@Flintshire.gov.uk

Ymgeisiwch Rŵan

Cyfweliad gyda Mentor

Mae Jo Millar, Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, yn siarad am y budd a gafodd o wirfoddoli fel mentor gyda’r Gwasanaethau Plant.

Cyfweliad gyda Mentor - Darganfod mwy

Negeseuon gan ein Mentoriad

Mentoriaid yn rhannu eu straeon am gefnogi pobl ifanc


Negeseuon gan ein Mentoriad - Darganfod mwy

Dyfyniadau gan Fentoriaid Ieuenctid Gwirfoddol

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Mentora?

Mae mentora yn broses gynorthwyo a ddefnyddir mewn sawl sector a lleoliad gwahanol, felly mae yna sawl dull ac arddull. 

Mae ein dull yn seiliedig ar yr egwyddorion bod mentora yn berthynas wirfoddol, barchus a phwrpasol.    Cytunir ar y diben ar y dechrau ac mae’n seiliedig ar beth mae’r person ifanc yn ei fynegi a hefyd ar farn yr atgyfeiriwr a/neu deulu neu ofalwyr. Mae’r diben yn gallu newid a datblygu wrth i’r berthynas fentora ddatblygu. 

Rôl mentor gwirfoddol yw cyfarfod person ifanc yn rheolaidd, datblygu perthynas bwrpasol drwy ddibynadwyedd a pharch, cynllunio sesiynau mentora o amgylch eu hanghenion a diddordebau a’u hannog nhw i roi cynnig ar brofiadau newydd a gosod amcanion i’w hunain.

Gall mentor gefnogi person ifanc mewn sawl ffordd: 

  • Magu hyder
  • Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol
  • Cymorth emosiynol
  • Dilyn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden cadarnhaol 
  • Cefnogaeth gyda pherthnasoedd teulu a ffrindiau  
  • Sgiliau bywyd a chymdeithasol: dod ymlaen gydag eraill, rheoli ymatebion emosiynol, coginio, rheoli arian 
  • Siarad, cerdded, gweithgareddau ymlacio
  • Setlo mewn / parhau i setlo mewn llety 
  • Cynllunio ar gyfer cwrs coleg neu hyfforddiant yn y dyfodol  

Pa mor aml ydw i’n cwrdd gyda pherson ifanc? 

Mae cyfarfodydd yn wythnosol fel arfer ond mae yna lawer o hyblygrwydd gyda’r rôl ac mae gennym enghreifftiau o berthnasoedd mentora effeithiol a gynhelir bob pythefnos.  Mae cyfarfodydd fel arfer yn para rhwng 2-3 awr.

Beth yw oedran y pobl ifanc?

Mae’r bobl ifanc a atgyfeirir yn 11-20 oed.  

Ydw i’n talu am gostau’r sesiynau gyda phobl ifanc?

Rydym yn ad-dalu unrhyw dreuliau yn ystod sesiynau mentora i’r person ifanc a’r gwirfoddolwr.   Mewn rhai achosion, gallwn archebu a thalu ymlaen llaw ar gyfer rhai gweithgareddau.   Mae costau gan gynnwys milltiroedd yn gallu cael eu hawlio ar unrhyw adeg gyda derbynebau.  

A fyddaf yn derbyn hyfforddiant? 

Byddwch, cyn dechrau gwirfoddoli, byddwch yn cymryd rhan mewn hyfforddiant cychwynnol a sesiwn gynefino sy’n cynnwys ffiniau, sgiliau mentora, diogelu. Mae hyn yn cyfateb i tua 1.5 diwrnod i gyd ar ddiwrnod ac amser a gytunir gyda chi. Yn ogystal, mae yna ystod eang o gyrsiau undydd a hanner diwrnod sydd ar gael i wirfoddolwyr eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar ADHD, Awtistiaeth, Iechyd Meddwl.   

Pa gefnogaeth fyddaf yn ei derbyn? 

Mae yna gefnogaeth barhaus i holl wirfoddolwyr drwy gyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb a dros y ffôn ac ar e-bost yn wythnosol os oes angen.  Mae yna hefyd oruchwyliaeth grŵp a chyfarfodydd a gynhelir bob 2 fis. Mae’r rhain yn gyfle gwych i wirfoddolwyr gwrdd â’i gilydd, rhannu heriau a llwyddiannau a derbyn adborth a diweddariadau. 

Ydw i angen cael cludiant fy hun?   

Er nad yw’n hanfodol cael defnydd o gar i fod yn fentor gwirfoddol, mae’n gallu bod yn anoddach cyfateb mentor nad oes ganddynt drwydded yrru lawn a defnydd o gar.

Mae’n rhaid i wirfoddolwyr ddarparu Tystysgrif MOT a thystiolaeth gan eu cwmni yswiriant bod eu hyswiriant car yn galluogi iddynt ymgymryd â’u rôl gwirfoddol. Mae milltiroedd gwirfoddolwr yn cael eu had-dalu 45c fesul milltir. Mae hyn yn unol â chanllawiau gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.  

Mae gennyf GDG eisoes, ydw i angen un arall?

Ydych, mae’r rôl yn dibynnu ar wiriad datgelu manylach (GDG) ac oni bai fod gennych un eisoes ar gyfer swydd gyda Chyngor Sir y Fflint, yn fanylach ac yn cynnwys gweithio gyda Phlant, byddech angen ymgeisio ar gyfer un newydd.  Mae holl staff a gwirfoddolwyr gwasanaethau plant yn adnewyddu eu gwiriad GDG bob tair blynedd. 

Ni chodir tâl am wiriad GDG.