Alert Section

Gwaith Celf Cyngor Sir y Fflint


Mae Cyngor Sir y Fflint yn cael ymholiadau yn aml am y gwaith celf sydd yn ei feddiant. Mae un problem sylfaenol wrth ateb cwestiynau am waith celf gan fod gan bobl syniadau gwahanol iawn am yr hyn sy’n ddarn o gelf. 

Y problemau eraill yw nad yw’r Cyngor yn berchen ar bob gwaith celf sydd yn ei feddiant, ac mae’n berchen ar rai darnau o waith celf nad yw yn ei feddiant. 

- Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn derbyn nifer o gasgliadau archifau ar fenthyg, lle bo’r sawl sy’n ei roi yn parhau i fod yn berchen arno ond bod y Cyngor yn ei storio ac yn ei gynnal, ar yr amod y byddant ar gael i’r cyhoedd eu gweld ar gais. Fel arfer, ar gael i’w gweld ar gais, yn hytrach na chael eu harddangos mae deunydd yn yr archifau ac efallai nad ydynt yn cael eu hystyried yn gelf yn gyffredinol ond yn gasgliadau sydd yn aml yn cynnwys ffotograffau, lluniau a brasluniau, a phaentiadau a cherfluniau hyd yn oed.
- Hamdden a Llyfrgelloedd Aura (Amgueddfa Bwcle ac Amgueddfa yr Wyddgrug) ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas (Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas) sy’n rheoli’r casgliadau mewn amgueddfeydd. Unwaith eto, ni fyddai’r rhan fwyaf o arteffactau yng nghasgliadau’r amgueddfeydd yn cael eu hystyried yn ddarnau o gelf, ond mae rhai eithriadau.

Gan ystyried yr uchod, dyma’r atebion i’r cwestiynau a ofynnir yn aml:

Faint o ddarnau o waith celf mae’r Cyngor yn berchen arnynt?

Nid oes modd rhoi cyfanswm cyffredinol i ateb y cwestiwn hwn, am y rhesymau a roddir uchod. Mae’r hyn y mae’r Cyngor yn berchen arnynt yn gallu cael ei rannu fel a ganlyn:

1. Mewn Gwasanaethau Cefn Gwlad ledled y sir, mae nifer o weithiau celf i’w gweld, gan gynnwys y rhain:
- 8 cerflun gan Mike Owens:
- Celf Poster y Fflint; 
- “Celf Gweithredol”, ffens yng Nghanolfan Dreftadaeth Quay Kathleen & May a safle Pwll Glo Y Parlwr Du 
- Arwydd dolen y gymuned
- Pedwar goleufa ar hyd yr arfordir:
- Dau oleufa i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf;
- Canŵ a chwe trawst wedi’u cerfio ar Flaendraeth y Fflint, tua’r gorllewin o Ddoc y Fflint.
- Cerflun o gwch Kathleen & May; Cei Connah
- Goleudy a phyrth arafu, Talacre
- Cerfluniau o neidr a madfall y dŵr, Parc Gwepra.

I gael manylion pellach, edrychwch ar y ddolen gyswllt i’r ddogfen sy’n rhoi manylion am yr hyn sydd ar gael i’w weld i’r cyhoedd, isod.

2.  Mae Neuadd y Sir, yr Wyddgrug yn cadw nifer o weithiau celf, sef:

- 3 llun; 
- 1 crochenwaith, map o Sir y Fflint ar y wal; 
- 2 ddarn o waith mosäig yn dangos golygfeydd yn Sir y Fflint; 
- cyfres o luniau mawr o Sir y Fflint. 

3. Yn Theatr Clwyd mae 1 copi o lun a chyfred o luniau mawr o ddarnau a gafodd eu gwneud yn ddiweddar.

4. Yn y Swyddfa Gofrestru ym Mhlas Llwynegrin, yr Wyddgrug, mae yna 5 llun wedi’i fframio.

5. Mae casgliadau amgueddfeydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys:
- casgliad bychan o gelfyddyd gain, sy’n cynnwys lluniau Fictorianaidd o bobl enwog lleol ac eitemau gan James Bentley, artist amatur o Fwcle. 
- casgliad celf addurnol o ceramig Bwcle, gan gynnwys Casgliad Martin Harrison.

6. Miloedd o ddarnau o gelf eraill fel dyfrlliw, brasluniau, cerfiadau, ffotograffau a cherfluniau sydd wedi cael eu rhoi i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru fel rhan o amrywiol gasgliadau. 

Gellir gweld gwybodaeth am yr eitemau sydd yn yr amgueddfeydd a’r archifau yn y catalogau ar-lein yn: http://calmview.flintshire.gov.uk/CalmView/Default.aspx 

Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn cadw gwybodaeth am waith celf mewn ysgolion. Efallai bod gan ysgolion unigol y wybodaeth hon. Gellir gweld gwybodaeth am Ysgolion Sir y Fflint a’u cyfeiriadau cyswllt.

Beth yw cyfanswm gwerth y casgliad?

Nid yw hyn yn hysbys. Nid yw’r rhan fwyaf o eitemau wedi cael eu prisio ac maen nhw’n arwyddocaol oherwydd eu gwerth hanesyddol yn hytrach na’u gwerth ariannol.

Faint o ddarnau celf mae’r Cyngor wedi’u prynu’n ddiweddar?

Faint o ddarnau celf mae’r Cyngor wedi’u prynu’n ddiweddar, ac faint oedden nhw’n gostio?

Prynodd Cyngor Sir y Fflint bum darn o waith celf yn ystod y cyfnod rhwng 2016 a 2019.  Prynwyd y rhain gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad a chawsant eu hariannu’n allanol. 

- Cerflun “Big Flintshire Guardian (BFG)” yn y Fflint, wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Cymunedau Arfordirol, £5,000.
- Ceffyl y Pwll Glo yn y Parlwr Du a ffens ‘celf gweithredol’, wedi’u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, £8,000; 
- Celf Poster y Fflint, wedi’i ariannu gan Eirgrid, £720; 
- Ffens ‘Celf Gweithredol’ yng Nghanolfan Dreftadaeth Kathleen & May, wedi’i ariannu gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri, £1,806.50; 
- Cerfluniau meinciau y Fflint, wedi’u hariannu gan Cadw, £10,000.

Faint o ddarnau o waith celf mae’r Cyngor wedi’i werthu’n ddiweddar?

Faint o ddarnau o waith celf mae’r Cyngor wedi’i werthu’n ddiweddar, am faint, ac at ba bwrpas gafodd yr arian ei ddefnyddio?

Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn gwerthu ei waith celf.

Faint mae’n gostio i ofalu amdanynt?

 Mae hwn yn gwestiwn cymhleth gan fod gwahanol agweddau ar ofalu amdanynt.

- Yswiriant: Mae’r darnau celf i gyd yn cael eu hyswirio fel rhan o bolisi yswiriant cyffredinol Cyngor Sir y Fflint, ac nid oes cost ar wahân ar gael.
- Storio:  ni fyddai cost ynghlwm ag arddangos darn o waith celf ar wahân i gost cynnal a chadw’r adeilad lle maen nhw’n cael eu cadw. Mae gwaith celf yn y Gwasanaeth Amgueddfeydd ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu gorchuddio a’u storio yn eu hystafelloedd storio cyffredinol a’u hystafelloedd diogel ynghyd ag eitemau eraill.
- Atgyweirio: byddai hyn yn cael ei wneud pan fo angen. Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru aelod o staff sy’n atgyweirio gwaith celf yn ogystal ag eitemau eraill pan fo angen ac os yw’r gwaith yn rhan o’i feysydd arbenigedd. Byddai arbenigwr yn cael ei gyflogi i ddelio gydag unrhyw waith celf arall sydd angen sgiliau eraill, gyda’r gost yn cael ei gytuno fesul achos.