Alert Section

Oedrannau Ysgol a Rhestr o Ysgolion

Mae blwyddyn ysgol plentyn yn dibynnu ar ei oedran.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid eich bod chi wedi cofrestru’ch plentyn mewn ysgol erbyn y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed, oni bai eich bod wedi dewis addysgu gartref.


Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae’n amser perffaith i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg 

Dosbarth Meithrin

Gall plant fynychu’r dosbarth meithrin fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022?

A fyddan nhw’n 3 oed erbyn 31 Awst 2025?

Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth meithrin ym mis Medi 2025.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn dosbarth meithrin

Dosbarth Derbyn

Gall plant fynychu’r dosbarth derbyn fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021?

A fyddan nhw’n 4 oed erbyn 31 Awst 2025?

Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth derbyn ym mis Medi 2025.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn dosbarth derbyn

Ysgol Uwchradd

Gall plant fynychu ysgol uwchradd fis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11 oed.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am le mewn ysgol uwchradd

Rhestr o Ysgolion Sir y Fflint

Gweld manylion pob ysgol yn Sir y Fflint

Gweld Rhestr Ysgolion Sir y Fflint