A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022?
A fyddan nhw’n 3 oed erbyn 31 Awst, 2025?
Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth meithrin ym mis Medi 2025.
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer Meithrin ym mis Medi 2025, nodwch y canlynol -
Gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu
Rydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (24 Mawrth 2025) felly ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (6 Mai 2025).
Ni fyddwch yn derbyn e-bost ynglŷn â’r “cynnig” ar 06/05/2025. Yn hytrach, byddwch yn cael gwybod canlyniad eich cais ddiwedd mis Mehefin 2025.
Derbyn i'r Ysgol Yn Hwyr i'r Feithrinfa ym mis Medi
Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Meithrin yw
Amserlen ar gyfer derbyniadau meithrin
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni yn yr wythnos yn dechrau: | Cyfnod i’r rhieni ystyried: | Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni: | Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd: | Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”) |
23/09/24 |
23/09/24 - 17/02/25 |
17/02/25 |
18/02/25 - 24/03/25 |
06/05/25 |
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (24 Mawrth 2025) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (6 Mai 2025).
Sylwch
Mae'r cais hwn ar gyfer meithrinfa ysgol yn unig ac nid Hawl Bore Oes na Chyllid Gofal Plant.
I gael rhagor o wybodaeth am Hawl Bore Oes / Cynnig Gofal Plant cliciwch yma.