Hyfforddwr Ffitrwydd
Rydym yn dymuno recriwtio rhywun ag angerdd am ymarfer a ffitrwydd sy’n frwdfrydig i gefnogi cwsmeriaid i gyflawni eu hamcanion iechyd a ffitrwydd personol. Mae’r rôl yn cynnwys hyfforddi dosbarthiadau ymarfer ac mae’n gyfle i weithio ar draws sawl ystafell ffitrwydd a reolir gan Gwella.
Am sgwrs anffurfiol am y cyfle, cysylltwch â Goruchwyliwr Ffitrwydd Gwella ar jordan.buffong@siryfflint.gov.uk
Swydd-ddisgrifiad
- Cyfradd Tâl: £24,598 y flwyddyn, Parhaol, Llawn amser (37 awr)
- Lleoliad: Glannau Dyfrdwy, y Fflint neu'r Wyddgrug
- Cyfeirnod y Swydd: T0000000179
- Dyddiad Cau Ceisiadau: 05/01/2025
- Buddion: 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn codi i 32 gyda hyd wasanaeth; cynllun pensiwn cystadleuol, ac aelodaeth o gampfa a sba am bris gostyngol
Gwneud cais
Lawrlwytho ffurflen gais
Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi dros e-bost i jordan.buffong@siryfflint.gov.uk