Alert Section

Gorfodaeth Gwastraff Ychwanegol


Dechreuodd gorfodaeth ym mis Mawrth 2018 ond cafodd ei atal ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol o ran gwastraff ychwanegol ar draws y Sir, nad yw’n gynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau llym, y mae’n rhaid eu cyrraedd, ar gyfer pob awdurdod lleol er mwyn lleihau gwastraff, ac ailgylchu ac ailddefnyddio mwy o ddeunyddiau. I ddiwallu’r targedau hyn mae’n rhaid i ni leihau faint o wastraff ychwanegol sy’n cael ei gyflwyno i’w gasglu, bu cynnydd nodedig ar draws y sir, ac nid yw hyn yn gynaliadwy mwyach ac felly mae’n rhaid addysgu ac yna cyflwyno camau gorfodi.

Yn Sir y Fflint, nid oes cyfyngiad ar faint o ddeunydd ailgylchu y caiff preswylwyr eu rhoi allan i’w casglu, neu fynd â nhw i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod ac i weld dolenni cyswllt, gweler y Cwestiynau Cyffredin isod.

Beth yw gwastraff ychwanegol?

Gwastraff ychwanegol yw bagiau neu eitemau ychwanegol a gaiff eu rhoi allan i’w casglu nad ydynt wedi cael eu rhoi yn y cynhwysyddion cywir a ddarperir gan yr awdurdod.  Mae bin sy’n orlawn, gan atal y caead rhag cau gan fod sachau wedi’u pentyrru hefyd yn cyfrif fel gwastraff ychwanegol.

Bydd criwiau casglu’n casglu sbwriel sy'n cael ei gyflwyno ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. Ni fydd bagiau neu eitemau ychwanegol sydd wrth ochr y bin ar olwynion, neu finiau ar olwynion sydd wedi’u gorlenwi a bod y caead methu cau’n iawn, yn cael eu casglu.

Pam eich bod chi’n bod yn llym ar wastraff ychwanegol?

Gall y rhan fwyaf o wastraff sy'n cael ei daflu o’r cartref gael ei roi yn eich casgliadau ailgylchu wythnosol.   Yn Sir y Fflint, rydym wedi gwneud cynnydd gwych i gyflawni targedau ailgylchu Cenedlaethol, fodd bynnag, mae gostyngiad wedi bod yn y 2 flynedd ddiwethaf ac yn anffodus, rydym yn anfon mwy o wastraff i gael ei waredu.

Mae’n rhaid i ni gyflawni targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o’r deunydd yr ydym yn ei gynhyrchu. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i bawb reoli’r deunyddiau y maent yn eu cynhyrchu yn eu cartref a lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle bo modd.

Dim ond eitemau na ellir eu hailgylchu y dylid eu rhoi yn y bin du.

Rydym wedi dadansoddi beth mae preswylwyr yn ei gynnwys yn y biniau du ar olwynion ac ar gyfartaledd, mae llawer o ddeunydd ailgylchadwy'n dal i gael ei waredu fel gwastraff.  Mae angen i ni ddargyfeirio’r deunydd ailgylchadwy o'r bin i mewn i'ch casgliadau ailgylchu wythnosol. I helpu i annog hyn, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cyfyngiad ar faint o wastraff y gallwch ei gyflwyno i gael ei gasglu.

Pam wnaethoch chi atal gorfodaeth? 

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, roedd gorfodaeth gwastraff ychwanegol wedi cael ei atal rhwng mis Mawrth 2020 a mis Medi 2021. Gwnaethpwyd hyn yn sgil peryglon iechyd a diogelwch i’n tîm gorfodaeth, a fyddai’n gorfod archwilio’r gwastraff mewn bagiau du i ddod o hyd i dystiolaeth er mwyn nodi o ble mae’r gwastraff yn dod.   Yn ogystal â hynny, gan fod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi cau am gyfnod, nid oedd modd i drigolion waredu eitemau mwy na gwneud cais am ragor o gynwysyddion ailgylchu i ymdrin â’u gwastraff yn gyfrifol. 

Sut y gallaf leihau fy ngwastraff? 

  • Ailddefnyddio rhai eitemau, fel jariau gwydr, poteli a thuniau bisgedi
  • Compostio gartref
  • Trwsio eitemau
  • Lleihau gwastraff drwy brynu nwyddau sydd â llai o ddeunydd pecynnu
  • Defnyddio ein cynllun casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd a chasgliad gwastraff bwyd wythnosol.
  • Defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  • Gwneud cais am Gasgliad Clytiau a Chynnyrch Hylendid Amsugno

Ewch i walesrecycles.org.uk er mwyn gweld awgrymiadau i leihau eich gwastraff. 

Sut y gallaf gael mwy o gynwysyddion ailgylchu? 

 Nid oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gallwch chi ei gyflwyno ar gyfer eich casgliad ailgylchu wythnosol – os oes angen mwy o gynwysyddion ailgylchu, gallwch archebu mwy gynwysyddion ailgylchu ar-lein yma neu trwy ffonio 01352 701234.

Gellir casglu’r rhain dros y cownter mewn Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu neu Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gan ddefnyddio’r cod a ddarperir.

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n rhoi gwastraff ychwanegol i'w gasglu?

Bydd y Cyngor yn monitro’r casgliadau ac yn rhoi gwybod i breswylwyr sut y gallant ailgylchu mwy a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gyflwyno i‘w waredu.   Os daw hi i’r pen a bod trigolion yn rhoi gwastraff ychwanegol allan yn rheolaidd a heb wrando ar gyngor am ailgylchu, gall y Cyngor gymryd camau gorfodi.

Cam un (Anffurfiol): Cyflwyno llythyr rhybuddio.

Y cam cyntaf yw cyflwyno llythyr o gyngor a phamffled ar sut i leihau gwastraff a beth y gellir ei ailgylchu.  Bydd sticer hysbysu hefyd yn cael ei roi ar y bin.  Bydd y criw yn derbyn y gwastraff ychwanegol ar yr achlysur hwn.

Cam dau (Ffurfiol):  Cyflwyno Rhybudd Adran 46

Bydd rhybudd ffurfiol o fwriad i gymryd camau yn cael ei gyflwyno i’r eiddo, gelwir y rhybudd hwn yn Rhybudd Adran 46.Ar y cam hwn, bydd swyddog gorfodi’n helpu i egluro’r gwasanaeth ac yn cynnig cyngor.  Fodd bynnag, bydd y cam hwn yn cael ei gofnodi a’i fonitro.

Ni fydd y criw yn derbyn y gwastraff ychwanegol ar yr achlysur hwn, byddant yn gadael y gwastraff i’r preswylydd eu trefnu i’r cynwysyddion ailgylchu a ddarperir a’u gwaredu yn barod ar gyfer y casgliad nesaf.

Cam 3 (Ffurfiol): Cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig.

Bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei gyflwyno os nad yw’r preswylydd yn newid eu hymddygiad a’u bod yn parhau i gyflwyno gwastraff ychwanegol yn dilyn cam un a dau.  Bydd 28 diwrnod i dalu’r Rhybudd Cosb Benodedig, sy’n £75.  Os nad yw’n cael ei dalu, gall y Cyngor symud ymlaen i erlyniad.  Bydd unrhyw wastraff ychwanegol yn cael ei adael i’r preswylydd ymdrin â hwy yn briodol.  Nodwch: ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu gwastraff ychwanegol sydd wedi’i nodi fel casgliad a gollwyd yn dilyn Cam 2 a 3.  Bydd cyfeiriadau’n cael eu cofnodi a’u monitro. 

Beth allaf ei wneud gyda fy Ngwastraff Ychwanegol? 

Trefnwch eich deunyddiau i’r cynwysyddion ailgylchu dynodedig a ddarperir gan y Cyngor.

Ystyriwch Gasgliad Gwastraff Swmpus

Ewch â’ch gwastraff i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref agosaf gan sicrhau eich bod wedi eu trefnu a’u rhannu yn barod ar gyfer eich ymweliad a’u bod yn cael eu rhoi yn y cynwysyddion cywir ar y safle.

Byddwch yn ystyriol o’ch cyfrifoldeb dyletswydd gofal; wrth waredu gwastraff. Os ydych yn talu i rywun waredu eich gwastraff ar eich rhan, defnyddiwch ddarparwr sgip neu gludwr gwastraff cofrestredig priodol; rydych yn dal i fod yn atebol am gam gorfodi os daw i’r amlwg bod eich gwastraff wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon. 

A ydych chi’n cynnig unrhyw help i gartrefi sydd â theulu mawr?

Os ydych chi’n teimlo nad yw maint eich bin yn ddigon ar gyfer anghenion eich teulu, efallai y byddwch yn gymwys i gael bin mwy. 180 litr yw maint bin gwastraff du sylfaenol, ond gall teuluoedd mwy (6 neu fwy yn y cartref) wneud cais am y bin mwy sy’n dal 240 litr, ar yr amod eu bod yn ailgylchu cymaint â phosib’.