Alert Section

Trwydded Cerbyd a Threlar

Cerbydau sydd ddim angen trwydded

  • Car bach
  • Car arferol
  • Car teulu mawr
  • Cerbydau pob pwrpas chwaraeon (SUV)
  • Cerbydau 4x4 (gelwir hefyd yn rhai gyriant pob olwyn)
  • Beic Modur
  • Cerbyd symudedd (rhaid i faint y cerbyd fod o fewn cyfyngiadau’r polisi - drychiad to cyffredinol neu isel o dan 7 troedfedd / 2.14 metr a rhaid iddo gael addasiadau cymorth symudedd)

Cerbydau a threlars sydd angen trwydded

  • Holl drelars (echel sengl neu ddwbl) hyd mwyaf - 2 fetr
  • Pic-yps (pob model)
  • Faniau sy'n deillio o geir
  • Fan fechan
  • Fan ganolig (to safonol neu isel yn is na 7 troedfedd / 2.14 metr)
  • Bws mini (gyda gosodiadau mewnol yn gyflawn)
  • Faniau camper a chartrefi modur (gyda gosodiadau mewnol ac o dan 7 troedfedd / 2.14 metr)
  • Unrhyw gerbyd maint fan waeth beth yw eu categori neu ddiffiniad

Ni chaniateir trelars ar y safle os cânt eu tynnu gan gerbyd sydd angen trwydded.

Dydi cerbyd anabledd ddim angen trwydded; ond ni chaniateir i gerbyd anabledd maint fan dynnu trelar yn unol â chyfyngiadau cerbydau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Mathau o gerbydau a threlars sydd ddim yn cael eu derbyn

  • Faniau bocs mawr (math Luton)
  • Cerbydau nwyddau mawr (LGVs)
  • Lorïau/Cerbydau nwyddau trwm (HGVs)
  • Cerbydau codi
  • Cerbydau gwastad
  • Faniau mawr (XLWB; LWB)
  • Faniau gyda thoeau uchel (dros 7 troedfedd / 2.14 metr)
  • Trelars sy’n hirach na 2 fetr o hyd
  • Trelars bocs/trelars gyda phaneli ochr estynedig/ trelars wedi’u haddasu
  • Trelars â rampiau mynediad / trelars cludiant
  • Cerbydau amaethyddol / tractorau
  • Loriau ceffylau / trelars ceffylau
  • Bws mini, faniau camper a chartrefi modur heb y gosodiadau mewnol.

Dydi’r rhestr hon ddim yn gyflawn ac mae’n bosib na fydd pob un o’r mathau/meintiau o gerbydau wedi’u rhestru uchod yn cael eu derbyn.

Ni fydd angen clipio trwyddedau preswylwyr sy’n cyrraedd y safle gyda threlar gwag i gasglu compost.

Cerbydau gyda logo / lliwiau / arwyddion

Mewn rhai achosion efallai ei bod yn bosib i gerbydau gydag arwyddion neu logo arnynt i wneud cais am drwydded. Bydd ceisiadau’n cael eu penderfynu gan dystiolaeth gadarn am y math o fusnes, nid enw’r busnes, logo neu liwiau’n unig.

Gellir rhoi trwydded flynyddol i rai cerbydau ag arwyddion ysgrifenedig (gan ganiatáu uchafswm o 12 ymweliad), ar yr amod:

  • bod y cerbyd wedi'i gofrestru i gyfeiriad preswyl yn Sir y Fflint ar gyfer treth y cyngor.
  • bod y busnes ddim yn gysylltiedig ag unrhyw wastraff masnach.
  • bod y gwastraff sy’n cael ei ddanfon i’r ganolfan ailgylchu heb gael ei gynhyrchu neu'n annhebygol o fod wedi cael ei gynhyrchu gan weithgaredd y busnes hwnnw neu fusnes cysylltiedig.
  • mai’r unig wastraff a gyflwynir yn y ganolfan ailgylchu yw gwastraff cartref domestig.

Nid yw’r consesiwn yma’n berthnasol i gerbyd sydd wedi’i gofrestru i fusnes neu gludwr gwastraff. Os bydd amheuaeth fod unrhyw gerbyd yn cludo nwyddau sy’n deillio o wastraff busnes, bydd y drwydded yn cael ei diddymu ac fe wrthodir mynediad.

Trwydded Untro

Ar gyfer y cerbydau hynny nad ydynt yn cydymffurfio â’r meini prawf cymhwyso megis cerbyd a gofrestrwyd i fusnes y mae ei berchennog angen defnyddio eu cerbyd/trelar i gael gwared ar eitemau mawr a swmpus, yna gellir cyflwyno trwydded untro os nodir yn glir nad yw’r gwastraff yn gysylltiedig â’r busnes neu weithgareddau’r busnes y mae’r cerbyd wedi ei gofrestru iddo neu ei ddefnyddio e.e. cerbyd a gofrestrwyd i blymwr sydd eisiau cael gwared ar wastraff gardd y cartref.

I gael trwydded untro rhaid gwneud cais cyn yr ymweliad trwy e-ffurflen benodol ar wefan y Cyngor er mwyn gwneud asesiad a chyflwyno trwydded.

Rhaid i’r math o gerbyd ar gyfer y cais am drwydded untro gydymffurfio ag un o’r mathau o gerbydau a nodir.

Dim ond dwywaith y gellir rhoi trwydded untro mewn cyfnod o 12 mis.

Trwydded dros dro

a) Defnyddio cerbyd llogi i gael gwared ar wastraff cartref

Gellir rhoi trwydded dros dro i breswylydd Sir y Fflint sy’n llogi cerbyd i symud eu gwastraff cartref eu hunain.

Bydd angen i’r deiliad tŷ ddarparu’r cytundeb llogi cerbyd i ddangos fod y cerbyd wedi ei logi.

b) Benthyca neu ddefnyddio fan gweithle neu gwmni a cherbyd o fath masnachol

Gall deiliaid tai o Sir y Fflint ddefnyddio fan eu cyflogwyr neu gerbydau o fath masnachol (cyn belled fod y cerbyd yn cydymffurfio â chyfyngiadau o ran math a maint) i gael gwared ar wastraff cartrefi eu hunain mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.

Fodd bynnag, bydd y deiliad tŷ angen llythyr gan y perchennog (neu ei gynrychiolydd) ar bapur y cwmni sy'n rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ddefnyddio'r cerbyd i symud eu gwastraff domestig eu hunain, a fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle'r Ddogfen Cofrestru Cerbyd V5 ar gyfer dibenion dilysu (bydd angen prawf preswylio yn Sir y Fflint gan ddeiliad y tŷ).

c) Benthyg neu ddefnyddio cerbyd teulu/ffrind

Gall deiliaid tai o Sir y Fflint ddefnyddio cerbyd aelod o’r teulu neu ffrind (ar yr amod bod y cerbyd yn cydymffurfio â chyfyngiadau o ran math a maint) i ollwng eu gwastraff cartref eu hunain mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Bydd dal angen prawf o breswyliad yn Sir y Fflint gan ddeiliad y tŷ, ond nid yw'n ofynnol bod y cerbyd wedi'i gofrestru yn Sir y Fflint.

Rhaid i’r math o gerbyd ar gyfer y cais am drwydded untro gydymffurfio ag un o’r mathau o gerbydau a nodir. Os nad yw’r cerbyd yn cyd-fynd â’r gofynion maint neu fath yna ni chaniateir iddo gael mynediad i safle canolfan gwastraff cartref.

Rhoddir trwydded dros dro unwaith yn unig mewn cyfnod o 12 mis a fydd yn rhoi caniatâd  i wneud tri ymweliad dros gyfnod o saith diwrnod.

I gael trwydded dros dro rhaid gwneud cais ymlaen llaw drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 /  streetsceneadmin@siryfflint.gov.uk fel y gellir gwneud asesiad, a rhoi trwydded.

Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am drwydded cerbyd

  1. Llyfr Cofnodion Llawn y Cerbyd (V5)
  2. Trwydded yrru
  3. Bil Treth y Cyngor neu 2 fil cyfleustod
  4. Lluniau o’r cerbyd sydd angen y drwydded:
    1. Cefn y cerbyd yn dangos y rhif cofrestru (drysau wedi cau)
    2. Golwg mewnol o’r cefn o’r drysau cefn(nid oes angen hyn ar gyfer pic-yp)
    3. Golwg o’r tu blaen
    4. Golwg o’r ochr yn llawn (ni dderbynnir golwg rhannol)

Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am drwydded cerbyd

  1. Llyfr Cofnodion Llawn y Cerbyd (V5)
  2. Trwydded yrru
  3. Bil Treth y Cyngor neu 2 fil cyfleustod
  4. Dimensiynau’r trelar (Hyd/Uchder/Lled)
  5. Lluniau o’r trelar sydd angen y drwydded:
    1. Cefn y trelar yn dangos y rhif cofrestru penodedig
    2. Golygfa o’r ochr gan ddangos hyd ac uchder yn llawn

Gwneud cais ar-lein

Gall prosesu a phostio trwyddedau gymryd hyd at 10-15 diwrnod gwaith.

Sicrhewch eich bod wedi cynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen er mwyn osgoi oedi. Ni ellir cymryd camau gyda’r ceisiadau a dderbynnir os nad yw preswylwyr wedi cyflwyno’r holl ddogfennau angenrheidiol (lluniau neu gopïau) sy’n gyfredol ac yn dangos yr un cyfeiriad.

Gwneud cais am drwydded ar-lein 

Gallwch wneud cais am drwydded ar e-bost trwy anfon neges at streetsceneadmin@flintshire.gov.uk gan atodi eich lluniau neu gopïau o’r holl ddogfennau uchod a’ch trwydded yrru.

Telerau ac Amodau wrth wneud Cais am Drwydded

  1. Caiff trwyddedau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref eu cyflwyno yn ôl disgresiwn ac fe allant newid i gydymffurfio â deddfwriaeth safleoedd, gweithredoedd, gwiriadau cerbydau manwl neu addasiadau i’r amodau trwydded.  I osgoi unrhyw anghyfleustra, ymwelwch ag www.siryfflint.gov.uk/ailgylchu i weld y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun cyn eich ymweliad.   
  2. Caiff hawlenni eu cyhoeddi am uchafswm o 12 ymweliad o fewn y cyfnod 12 mis o’r dyddiad cyhoeddi. Dim ond ar ôl i 12 mis fynd heibio o’r dyddiad cyhoeddi y gellir gwneud cais am hawlen newydd. Fodd bynnag, os oes 12 mis wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r hawlen a bod ymweliadau ar ôl, mae’r hawlen yn dal i fod yn ddilys a gellir ei defnyddio nes iddi ddod i ben (Telerau ac amodau’n berthnasol).
  3. Mae’n rhaid cyflwyno trwydded ddilys i aelod o staff y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref wrth gyrraedd y safle.  Mae’n rhaid i’r drwydded gael ei gwirio cyn dadlwytho unrhyw ddeunyddiau.  Dylid cyflwyno’r drwydded yn ystod pob ymweliad, nid yw hynny’n golygu bob dydd. 
  4. Caniateir un drwydded fesul aelwyd, a bydd y drwydded yn ddilys ar gyfer cerbyd arbennig sydd wedi'i gofrestru i gyfeiriad yn Sir y Fflint. Ni ellir trosglwyddo’r drwydded.
  5. Os yw ymgeisydd wedi derbyn trwydded yn y gorffennol, nid yw hynny’n golygu eu bod yn gymwys yn awtomatig i dderbyn rhagor o drwyddedau.  Bydd gwiriadau safonol yn cael eu cwblhau ar bob ymgeisydd, gan gynnwys sicrhau eu bod yn bodloni pob un o’r amodau trwydded.
  6. Mae'r trwyddedau hyn ar gyfer ‘gwastraff cartref’ o gartrefi preswylwyr Sir y Fflint yn unig.
  7. Ni dderbynnir unrhyw wastraff a ystyrir fel gwastraff Masnachol, Diwydiannol neu Fusnes yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.  Mae’r math hwn o wastraff yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan fasnachwyr, contractwyr neu labrwyr sy’n gweithio ar safleoedd preswyl neu fusnes.  Mae hyn yn cynnwys landlordiaid yn gwaredu gwastraff o eiddo rhent, neu wastraff y mae'n rhaid talu i gael gwared ohonynt.  Mae’r math hwn o wastraff yn ymofyn ‘trwydded cludo gwastraff’ ac yn destun “Dyletswydd Gofal” ac ni fydd unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn eu derbyn dan ein hamodau trwydded amgylcheddol.
  8. Ni fydd unrhyw un sydd â “thrwydded cludo gwastraff" yn gymwys am drwydded.
  9. Bydd yn rhaid i ddeiliaid trwydded sy’n ymgymryd ag addasiadau sylweddol i'w safle, gan gynnwys tai allan, dreifiau ac ati, sy’n cynnwys nifer fawr o ddeunyddiau adeiladu, gwaith tir neu dorri coed, archebu sgip at y diben hwn.
  10. Caiff trwyddedau eu cyflwyno ar gyfer y cerbyd y mae’r drwydded yn ymwneud ag o yn unig.  Ni chaniateir trelars os ydynt yn cael eu tynnu gan gerbyd heb drwydded. 
  11. Bydd newid cerbyd o fewn cyfnod 12 mis y drwydded yn annilysu’r drwydded. Byddwn yn ystyried ail-gyflwyno trwydded yn seiliedig ar:-a). P’un a yw’r drwydded wreiddiol gyfredol yn cael ei hildio i: Gweinyddu Trwyddedau Cerbydau, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, CH7 6LG.
    b). P’un a yw’r cerbyd yn fath a gymeradwyir. 
    c). P’un a yw pob amod yn y telerau ac amodau yn cael eu bodloni ac wedi’u bodloni yn y gorffennol. 
  12. Dylid rhoi gwybod am unrhyw addasiadau i gerbyd sydd eisoes wedi cofrestru am drwydded ac mae’n bosibl y bydd hyn yn annilysu’r cerbyd ar gyfer trwyddedau yn y dyfodol.  Mae’n bosibl y bydd addasiadau heb eu datgan ond sy’n cael eu nodi gan weithwyr y safle yn annilysu’r drwydded.
  13. Bydd trwyddedau wedi’u hagru, addasu neu sy’n cynnwys manylion aneglur yn annilys ac ni fyddant yn cael eu derbyn gan y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  14. Achosion o golli trwydded neu ddifrod damweiniol i drwydded o fewn y cyfnod 12 mis :- Mae’n bosibl y bydd deiliad y drwydded yn gymwys i dderbyn trwydded rannol arall, a bydd eu cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar:
    a). Y dyddiad terfyn a nifer yr ymweliadau â’r safle.
    b). Unrhyw gofnod o golli neu ddifwyno trwyddedau yn y gorffennol.   Ni fydd trwyddedau llawn yn cael eu cyflwyno nes y bydd 12 mis wedi mynd heibio ers y dyddiad cyflwyno gwreiddiol.
  15. Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i wirio’r manylion sydd ar gael am gerbydau a thystiolaeth o fasnachu gydag unrhyw gyrff Rheoleiddio perthnasol, neu unrhyw wybodaeth gyhoeddus, lle bo angen.
  16. Bydd unrhyw wastraff a gyflwynir i’r safle yn destun archwiliadau rheolaidd gan weithwyr y safle a/neu unrhyw swyddog awdurdodedig o’r Awdurdod neu Gorff Rheoleiddio.  Mae’n bosibl y bydd gofyn i bobl sy’n ymweld â’r safle agor sachau neu gynwysyddion i wirio’r cynnwys.  Gall methiant i gydymffurfio â hyn arwain at ddirymu eich trwydded.
  17. Am resymau diogelwch, mae’n rhaid i ddeiliad y drwydded ddatgan unrhyw Wastraff a allai fod yn beryglus  yn y llwyth a cheisio cyngor os ydynt yn ansicr.
  18. Mae’n rhaid gwahanu a gosod deunyddiau a gyflwynir i’r safle yn y sgip neu’r cynhwysydd cywir.  Os yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan aelod o staff.
  19. Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i ddod ag unrhyw gonsesiynau o dan y cynllun trwyddedau i ben os yw deiliad y drwydded yn mynd yn groes i unrhyw un o’r amodau trwydded.  Gellir gweld yr amodau trwydded ar-lein neu gellir gwneud cais am gopi caled drwy’r post. Sicrhewch eich bod wedi darllen a’ch bod yn deall yr amodau trwydded cyn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.  

Dirymu trwyddedau 

  1. Ni fyddwn yn goddef unrhyw achosion o fygwth neu gam-drin staff neu breswylwyr eraill, bydd hyn yn arwain at ddirymu’r drwydded ar unwaith, ac fe allai hefyd arwain at wahardd y deiliad rhag defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint.
  2. Caniateir i aelodau staff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref atafaelu trwydded lle bo angen, er enghraifft, mewn unrhyw achosion o:-
    a). Gam-drin neu fygwth staff y safle neu breswylwyr eraill.
    b) Peidio â chydymffurfio â rheolau safleoedd gan gynnwys cyfyngiadau cyflymder, cyfarwyddebau staff.
    c) Trwyddedau sydd wedi’u hagru, addasu neu sy’n cynnwys manylion aneglur ac felly’n annilys.
    d) Methiant i ddatgan gwastraff peryglus mewn llwythe) Cyflwyno gwastraff annerbyniol i’r safle.
  3. Os byddwn yn nodi cerbydau heb dreth neu yswiriant yn ystod gwiriadau rheolaidd, byddwn yn dirymu'r drwydded ar unwaith ac yn gwahardd y deiliad rhag defnyddio unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint p'un a oes ganddynt drwydded neu beidio.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhoi gwybod i'r heddlu a'r DVLA.
  4. Bydd unrhyw drwydded a gyflwynir yn sgil gwall gweinyddol, unrhyw wybodaeth ffals a dderbynnir, neu sy’n mynd yn groes i unrhyw un o delerau ac amodau'r drwydded, yn cael ei dirymu ar unwaith.
  5. Mae telerau ac amodau'r drwydded ar gael ar-lein; a gellir gwneud cais am gopi caled drwy'r post.  Sicrhewch eich bod wedi darllen a’ch bod yn deall yr amodau trwydded cyn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint. 

Nid oes unrhyw eithriadau i'r telerau ac amodau hyn.

Hysbysiad Preifatrwydd wrth wneud Cais am Drwydded

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth ar gyfer Ffurflen Gais Pas Parcio Parc Ailgylchu

Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol Ffurflen Gais ar gyfer Pàs Parcio Parc Ailgylchu yn unig. Mae’n rhaid prosesu eich data personol er mwyn asesu eich cymhwysedd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Eich data sy'n cael ei brosesu fel tasg er budd y cyhoedd o dan Erthyglau 6(e) a 9(g) o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (2018). Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data ag unrhyw sefydliad arall. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data hyd at ddyddiad penodol oni hysbysir yn wahanol. Bydd yr Awdurdod Trwyddedau yn sicrhau bod y gofrestr ar gael i’w harchwilio, bob amser rhesymol ac yn rhad ac am ddim. 

Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a'ch hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.