Alert Section

Canolfannau Ailgylchu Cartref

Newidiadau i’r gwasanaeth

Mae taliadau newydd ar gyfer eitemau nad ydynt yn wastraff y cartref yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.

O 5 Awst ymlaen, codir tâl ar drigolion am asbestos, olew moduron, plastrfwrdd a theiars.

Darganfod mwy

Trwyddedau

Ni fydd angen trwydded ar y rhan fwyaf o geir.

Mae’n bosib y bydd angen trwydded ar faniau, pic-yps, unrhyw drelars neu gerbydau mwy, ac efallai na fyddan nhw’n cael eu derbyn o gwbl.

Canolfannau Ailgylchu

Gwiriwch yr hyn y gallwch ei ddanfon i’ch canolfan ailgylchu isod.

Pan fyddwch ar y safle gofynnwn yn garedig i chi barchu ac ystyried ein timau a’ch cyd gwsmeriaid. Ni fyddwn yn goddef unrhyw sarhad.

Bwcle / Buckley

Bwcle

DayTime
Dydd Llun 9yb - 5yp
Dydd Mawrth Ar gau
Dydd Mercher Ar gau
Dydd Iau 9yb - 5yp
Dydd Gwener 9yb - 5yp
Dydd Sadwrn 9yb - 5yp
Dydd Sul 9yb - 5yp
Maes Glas / Greenfield

Maes Glas

DayTime
Dydd Llun 9yb - 5yp
Dydd Mawrth Ar gau
Dydd Mercher Ar gau
Dydd Iau 9yb - 5yp
Dydd Gwener 9yb - 5yp
Dydd Sadwrn 9yb - 5yp
Dydd Sul 9yb - 5yp
Yr Wyddgrug / Mold

Nercwys, Yr Wyddgrug

DayTime
Dydd Llun 9yb - 5yp
Dydd Mawrth 9yb - 5yp
Dydd Mercher Ar gau
Dydd Iau Ar gau
Dydd Gwener 9yb - 5yp
Dydd Sadwrn 9yb - 5yp
Dydd Sul 9yb - 5yp
Oakenholt

Rockliffe, Oakenholt

DayTime
Dydd Llun 9yb - 5yp
Dydd Mawrth 9yb - 5yp
Dydd Mercher Ar gau
Dydd Iau Ar gau
Dydd Gwener 9yb - 5yp
Dydd Sadwrn 9yb - 5yp
Dydd Sul 9yb - 5yp
Glannau Dyfrdwy / Deeside

Sandycroft, Glannau Dyfrdwy

DayTime
Dydd Llun 9yb - 5yp
Dydd Mawrth 9yb - 5yp
Dydd Mercher Ar gau
Dydd Iau Ar gau
Dydd Gwener 9yb - 5yp
Dydd Sadwrn 9yb - 5yp
Dydd Sul 9yb - 5yp

Archebu lle

Matresi

  • Dim ond un fatres a dderbynnir mewn un archeb.
  • Dim ond 3 archeb a ganiateir bob blwyddyn.
  • Rhaid cyflwyno cyfeirnod archebu ar y safle er mwyn gallu gollwng eich gwastraff.

Sylwch na fydd matresi yn cael eu derbyn mewn canolfannau ailgylchu tan ddydd Mercher, oherwydd materion storio allanol.

Archebu i waredu eich matres

Gwastraff sydd ddim yn wastraff cartref

Rhaid cyflwyno cyfeirnod archebu ar y safle er mwyn gallu gollwng eich gwastraff.

Costau gwastraff sydd ddim yn wastraff cartref
Math o WastraffCost

Asbestos

Rhaid i'r gwastraff bod mewn bagiau coch. Mae’n bosib casglu’r bagiau o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu trwy ddefnyddio eich cyfeirnod archebu.

(maint bag 900mm x 1200mm)

RHYBUDD:

Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n berygl os ydych chi’n eu hanadlu.

Tydi mygydau llwch cyffredinol ddim yn eich gwarchod rhag ffibrau Asbestos.

Darllenwch fwy am asbestos ar wefan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

£20 fesul bag

(Uchafswm o 5 bag ar gyfer pob archeb)

Olew moduron

£5 fesul ymweliad

(Dim mwy na 10 litr bob ymweliad)

Plastrfwrdd

£5 fesul bag (Mae bag yn cyfeirio at fag 25 litr safonol y gellir ei godi’n ddiogel gan un person)

£30 fesul trelar (plastrfwrdd sydd ddim mewn bag)

Teiars - cerbydau domestig, beiciau modur

£5 fesul teiar

(Uchafswm o 4 teiar ar gyfer pob archeb)

Archebu lle ar gyfer waredu gwastraff sydd ddim yn wastraff cartref

Amodau a Thelerau codi tâl a gwaredu Gwastraff nad yw’n Wastraff y Cartref

  1. Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu darparu er mwyn caniatáu preswylwyr Sir y Fflint i waredu ychydig o wastraff domestig ac eitemau i’w hailgylchu (gwastraff ac eitemau i’w hailgylchu o gartref y preswylydd ei hun).  Bydd eitemau o wastraff y byddai disgwyl i gartref nodweddiadol eu taflu yn ystod arferion bywyd bob dydd yn cael eu derbyn. Mae gan Gyngor Sir y Fflint rwymedigaethau cyfreithiol i ddarparu cyfleusterau Canolfan Ailgylchu ar gyfer gwastraff y cartref yn unig.  
  2. Derbynnir rhai mathau o wastraff mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sy’n cael eu cyfrif fel gwastraff nad yw’n wastraff y cartref.  Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod bod angen cyfleusterau ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint i waredu rhywfaint o wastraff nad yw’n wastraff y cartref, felly codir tâl rhesymol ar gyfer costau cludo, trin a gwaredu’r deunyddiau hyn
  3. Mae angen archebu a thalu ffi ar gyfer yr eitemau canlynol:
    • Asbestos £20 y bag (yn cael ei dderbyn ar safle Maes Glas a Bwcle yn unig, uchafswm o 5 bag. Dim ond yn ystod yr wythnos y gellir archebu i waredu’r rhain).
    • Teiars £5 fesul teiar (cerbydau domestig a beiciau modur, gan eithrio teiars beic, uchafswm o 4 fesul archeb).
    • Olew Moduron £5 fesul ymweliad (uchafswm o 10 litr fesul ymweliad)
    • Plastrfwrdd £5 y bag NEU £30 fesul trelar o blastrfwrdd sydd heb ei roi mewn bagiau (Dylai bod y plastrfwrdd yn sych a heb ei gymysgu gyda deunyddiau eraill. Mae bag yn cyfeirio at fag 25 litr safonol y gellir ei godi’n ddiogel gan un person. Mae gan weithredwyr y safle’r hawl i wrthod bagiau gwastraff plastrfwrdd sy’n rhy fawr).
  4. Dim ond drwy archebu lle y gellir mynd i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyda’r eitemau a restrir uchod.  Mae gan staff y safle’r hawl i wrthod gwaredu os na wnaed archeb a thaliad ymlaen llaw.  
  5. Mae’n RHAID cyflwyno rhif cyfeirnod ar y safle er mwyn gallu gwaredu eich gwastraff. 
  6. Mae modd talu ac archebu ar gyfer y deunyddiau a restrwyd drwy dudalen Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref drwy wefan Cyngor Sir y Fflint.
  7. Mae cyfyngiadau o ran gwaredu Asbestos oherwydd ei natur beryglus, mae’r rhain yn cynnwys:  
    • Mae cyfyngiadau yn eu lle ar faint o wastraff a ddaw i mewn. Dim ond pum bag coch llawn a dderbynnir mewn un archeb.
    • Dim ond un archeb a ganiateir bob blwyddyn.
    • Gellir defnyddio sgipiau asbestos yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas a Bwcle
    • Dim ond ar ddyddiau’r wythnos y gellir cael gwared ag asbestos.
    • Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n berygl os ydych chi’n eu hanadlu. 
  8. Dim ond teiars cerbydau domestig a beiciau modur fydd yn cael eu derbyn ar y safle, ni dderbynnir teiars masnachol nac amaethyddol.  Ni fyddwn yn codi tâl am deiars beic. 
  9. Os bydd unrhyw un o’r eitemau a restrir yn cael eu cludo i’r safle mewn fan/trelar neu dryc pic-yp, bydd angen trwydded ddilys ar gyfer archebu lle; mae’n rhaid i’r safle a ddewisir gyd-fynd â’r safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded, oni bai eich bod yn gwaredu Asbestos mewn safle dynodedig.  
  10. Cyhoeddir rhestr o daliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ar wefan y Cyngor.  Mae’r ffi a godir ar gyfer yr eitemau a restrir yn destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor.  
  11. Mae’r eitemau a restrir yn destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor.  
  12. Ni dderbynnir unrhyw wastraff a ystyrir fel gwastraff Masnachol, Diwydiannol neu Fusnes yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint.   Mae’r math hwn o wastraff yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan fasnachwyr, contractwyr neu labrwyr sy’n gweithio ar safleoedd preswyl neu fusnes.   Mae hyn yn cynnwys landlordiaid yn gwaredu gwastraff o eiddo rhent, neu wastraff y mae'n rhaid talu i gael gwared ohonynt.   Mae’r math hwn o wastraff yn ymofyn “trwydded cludo gwastraff” ac yn destun “Dyletswydd Gofal” ac ni fydd unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn eu derbyn dan ein hamodau trwydded Amgylcheddol.
  13. Bydd unrhyw wastraff a gyflwynir i’r safle yn destun archwiliadau rheolaidd gan weithredwyr y safle a/neu unrhyw Swyddog awdurdodedig o’r Awdurdod neu Gorff Rheoleiddio.   Mae’n bosibl y bydd gofyn i bobl sy’n ymweld â’r safle agor sachau neu gynwysyddion i wirio’r cynnwys.   
  14. Mae’n rhaid gwahanu a gosod deunyddiau a gyflwynir i’r safle yn y sgip neu’r cynhwysydd cywir.   Os yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan aelod o staff.
  15. Rhaid i ddefnyddwyr y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a roddir gan y gweithredwyr ar y safle, cyfraith a chanllawiau iechyd a diogelwch, unrhyw arwyddion, cyfyngiadau cyflymder, a pholisi penodol didoli a gwahanu gwastraff.
  16. Bydd gan y Cyngor yr hawl i wrthod unrhyw un rhag dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os yw'n amau eu bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r amodau a amlygwyd o fewn y Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  17. Ni roddir ad-daliad os nad ydych yn mynychu ar yr amser a archebwyd.  

Nid oes unrhyw eithriadau i'r telerau ac amodau hyn.  

Compostio

Oherwydd cyfyngiadau o ran gofod a galw uchel, mae’r cyflenwad compost ar safleoedd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn brin. Rydym yn ailgyflenwi lefelau stoc yn y safleoedd hyn yn rheolaidd; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyflenwadau yn brin neu ddim ar gael ar adegau. Bydd argaeledd deunydd compost ar sail y cyntaf i’r felin.

Gwastraff swmpus

Gallwch archebu lle ar gyfer casglu eitem swmpus ar-lein neu trwy ein Canolfan Gyswllt ar 01352 701234.

Casglu eitemau swmpus/dodrefn

Lleihau gwastraff - rhowch eich eitemau i bobl eraill!

Gall yr elusen leol Refurbs Flintshire (01352 734111) gasglu dodrefn y gellir eu hailddefnyddio ac eitemau trydanol o garreg eich drws a hynny am ddim. Fel arall, gallwch eu hysbysebu ar wefan Freecycle / Freegle lleol.