Alert Section

Dathlu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Bydd dydd Iau, 8 Mai 2025 yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE

Rhwng dydd Llun 5 Mai a dydd Iau 8 Mai, bydd ein cenedl yn cofio hanes diwedd yr Ail Ryfel Byd, yr arwyr fu farw a’r rhai a ddychwelodd.  Mae’n gyfle i bawb ddod ynghyd i ddathlu, fel y gwnaethpwyd 80 mlynedd yn ôl – drwy gynnal partïon stryd, digwyddiadau cymunedol a chyfarfodydd anffurfiol.

Yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynllunio’n genedlaethol, anogir pobl ar hyd a lled y DU i ddod ynghyd a dod â dathliadau i galon eu cymunedau eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am y dathliadau, ewch i: https://ve80.com/

Darllenwch ddatganiad Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-nodi-80-mlynedd-ers-diwrnod-vevj

Bydd ein ffaglau yn cael eu goleuo ym Magillt, Doc Maes Glas, Pwynt y Fflint, Saltney a Chei Connah 8 Mai, i nodi diwedd y Rhyfel. 

Cynllunio dathliad cymunedol

Darllenwch y wybodaeth isod os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ac am gynllunio dathliad cymunedol. 

Partïon Stryd

  • Mae parti stryd yn ddigwyddiad bach ar gyfer trigolion lleol a'u teuluoedd (rhad ac am ddim); nad yw'n cael ei hysbysebu i'r gymuned ehangach.
  • Caiff ei gynnal mewn tŷ neu ardd, mewn man gwyrdd lleol neu ar ffordd breswyl dawel.
  • Y trigolion lleol fydd yn darparu’r bwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol.
  • Caiff cerddoriaeth heb seinchwyddwr ei chwarae rhwng 8am a 11pm (oni bai bod Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn weithredol).
  • Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da ar y diwrnod am wobrau gwerth llai na £500. 

Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi a’ch bod yn bwriadu ei gynnal ar isffordd breswyl, lle na fydd fawr o effaith ar draffig trwodd, bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro (TTRO).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro yw dydd Gwener 18 Ebrill 2025.

Digwyddiadau Cyhoeddus

  • Mae digwyddiad cyhoeddus yn wahanol i barti stryd.
  • Gall unrhyw un fynychu a gellir codi tâl mynediad.
  • Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r digwyddiad, er enghraifft ar-lein neu gyda phosteri. Fe'i cynhelir mewn adeilad sy'n agored i'r cyhoedd neu barc.
  • Gweinir bwyd poeth a diod ar ôl 11pm.
  • Caiff alcohol ei werthu.
  • Caiff cerddoriaeth fyw ei chwarae rhwng 8am ac 11pm.
    • Mae’n rhaid i lefelau o gerddoriaeth â seinchwyddwr o ddigwyddiadau byw neu wedi’u recordio gael eu rheoli fel nad ydynt yn achosi niwsans i gymdogion. Yr arfer gorau fyddai dilyn ‘Cynllun Rheoli Sŵn’ yn rhan o’ch asesiad risg.
  • Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da cyn y digwyddiad.  

Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi, bydd angen i chi gyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i'r Cyngor ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. 

I gael rhagor o wybodaeth am Rhybudd Digwyddiad Dros Dro a sut i’w gyflwyno, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Licences-and-permits/Temporary-event-notice.aspx