Diogelwch tân gwyllt
Cynllunio Arddangosfa Tân Gwyllt?
Dylai pob arddangosfa tân gwyllt fod yn achlysur ysblennydd y gall pawb ei fwynhau – ond mae’n amlwg bod angen gwaith cynllunio gofalus.
Os ydych chi’n bwriadu cynnal arddangosfa tân gwyllt, fel y rhai a drefnir gan dafarndai, clybiau cymdeithasol, ysgolion a chymdeithasau cymunedol, gofalwch eich bod yn ei chynllunio’n drylwyr i sicrhau bod pawb sy’n gweithio ar yr arddangosfa a’r rhai sy’n dod i wylio’n ddiogel.
Os nad ydych yn cymryd gofal neu os ydych yn ymddwyn yn anghyfrifol, gall tân gwyllt fod yn beryglus. Bob blwyddyn caiff tua mil o bobl eu hanafu gan dân gwyllt ym Mhrydain ac mae angen eu trin mewn ysbyty. Ond nid yw hynny’n golygu y dylai pawb roi’r gorau i drefnu arddangosfeydd tân gwyllt a choelcerthi. Gydag ychydig o waith cynllunio da a synnwyr cyffredin ar y noson, gallwch gynnal arddangosfa ddiogel y gall pawb ei fwynhau.
Y peth cyntaf y mae’n rhaid i chi ei wneud yw dewis safle addas; os nad oes gennych ddigon o le, ni fyddwch yn gallu cynnal eich arddangosfa’n ddiogel. Darllenwch y ddogfen Iechyd a Diogelwch a ganlyn sy’n gosod allan y canllawiau ar gyfer arddangosfeydd (mae cynllun y safle ar dudalen 4).
I’ch helpu chi i gynllunio’ch arddangosfa, rydym wedi creu rhestr o wefannau a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Sylwch: Mae angen trwydded i gadw tân gwyllt i’w gwerthu. Mae hefyd rhai cyfyngiadau yng nghyswllt eu gwerthu.
Darllenwch y dudalen Trwyddedau - ffrwydron i gael rhagor o wybodaeth.