Diogelwch Nosweithiau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt
Gyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt ar y gorwel, mae Heddlu Gogledd Cymru a’u partneriaid yn dod at ei gilydd unwaith eto er mwyn gofyn i bobl ‘fynd i ysbryd y noson’ gydag ymgyrch BANG (new window)
Diogelwch tân gwyllt
Beth am fynd i Goelcerth neu arddangosfa Tân Gwyllt sydd wedi’u trefnu’n swyddogol?
Dilynwch ein cynghorion i gael digwyddiad diogel a llwyddiannus. Rhaid i fusnes gael trwydded neu fod wedi’i gofrestru i storio ffrwydron, gan gynnwys tân gwyllt a gedwir er mwyn eu gwerthu.
Y Gyfraith
- Mae’n drosedd i bobl ifanc dan 18 oed fod â thân gwyllt Categori 2 neu 3 yn eu meddiant mewn man cyhoeddus (caniateir tân gwyllt dan do a ffyn gwreichion)
- Mae’n drosedd cyflenwi tân gwyllt i unrhyw un dan 18 oed. Gellir cyflenwi capiau, snapiau cracer, matsis hwyl a sbri a phopwyr parti i unigolion 16 oed ac yn hŷn a gellir eu defnyddio’n gyhoeddus.
- Ni chaniateir defnyddio tân gwyllt rhwng 11pm a 7am. Fodd Bynnag, ar nosweithiau tân gwyllt dynodedig, mae’r cyfyngiadau fel a ganlyn: 5 Tachwedd - rhwng 12 canol nos a 7am y diwrnod canlynol.
- Cofiwch fod taflu wyau a blawd at eiddo yn cael ei weld fel difrod troseddol - a bydd yr heddlu yn ymdrin â phob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unol â hynny.
- Coelcerthi – adeiladu, diogelwch a’r gyfraith (ffenestr newydd)