Os ydych chi’n rhentu eiddo neu ystafell oddi wrth landlord preifat ac os ydych chi ar incwm isel, gallai fod modd i chi hawlio a chael Lwfans Tai Lleol.
Beth yw Lwfans Tai Lleol?
Ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai ar gyfer pobl sy’n rhentu llety oddi wrth landlord preifat yw Lwfans Tai Lleol. Cafodd y Lwfans ei gyflwyno ym mis Ebrill 2008. Mae’n berthnasol i geisiadau newydd am fudd-dal, a chwsmeriaid sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai ac sy’n newid eu cyfeiriad neu’n symud i lety a gaiff ei rentu’n breifat.
Os ydych chi’n byw mewn llety sy’n eiddo i’r Cyngor neu landlord cymdeithasol arall megis cymdeithas dai, ni fydd Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnoch chi oni bai eich bod yn symud i lety a gaiff ei rentu oddi wrth landlord preifat.
Sut mae Lwfans Tai Lleol yn gweithio?
Caiff Lwfans Tai Lleol ei seilio ar yr ardal y mae’r cwsmer yn rhentu ynddi, nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo, a maint yr aelwyd. Mae Lwfans Tai Lleol yn ffordd decach o gyfrifo Budd-dal Tai, oherwydd mae’n sicrhau bod tenantiaid mewn amgylchiadau tebyg sy’n byw yn yr un ardal yn cael yr un faint o help i dalu eu rhent.
Sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y bobl hynny sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai?
Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Tai, ni fydd y newidiadau’n effeithio arnoch oni bai eich bod yn newid eich cyfeiriad ac yn symud i lety a gaiff ei rentu oddi wrth landlord preifat. Byddwch chi’n cael Lwfans Tai Lleol yn lle Budd-dal Tai os bydd hynny’n digwydd.
Sut caiff Lwfans Tai Lleol ei gyfrifo?
Mae’r Gwasanaeth Rhenti’n cyfrifo cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer pob ardal unigol, neu ‘Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang’ fel y’u gelwir. Mae’r cyfraddau’n amrywio ar gyfer pob ardal, ac maent yn dibynnu hefyd ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd yn yr eiddo. Caiff y cyfraddau eu hadolygu’n fisol.
I gyfrifo’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol uchaf, bydd angen i chi wybod:
1) Faint o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael
2) Yr ‘Ardal Marchnad Rhenti Eang’ y byddwch yn rhentu ynddi.
Faint o ystafelloedd gwely rwyf yn gymwys i’w cael?
Nid nifer yr ystafelloedd gwely yn yr eiddo sydd dan sylw, ond nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen mewn gwirionedd ar eich aelwyd. Dilynwch y ddolen gyswllt i ddarganfod faint o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael -
Cyfrifiannell Lwfans Tai Lleol yn ôl ystafelloedd gwely (ffenestr newydd)
Pa Ardal Marchnad Rhenti Eang byddaf yn rhentu ynddi?
Gallwch chi ddarganfod pa Ardal Marchnad Rhenti Eang rydych yn rhentu ynddi trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio’n ôl Côd Post, gan ddefnyddio’r ddolen gyswllt sydd ynghlwm. Wrth ddewis nifer yr ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael, gallwch chi hefyd weld y gyfradd Lwfans Tai Lleol uchaf sy’n berthnasol.
Dod o hyd i gyfraddau Lwfans Tai Lleol yn ôl cod post (ffenestr newydd)
Faint o Lwfans Tai Lleol byddaf i’n ei gael mewn gwirionedd?
Y cyfraddau Lwfans Tai Lleol yw’r budd-dal uchaf y gallwch chi ei gael, ni waeth faint yw’r rhent mewn gwirionedd. Cofiwch fod Lwfans Tai Lleol yn fudd-dal a gaiff ei seilio ar brawf modd ac y gallech chi gael swm sy’n llai na’r lwfans uchaf posibl. Bydd hynny’n dibynnu ar eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych.
I gael amcangyfrif o’r swm y gallai fod gennych hawl i’w gael, gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster cyfrifo budd-daliadau neu gallwch gysylltu â ni.
Beth os yw fy rhent yn uwch neu’n is na’r lwfans rwyf yn ei gael?
Os yw’r rhent rydych wedi cytuno arno â’ch landlord yn is na’r lwfans rydych yn ei gael, bydd modd i chi gadw’r gwahaniaeth hyd at uchafswm o £15 yr wythnos. Fel rheol ni fydd hynny’n cael ei ystyried wrth benderfynu ar fudd-daliadau eraill.
Nodwch y bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym ar 5 Ebrill 2010:
- Ni fydd gan gwsmeriaid sy’n cyflwyno ceisiadau newydd, neu sy’n newid eu cyfeiriad ar 5 Ebrill 2010 neu wedi hynny, hawl i gadw unrhyw Fudd-dal Tai sy’n weddill ar ôl talu eu rhent.
- Bydd cwsmeriaid sydd eisoes yn cadw hyd at £15 yr wythnos o Fudd-dal ar ôl talu eu rhent yn colli’r hawl i wneud hynny ar ben-blwydd eu cais, ar ôl 5 Ebrill 2010.
Os yw’r rhent yn uwch na’r lwfans rydych yn ei gael, bydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth neu chwilio am lety arall.
Sut i hawlio Lwfans Tai Lleol?
Gallwch chi hawlio Lwfans Tai Lleol cyn gynted ag y bydd gennych gytundeb rhent â’ch landlord, a gallech chi golli budd-dal os byddwch yn oedi. Bydd angen i chi lenwi ein ffurflen hawlio ar gyfer hawlio Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i hawlio Lwfans Tai Lleol a chael ffurflen hawlio.
Sut caiff y Lwfans Tai Lleol ei dalu?
Fel rheol bydd y Lwfans Tai Lleol yn cael ei dalu i chi, a bydd yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc neu’ch cyfrif cymdeithas adeiladu. Ni chaiff y Lwfans ei dalu fel rheol i’ch landlord.
Os nad oes gennych gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, bydd angen i chi agor un. Bydd hynny’n eich galluogi i drefnu bod y rhent yn cael ei dalu’n awtomatig i’ch landlord drwy archeb reolaidd. Chi fydd yn gyfrifol am dalu’r rhent i’ch landlord. Os na fyddwch chi’n talu’r rhent, gellid dwyn achos llys yn eich erbyn a gallech chi gael eich taflu allan o’r eiddo.
Os ydych chi’n poeni am reoli eich arian, gofynnwch a allwn ni eich helpu. Mewn rhai achosion efallai y bydd modd i ni dalu eich budd-dal i’ch landlord. Mae ein Polisi Diogelu yn rhoi mwy o wybodaeth am hynny.
Dilynwch y dolenni cyswllt hyn i lawrlwytho Cais i dalu Landlorl a nodiadau arweiniad.
Ymhle caiff y cyfraddau eu cyhoeddi?
Caiff y cyfraddau Lwfans Tai Lleol presennol ar gyfer yr Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang yn Sir y Fflint eu cyhoeddi yma "Gwybodaeth Ddefnyddio"
Newid i amgylchiadau
Dylech chi adael i ni wybod yn syth os ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol ac os ydych chi’n symud i gyfeiriad newydd neu os yw eich amgylchiadau eraill yn newid. Efallai y bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol.
Gallwch chi ddefnyddio’r ddolen gyswllt hon i gael mwy o wybodaeth am newid i amgylchiadau a chael ffurflen i’w lawrlwytho.
Mwy o wybodaeth …
Gallwch chi ddilyn y ddolen gyswllt hon i wefan ‘LHA Direct’ (ffenestr newydd) neu gallwch chi gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.