Alert Section

Lwfansau Cynghorwyr


Mae cynghorwyr yn derbyn lwfans neu gyflog sylfaenol blynyddol sy'n cael ei dalu mewn rhandaliadau misol ac sy’n destun treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae’r cyflog hwn i fod i gyfrannu at gostau sy’n deillio o wneud gwaith y Cyngor, fel defnyddio eu cartref a'u ffôn a chostau teithio. Nid yw wedi’i fwriadu i ad-dalu i gynghorwyr am yr holl amser maent yn ei roi i fusnes y Cyngor.

Faint mae cynghorwyr yn ei dderbyn?

Mae’r swm i’w dalu i gynghorwyr bob blwyddyn yn cael ei bennu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Rydyn ni hefyd yn talu cyflog uwch ychwanegol i rai cynghorwyr sy'n aelodau o'r Cabinet neu'n gadeiryddion ar bwyllgorau (hyd at 18 o aelodau'r Cyngor), neu rai sydd â chyfrifoldebau dinesig arbennig (Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor).

Rhestr Talidadu Cydnabyddiaeth Aelodau am y Flwyddyn Ariannol 2022/2023

Rhestr Talidadu Cydnabyddiaeth Aelodau am y Flwyddyn Ariannol 2021/2022

Rhestr Taliadau Cydnabyddiaeth Aelodau am y Flwyddyn Ariannol 2020/2021

Rhestr Taliadau Cydnabyddiaeth Aelodau am y Flwyddyn Ariannol 2019/2020

Aelodau cyfetholedig

Nid yw pob un o’n haelodau’n gynghorwyr. Mae rhai’n aelodau cyfetholedig neu aelodau ‘lleyg’. Maen nhw ar y Pwyllgor Archwilio (un aelod cyfetholedig), y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Phobl Ifanc (hyd at bum aelod cyfetholedig) a’r Pwyllgor Safonau (chwe aelod cyfetholedig).

Nid yw'r aelodau hyn yn cael cyflog, ond lwfans am bob cyfarfod maent yn mynd iddo.I weld manylion llawn am lwfansau'r cynghorwyr dros y blynyddoedd diwethaf, darllenwch y datganiadau isod:

DATGANIAD O DALIADAU A WNAED I AELODAU CYNGOR SIR Y FFLINT YN 2019 / 2020

DATGANIAD O DALIADAU A WNAED I AELODAU CYNGOR SIR Y FFLINT YN 2020 / 2021

DATGANIAD O DALIADAU A WNAED I AELODAU CYNGOR SIR Y FFLINT YN 2021 - 2022