Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a’r Teulu
“Mae’r blynyddoedd cynnar (o genhedlu hyd at ben-blwydd y plentyn yn saith) yn gyfnod allweddol ym mywydau ein plant. Ein gweledigaeth yw i BOB plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, a chael magwraeth hapus, iach a diogel, gyda’r cyfle i gyrraedd eu potensial, gan adael neb ar ôl. Mae profiadau plentyn yn ystod y cyfnod hwn yn cael effaith sylweddol ar eu cyfleoedd mewn bywyd. Mae’r cyfuniad o ddulliau magu plant da, cyngor da, cefnogaeth a chyfleoedd ar gyfer addysg o ansawdd uchel yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar bob plentyn i’w paratoi i ddysgu a gwneud y mwyaf o’u gallu wrth iddynt dyfu. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer plant dan anfantais lle gall cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar gael yr effaith fwyaf.”
Croeso i Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a’r Teulu .
Ddechrau 2022, dechreuom ein hymgynghoriad ‘Llais Rhieni Sir y Fflint’. Siaradom gyda rhieni a rhieni a oedd yn disgwyl babi ar draws y sir, a nododd y byddai’n ddefnyddiol cael un lle’n darparu gwybodaeth am beth sydd ar gael yn Sir y Fflint, i’w cefnogi ar eu siwrnai fel rhieni.
Mae tîm Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a’r Teulu yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni sy’n disgwyl babi a theuluoedd gyda phlant ifanc rhwng 0 a 7 oed sy’n byw yn Sir y Fflint.
Os ydych chi’n disgwyl babi, neu eisoes yn rhiant (gan gynnwys neiniau a theidiau a gofalwyr) i blentyn sy’n 7 oed neu’n iau ac yn byw yn Sir y Fflint, gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi.
Os ydych chi’n darparu gwasanaethau i blant ifanc a’u teuluoedd, gobeithiwn y bydd y ffynhonnell hon yn ddefnyddiol i chi ddod o hyd i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’ch helpu yn eich rôl a’i rhannu gyda theuluoedd.
Mae’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cynnwys pedwar maes allweddol:
- Porth Blynyddoedd Cynnar
- Tîm Plant a Rhieni Blynyddoedd Cynnar
- Tîm Gofal Plant
- Strategaeth, Cynllunio a Gwerthuso Blynyddoedd Cynnar, gan sicrhau ein bod yn gwneud y pethau cywir, a’u gwneud nhw’n dda.
Y Porth Blynyddoedd Cynnar, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, neu aelod o deulu sydd angen gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth. Mae Swyddogion y Porth Gwybodaeth i Deuluoedd wrth law i wrando ar eich sefyllfa, a’ch helpu i gael mynediad at y gwasanaethau a fydd yn eich cefnogi chi orau.
Gallant gynnig cefnogaeth ar ystod eang o feysydd gan gynnwys:
- Gofal Plant
- Gweithgareddau a darpariaeth gymunedol 0-25 oed
- Ymddygiad plant
- Cefnogaeth i Rieni
- Gwasanaethau Cefnogi
- Gwybodaeth ac atgyfeiriadau at wasanaethau eraill
Os bydd arnoch chi angen cyngor neu gefnogaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Blynyddoedd Cynnar.
Ymweld â thudalen we’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
EarlyYearsTeam@siryfflint.gov.uk
Gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill, bydd y Tîm Plant a Rhieni Blynyddoedd Cynnar yn darparu cefnogaeth gymunedol arbenigol, estynedig ac wedi’i theilwra i helpu teuluoedd i wella eu canlyniadau a chyflawni eu nodau a’u dyheadau. Mae’n gwneud hyn drwy ymgysylltiadau cadarnhaol, darganfod mwy am eich cryfderau, archwilio eich anghenion a’ch helpu i nodi’r pethau sy’n bwysig i chi.
Mae cyngor a chymorth ar gael ar gyfer y meysydd allweddol canlynol:
- Beichiogrwydd a pharatoi at fod yn rhiant
- Bywyd teuluol
- Datblygiad plentyn
- Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
- Deall ymddygiadau
Os oes arnoch chi angen cymorth gydag unrhyw un o’r meysydd hyn, cysylltwch â’r Tîm Blynyddoedd Cynnar ar EarlyYearsTeam@siryfflint.gov.uk.
Mae’r Tîm Gofal Plant yn gweithio i sicrhau fod llefydd gofal plant blynyddoedd cynnar a chyfleoedd chwarae o ansawdd uchel ar gael i blant a’u teuluoedd yn Sir y Fflint.
Mae’n gyfrifoldeb statudol ar y tîm i asesu digonolrwydd gofal plant a gweithio gyda darparwyr a gwasanaethau lleol i helpu i fodloni’r galw, lleihau bylchau a gwella ansawdd yn barhaus.
Mae’r tîm yn gweinyddu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys gofal plant i rai 2 oed, y Cynnig Gofal Plant i rai rhwng 3 a 4 oed a’r Cyfle Cynnar.
Gallant ddarparu cyngor a chymorth i blant sydd ag anghenion sy’n dod i’r amlwg, gan weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr addysg, iechyd a’r trydydd sector.
Ymwelwch â’n tudalennau gofal plant am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â’r Ganolfan Blynyddoedd Cynnar.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â CCODigitalSystem@siryfflint.gov.uk neu 01352 703930.
Rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael ag amrywiaeth a chynhwysiant mewn modd ystyrlon, adeiladol a holistaidd.
Llais Rhieni
Rydym wedi gwrando ar adborth rhieni ynghylch beth fyddai’n ddefnyddiol, a thrwy weithio gyda rhieni a gwasanaethau, rydym wedi creu adran ar wefan Cyngor Sir y Fflint.
Dywedodd rhieni wrthym fod arnynt eisiau:
- I blant fod wrth wraidd y gwasanaeth
- Iaith syml a hawdd ei deall
- Gwybodaeth am iechyd a diogelwch sy’n hawdd ei deall
- Gwybodaeth syml, ar gael a hygyrch i helpu rhieni i helpu eu plentyn
- Cael eu cynnwys
- Cymorth i ganfod datrysiadau
- Cymorth i ddeall beth sydd ar gael
- Cymorth i nodi anghenion a beth y gellir ei wneud
- Straeon - i wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain ac y dylai unrhyw gysylltiad fod yn syml a gwneud gwahaniaeth
- Gwasanaethau sy’n bwysig ac yn hyblyg, cyson, agored, parod i wrando, perthynol, deallgar, cyfrifol, di-dor, gofalgar, awyddus i wneud gwahaniaeth, gweld y gorau ym mhobl a chanfod ffordd ymlaen mewn modd anfeirniadol, gonest a ffyddlon.
Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi a byddwn yn croesawu eich adborth - a oes unrhyw beth a oedd yn arbennig o ddefnyddiol? a oes unrhyw beth ar goll neu angen newid? os felly, rhowch wybod i ni er mwyn i ni fedru parhau i ddatblygu’r wybodaeth i helpu bob rhiant.
Gallwch gysylltu â ni ar EarlyYearsTeam@siryfflint.gov.uk.
I ddysgu mwy am yr hyn sy’n siapio ein gwaith, ymwelwch â: