P'un a ydym yn dechrau ar daith, nid yw wedi bod yn rhan o'n trefn ers tro, neu rydym yn defnyddio ychydig neu lawer o Gymraeg bob dydd, mae Cymraeg yn rhan o bwy ydym ni - ein hiaith ni yw hi, mae'n perthyn i ni i gyd.
Rydym wrth ein bodd yn clywed Cymraeg yn ein cymunedau ac mae llawer o leoedd/gwasanaethau lle mae’r Gymraeg i’w gweld a’i chlywed.
Yma yn Sir y Fflint rydym yn dyheu am bobl o bob oed i wella eu Cymraeg a chael y gallu i’w defnyddio’n hyderus gartref, yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith ac allan yn y gymuned.
Cymraeg. Mae’n perthyn i ni oll.
Gall dysgu a siarad Cymraeg gadw ein hymennydd yn heini ac iach!
Mae Cymraeg yn iaith fywiog a gellir ei chlywed yn y gweithle, siopau, caffis a thafarndai.
Mae’n bwysig, pan fyddwn ni ar ein mwyaf bregus, ein bod ni’n derbyn cefnogaeth yn yr iaith rydyn ni’n teimlo fwyaf cyfforddus.
Gyda phoblogaeth o dair miliwn, hunaniaeth ddiwylliannol unigryw, cefn gwlad hardd, a chymunedau cryf ac amrywiol, mae Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo.
Rydym yn falch o'n diwylliant a'n treftadaeth ieithyddol; Mae’r Gymraeg yn un o'r ieithoedd lleiafrifol cryfaf yn Ewrop a chredir mai dyma’r iaith hynaf i oroesi yn Ewrop.
Darganfod mwy
Cymru = WalesSir y Fflint = FlintshireCymraeg = Welsh languagePobl = PeopleCroeso = Welcome
Cymru = WalesCymraeg = Welsh languageSir y Fflint = FlintshirePobl = PeopleCroseo = Welcome
Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Fel siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, gadewch i ni wneud y mwyaf o’n hawliau a dewis yr iaith.
Browser does not support script.