Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n hunaniaeth Gymreig fodern.
Rydym ni’n gallu mwynhau bywyd teuluol, addysg, gwaith a hamdden oll drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gwasanaethau Cymraeg yn sicrhau fod anghenion pobl yn cael eu deall ac yn cael eu bodloni a bod y rhai hynny sy’n gallu cael at wasanaethau yn gallu dibynnu ar gael eu trin gyda’r urddas a’r parch maen nhw’n ei haeddu.
"Mae’r Gymraeg – yn rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau bob dydd. Mae’n rhan o’n hetifeddiaeth gyffredin a’n hunaniaeth fel cenedl” Llywodraeth Cymru
Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu y bydd cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i rai swyddi.
Dydi swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ddim bob amser yn golygu gallu siarad bob gair yn y Gymraeg - mae’n gallu golygu gallu rhoi cyfarchiad syml neu gallu cael sgwrs bob dydd yn y Gymraeg.
Mae gallu ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd yn gallu bod yn bwysig i rai swyddi, ond peidiwch â gadael i’r syniad o ddefnyddio neu wella eich sgiliau ysgrifennu neu lafar eich atal.
Pa bynnag lefel sydd ei angen o ran y Gymraeg mae llawer o sefydliadau yn rhoi hyfforddiant o ran y Gymraeg i weithwyr a hefyd cefnogaeth a chyfle i ymarfer yn y gwaith.
Stori Laura
Stori Darren
Sali o Sir y Fflint yn Cysylltu
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Manteision Ymennydd Dwyieithog
Stori Jane
Browser does not support script.