Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol ar gyfer 156,100 o bobl sy’n byw ar 69,729 o aelwydydd.
Rydym yn cyflogi 6,113 aelod o staff, sy’n golygu mai’r Cyngor yw’r ail gyflogwr mwyaf yn y Sir, ac mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys, addysg, tai, hamdden, llyfrgelloedd, cynllunio, casglu sbwriel, iechyd yr amgylchedd, ailgylchu, ffyrdd, gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, trafnidiaeth a thwristiaeth.
Mae 78 o ysgolion yn Sir y Fflint (64 o rai Cynradd, 11 Uwchradd, 2 Arbenigol, 1 Uned Cyfeirio Disgyblion, ac mae 23,716 o ddisgyblion yn mynd iddynt.
Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cymorth i fwy na 5000 o oedolion a 2000 o blant bob blwyddyn.
Mae gan Gyngor Sir y Fflint, saith llyfrgell, deg o ganolfannau chwaraeon a hamdden (wyth ohonynt dan reolaeth Aura Cymru a dwy wedi’u trosglwyddo fel Asedau Cymunedol), tri o barciau gwledig, ffermydd sirol ac mae’n cynnal 1174.8 km o ffyrdd.
Mae Tai ac Asedau yn rheoli ac yn cynnal a chadw oddeutu 7312 o eiddo y mae’r cyngor yn berchen arnynt, gan gynnwys 1460 o eiddo gwarchod.